Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Beth yw arweinyddiaeth addysgol?

Mae arweinyddiaeth yn fater cymhleth: mae llu o gyhoeddiadau wedi'u hysgrifennu ar y pwnc. Dylid nodi o'r cychwyn cyntaf nad oes un ffordd gywir o arwain ac nad oes unrhyw atebion cyflym na rysáit hawdd ar gyfer datrys heriau arweinyddiaeth addysgol.

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno rhai o'r adnoddau a'r syniadau academaidd a fydd yn eich helpu i ddatblygu safbwynt beirniadol o ran dulliau arwain yn eich cyd-destun eich hun. Mae pob un ohonom wedi profi arweinyddiaeth eraill yn ein bywydau proffesiynol a phersonol, a bydd gan bob un ohonom farn o ran pa weithredoedd, ymddygiadau a strategaethau arwain a all fod eu hangen mewn sefyllfa benodol.

Fodd bynnag, gall ystyr termau fel ‘arweinyddiaeth’, ‘arwain’, ‘gweinyddu’ neu ‘rheoli’ beri dryswch mewn sefydliadau. Dros amser, mae enwau rolau wedi datblygu er mwyn adlewyrchu faint o arweinyddiaeth sy'n ddisgwyliedig. Mae ysgolion yn defnyddio termau fel:

  • ‘rheolwyr canol’
  • ‘arweinwyr pwnc’
  • ‘arweinwyr dysgu’
  • ‘uwch dimau rheoli’
  • ‘uwch dimau arwain’.

Yr hyn a dderbynnir yn gyffredinol yw bod:

  • llawer o weithwyr proffesiynol yn arwain
  • sawl aelod o sefydliad yn gallu cyflawni tasgau arweinyddiaeth, gydag awdurdod swydd a hebddo.

Mae llawer o rolau yn gyfuniad o ‘arwain’ a ‘rheoli’, a bydd y pwyslais yn amrywio o berson i berson ac o sefydliad i sefydliad. Mae arwain wedi cael ei ddisgrifio fel gweithio gyda phobl er mwyn newid ymddygiadau, agweddau a gwerthoedd, tra bo rheolwyr yn fwy tebygol o gynnal perfformiad pobl a systemau. Fodd bynnag, o safbwynt academaidd, mae arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol yn parhau i fod yn gysyniadau dadleuol!

Gweithgaredd 1: Arwain a Rheoli

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Ystyriwch y strwythurau ‘arwain a rheoli’ mewn sefydliad sy'n gyfarwydd i chi. Pwy sy'n ymddangos fel petai'n gyfrifol am arwain fel rhan o'i rôl a pha dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi'r farn hon?

Meddyliwch am rai enghreifftiau o newid yn eich ysgol sydd o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i arferion arwain da a'u rhestru. Eto, pa dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi eich barn?

Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod.

Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Comment

Mae ysgolion yn amrywio o ran cyfnod, maint a lleoliad. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae gan y mwyafrif o ysgolion eu pennaeth eu hunain o hyd, a fydd yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Llywodraethu ac yn atebol iddo; mae'n debygol bod gan yr unigolyn hwn farn a dylanwad sylweddol ar y strwythurau arwain a rheoli sy'n bodoli.

Bydd y mwyafrif o benaethiaid yn rhai nad ydynt yn addysgu, ond mae nifer bach o ysgolion (gwledig yn bennaf) lle mae gan benaethiaid rai ymrwymiadau addysgu o hyd, ac felly dim ond rhan o'r wythnos fydd ganddynt i arfer arweinyddiaeth a chyflawni dyletswyddau rheoli. Mae'n ddigon posibl bod gan aelodau eraill o'r staff lwythi gwaith addysgu llai am fod amser wedi'i neilltuo iddynt gyflawni cyfrifoldebau arwain a rheoli. Caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud ar lefel yr ysgol unigol.

Dylai fod gan ysgolion strwythurau arwain hierarchaidd clir ar waith, a all gynnwys dirprwy benaethiaid, penaethiaid cynorthwyol a chyfrifoldebau addysgu a dysgu penodol. Bydd nifer y bobl sy'n cyflawni'r rolau ffurfiol hyn sy'n cael cydnabyddiaeth ariannol yn dibynnu ar faint yr ysgol a'r cynllun dewisol y gall penderfyniadau penaethiaid blaenorol a chyrff llywodraethu fod wedi dylanwadu arno. Gall newid y strwythurau fod yn eithaf anodd, am amrywiaeth o resymau, ac ni welwyd fawr ddim newid i ddulliau gweithredu deddfwriaethol na chyflogedig mewn perthynas â rheolwyr canol dros yr hanner canrif diwethaf. Y newid diwethaf a welwyd yn y maes hwn oedd cyflwyno cyfrifoldebau addysgu a dysgu yn 2006 ac mae'r rhain ar gael mewn bandiau.

Mae'n bosibl y bydd adroddiadau penaethiaid i'r Corff Llywodraethu yn darparu lefel dda o fanylder am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyflawni Cynllun Datblygu neu Wella'r Ysgol, ac mae'n bosibl y bydd y staff yn cael eu henwi fel rhan o'r broses hon. Mae'n bosibl hefyd y bydd aelodau o'r staff yn rhoi cyflwyniadau i'r Llywodraethwyr sy'n myfyrio ar y dulliau arwain a gafodd eu defnyddio a'u gwerthuso. Fodd bynnag, bydd y dull gweithredu a ddewisir yn amrywio o ysgol i ysgol. Mae'n bosibl hefyd y bydd enghreifftiau o arweinyddiaeth gan aelodau o'r staff nad oes ganddynt rolau arwain ffurfiol. Bydd ysgolion yn dewis dosbarthu neu ddirprwyo cyfrifoldebau arwain mewn ffyrdd gwahanol, a gall agenda ddatblygiadol yr ysgol, nifer y staff a'r gyllideb sydd ar gael, ddylanwadu ar hyn.

Bydd adegau pan fydd angen i ysgolion ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth ac ystyried dull gweithredu newydd neu sy'n datblygu. Gallai hyn fod yn newid i ofynion TGAU mewn pwnc cwricwlwm, a allai olygu bod nifer bach o'r staff yn cael eu harwain gan unigolyn. Fodd bynnag, gydag enghraifft megis rhoi cwricwlwm Donaldson ar waith, mae'n debygol y bydd gan sawl aelod o'r staff rôl arwain a bydd effaith newid macro o'r fath yn cael ei theimlo ym mhob rhan o gymuned yr ysgol.