Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

A oes gennych chi brofiad o fod mewn gofal ac yn ystyried mynd i’r brifysgol?

Diweddarwyd Dydd Mercher, 22 Mawrth 2023

Os ydych chi yng Nghymru, os ydych chi â phrofiad o ofal ac yn ystyried mynd i'r brifysgol, mae'r wefan hon yn addas i chi.

Mae CLASS Cymru yn sefyll am Care Leavers Activities and Student Support, (Gweithgareddau i Bobl sy'n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr), ac mae'n cynnwys prifysgolion, colegau, gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau ledled Cymru sy'n cefnogi'r rhai sydd â phrofiad o ofal i fynd ymlaen i Addysg Bellach ac Uwch.


Cartŵn o ddyn, dynes a phlentyn yn ei arddegau yn gwenu


Mae gwefan CLASS Cymru wedi'i chynllunio i gynnig cyngor clir a chryno ac i gyfeirio at ffynonellau cymorth a gwybodaeth perthnasol. Gan gwmpasu'r llinell amser gyfan o ystyried gradd prifysgol hyd at beth i'w wneud pan fyddwch yn graddio, mae'r adnodd dwyieithog hwn yn darparu siop un stop i bobl sydd â phrofiad o ofal a'r rhai sy'n eu cefnogi ar gyfer dod o hyd i'r wybodaeth allweddol sy'n angenrheidiol i symleiddio'r broses hon.

Archwiliwch CLASS Cymru


Mae meysydd cymorth yn cynnwys:

  • Cyn y brifysgol
  • Gwneud ceisiadau
  • Trosglwyddo i’r brifysgol
  • Astudio yn y brifysgol
  • Ar ôl y brifysgol
  • Cyngor a chymorth

university ready - white back

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?