Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol. Gallwch hefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn a Gwaith tîm: cyflwyniad i lywodraethwyr ysgol.
Mae'r cwrs yn ystyried rhai o faterion a chysyniadau allweddol arweinyddiaeth addysgol ac, ymhlith pethau eraill, bydd yn trafod yr hyn y gellid ei ystyried yn arferion da mewn arweinyddiaeth addysgol a sut y gellid deall a datblygu'r gallu i wella.
Mae’r Cwrs Agored Bathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a myfyrdodau ychwanegol a all eich helpu yn eich rôl fel llywodraethwr.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
First Published: 25/09/2020
Updated: 25/09/2020