Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Teimlo eich bod yn perthyn ac addasu i fywyd prifysgol

Diweddarwyd Dydd Mercher, 14 Mehefin 2023

Mae’n naturiol ichi bendroni sut fyddech chi’n perthyn yn y brifysgol. Mae myfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Caerdydd a’r Fro yn rhannu eu hawgrymiadau ar gyfer canfod eich lle. 

Pryd bynnag rydym yn ymuno â chymuned newydd, mae'n naturiol i boeni am berthyn a ph’un a fyddwn yn llwyddo.

Wrth ichi ddechrau pontio i goleg neu brifysgol newydd, mae’n debyg y byddwch yn teimlo’n nerfus ac yn poeni sut fyddech chi’n perthyn. Beth fydd barn myfyrwyr eraill ohonoch chi? Beth fydd barn y darlithwyr ohonoch chi? A fyddwch chi’n gallu gwneud y gwaith? Ac ai chi fydd yr unig un a fydd yn ei chael hi’n anodd? Mae myfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Caerdydd a’r Fro yn rhannu eu hawgrymiadau ar gyfer paratoi at bontio.


Trawsgrifiad (Dogfen PDF117.3 KB)


1. Cysylltu â myfyrwyr eraill

Ceisiwch ddod o hyd i bobl eraill sydd ar eich cwrs, sydd eisoes ar eu blwyddyn gyntaf. Efallai y gallant gynnig mewnwelediad a chyngor gwerthfawr ichi.

2. Cynnig adborth i’r sefydliad

Byddwch yn glir o’r dechrau pa gymorth sydd ei angen arnoch chi. Cysylltwch â’ch coleg neu brifysgol cyn dechrau ar eich cwrs, er mwyn iddynt wybod sut i’ch cynorthwyo chi.

3. Chwilio am esiamplau

A ydych yn parchu unrhyw fyfyrwyr neu bobl o fewn eich sector? Beth allwch chi ei ddysgu ganddynt?

4. Dod i ddeall y cymorth sydd ar gael

Bydd gan brifysgolion a cholegau ystod eang o gymorth ar gael, gan gynnwys cyngor ar yrfaoedd, llesiant a sgiliau astudio. Felly peidiwch â brwydro drwy bopeth, manteisiwch ar y cymorth sydd ar gael!

5. ‘Myfyrio ar eich gwerthoedd’

Gwnewch hyn er mwyn nodi beth sy’n bwysig i chi. Yna, gwiriwch yn rheolaidd a ydych yn treulio amser ac yn gwneud penderfyniadau sy’n cefnogi'r gwerthoedd hynny.



university ready - white back

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?