Mae dewis mynychu prifysgol yn gam mawr, felly mae hi’n naturiol iawn ystyried ai dyna’r penderfyniad cywir. Efallai eich bod yn cwestiynu eich gallu neu yn poeni am ffitio mewn? Efallai eich bod yn poeni am arian neu dan straen wrth wneud cais?
Mae Sgwrsio am Brifysgol yn bodlediad sydd wedi ymrwymo i rannu gwir brofiad myfyrwyr. Byddwn yn archwilio ac yn trafod yr holl feddyliau a theimladau a allai fod gennych, er mwyn eich paratoi i wneud y penderfyniadau cywir.
Gwrandewch a thanysgrifiwch i Sgwrsio am Brifysgol ar Spotify, Apple Podcasts, Amazon Music, neu le bynnag yr ydych yn cael eich podlediadau. Os hoffech wrando arno nawr, cliciwch y dolenni isod.
Pennod 1: A yw’r brifysgol yn addas i mi?
Mae cymaint o bethau i’w hystyried y dyddiau hyn cyn penderfynu a yw bywyd prifysgol yn addas i chi. Yn y bennod gyntaf hon rydym yn trafod ystod o faterion a fydd efallai’n eich helpu chi i wneud y penderfyniad cychwynnol hwnnw, gan ymdrin â llu o brofiadau amrywiol. Ac os ydych yn meddwl y gallai’r brifysgol fod yn addas i chi, rydym yn edrych ar sut mae mynd ati i ddewis y brifysgol a’r cwrs delfrydol, yn ogystal â llu o bethau eraill!
Pennod 2: Sut mae mynd drwy’r broses ymgeisio?
Sut ydych chi’n penderfynu lle a beth i astudio, a dewis y cwrs perffaith i chi? A lle dylech chi ddechrau gyda’ch Datganiad Personol? Yn y bennod hon rydym yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio, cam wrth gam, ac yn rhannu profiadau bywyd go iawn o’r broses ymgeisio, o Ffeiriau UCAS a Diwrnodau Agored, i benderfynu astudio try gyfrwng y Gymraeg, i lunio dewisiadau pendant a mynd drwy’r system Glirio.
Pennod 3: Fydda i’n ffitio i fywyd myfyriwr?
Mae bywyd prifysgol yn fwrlwm o brofiadau newydd - sy’n gyffrous ond hefyd yn frawychus. Yn y bennod hon rydym yn sgwrsio’n onest ynglŷn â’r agweddau cymdeithasol ar fywyd prifysgol - profiad y glas, gwneud ffrindiau, byw oddi cartref - neu’n wir, aros gartref. Nid ymwneud ag astudio yn unig mae bywyd prifysgol – rydym yn rhannu ychydig o awgrymiadau ac yn chwalu rhai o’r mythau sydd ynghlwm â phrofiad cymdeithasol y myfyriwr.
Pennod 4: A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?
Ydych chi’n poeni am y gost o fynd i’r brifysgol? Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael ag arian yn uniongyrchol. Rydym yn trafod cyllidebu, rheoli eich arian a byw’n annibynnol, yn ogystal â Chyllid Myfyrwyr a ffyrdd ymarferol o gydbwyso swydd wrth astudio.
Pennod 5: A alla’ i gymryd y naid i astudiaeth academaidd uwch?
Ydych chi’n poeni am yr heriau o astudio yn y brifysgol? Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael â bywyd academaidd yn y brifysgol. Cawn glywed am brofiadau gwirioneddol myfyrwyr, ffyrdd newydd o astudio, rheoli amser, astudio trwy gyfrwng y Gymaeg, yr her o ddelio ag aseiniadau ac arholiadau - ac yn bwysicach na dim, y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael pan fo’i hangen.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Rate and Review
Rate this audio
Review this audio
Log into OpenLearn to leave reviews and join in the conversation.
Audio reviews