Beth yw ymddieithrio?
Os ydych wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni, mae’n golygu bod y berthynas â’ch rhieni (naill ai eich rhieni biolegol neu eich rhieni mabwysiadol) wedi chwalu’n llwyr, heb fod unrhyw siawns o gymodi, ac nad ydych mewn cysylltiad â’r un o’r ddau. Os yw un o’ch rhieni wedi marw ac os nad ydych mewn cysylltiad o gwbl â’r rhiant arall, mae hynny’n cyfateb i ymddieithrio hefyd. Efallai eich bod wedi penderfynu eich bod yn well eich byd trwy adael cartref teuluol anodd neu efallai fod eich rhieni wedi eich diarddel. O’r herwydd, efallai nad oes gennych unrhyw gysylltiad ag aelodau eraill o’r teulu, yn cynnwys brodyr neu chwiorydd, ond nid yw hyn mor berthnasol i astudio yn y brifysgol, yn enwedig i gyllid myfyrwyr.
Y mater allweddol yw’r ffaith na chaiff myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio gymorth ariannol, cymorth emosiynol na chymorth o fath arall gan eu rhieni (biolegol neu fabwysiadol) ar gyfer eu hastudiaethau addysg uwch. Maent yn hunanddibynnol ac yn byw’n annibynnol, weithiau gyda chyfeillion neu berthynas fel taid neu nain, naill ai cyn mynd i’r brifysgol neu yn ystod eu hastudiaethau.
Mae cymorth ar gael
Mae ymddieithrio’n llawer mwy cyffredin nag y tybiech. Os ydych yn annibynnol eisoes gan eich bod wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni, neu os ydych yn credu bod hynny’n debygol o ddigwydd cyn ichi fynd i’r brifysgol neu yn ystod eich astudiaethau, mae cymorth ar gael ichi. Mae gan yr elusen Stand Alone amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu yn y porth cymorth i fyfyrwyr.
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi casglu gwybodaeth bwysig ynghyd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a gall helpu myfyrwyr i wneud cais.
Mae gan bob prifysgol ei phecyn cymorth ei hun ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio, felly edrychwch ar wefan pob prifysgol.
Ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan UCAS. Ac os byddwch wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gais UCAS, hyd yn oed am gyfnod byr iawn, ticiwch y blwch ‘wedi ymddieithrio’. Bydd hyn yn helpu’r brifysgol y byddwch yn astudio ynddi i wybod eich bod ar ddod a bydd modd i staff cymorth myfyrwyr gysylltu â chi er mwyn trefnu’r cymorth iawn ar eich cyfer. Bydd eich gwybodaeth yn gyfrinachol – yr unig rai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth â nhw fydd pobl eraill yn eich prifysgol y rhoddwch ganiatâd inni roi gwybod iddynt.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon