Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Oherwydd pandemig COVID-19 yn 2020, bu rhaid i sefydliadau gynllunio ac addasu o fewn wythnos er mwyn symud eu gweithlu cyfan bron i weithio o bell, ac roedd yn rhaid i'r rheini a oedd yn gorfod aros 'ar y safle’ roi mesurau diogelwch ar waith yn gyflym. Roedd hwn yn ymateb byd-eang digynsail na fyddai llawer o sefydliadau wedi'u rhagweld a bu rhaid iddynt addasu eu dull cynllunio.

Ceir ansicrwydd yn gyson, ac er mwyn ffynnu, bydd angen i sefydliadau ac unigolion ddatblygu'r sgiliau ar gyfer y dyfodol a chynllunio ar gyfer rhagolygon, er mwyn cynllunio ar gyfer y diarwybod a'r hyn sy'n hysbys. 

Mae'r cwrs yn eich cyflwyno i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac at ragolygon ac yn archwilio fframweithiau gwahanol i ddatblygu eich sgiliau i gynllunio ar gyfer dyfodol ansicr ac yn ystyried sut y gallwch ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy yn wyneb newid sy'n parhau ac esblygu disgwyliadau'r cyflogeion. 


Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • datblygu'ch dealltwriaeth o gynllunio dyfodol a'ch dull o wneud hynny
  • gwerthuso sut i ddiffinio'ch diben fel tîm, adran, neu sefydliad
  • dadansoddi'ch cwestiynau 'Pam' er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau yn well
  • archwilio detholiad o ddulliau a methodolegau i wneud synnwyr o sefyllfaoedd a chynllunio unrhyw newidiadau sydd eu hangen gyda rhagweledigaeth
  • dehongli a rheoli ansicrwydd yn fwy hyderus ac effeithiol.


Cyhoeddwyd gyntaf: 20/12/2022

Hepgor Graddau y Cwrs