6 Adolygu eich dysgu
Y gweithgaredd olaf yw cyfle i chi ailymweld â'ch dysgu a myfyrio ar rai o'r prif themâu o'r cwrs hwn ar arweinyddiaeth. Efallai y bydd angen i chi ailedrych ar rywfaint o'ch gwaith darllen cynharach er mwyn atgyfnerthu rhai o'r cysyniadau arweinyddiaeth sydd wedi'u cyflwyno.
Gweithgaredd 9: Amser i fyfyrio
Amlinellodd adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (2016) ddeg nodwedd gyffredin a ddangoswyd gan arweinwyr. Ystyriwch y rhain yn eu tro a, gan ddefnyddio'ch dealltwriaeth o arweinyddiaeth drafodaethol a thrawsnewidiol, nodwch a oes gan un o'r arddulliau arweinyddiaeth ystrydebol hyn fwy o botensial i ymdrin â phob nodwedd, neu a ydych chi'n meddwl bod angen elfennau o'r ddau arddull. Dylech hefyd ailedrych ar erthygl Stoll a Temperley ‘Creative leadership: a challenge of our times’ (2009) a nodi pa rai o'r ‘amodau ar gyfer hyrwyddo a meithrin creadigrwydd cydweithwyr’ allai ychwanegu at debygolrwydd llwyddiant.
Nodwch eich sylwadau yn y blwch isod.
Gallwch lawrlwytho'r holl sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn ystod y cwrs drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs.
Comment
Bydd eich ymatebion i hyn yn eithaf personol ac, at ddiben y gweithgaredd hwn, yn ddehongliad o bopeth rydych wedi'i ddarllen a'i ddysgu. Mae'n bwysig cofio y dylid ystyried arweinyddiaeth drafodaethol a thrawsnewidiol yn gysyniadau ystrydebol, a bod llawer o'r hyn a ystyrir yn arweinyddiaeth yn gyfaddawd, gydag elfennau o'r naill arddull a'r llall.
Mae'n bwysig ystyried faint o amser sydd gan sefydliad i fynd i'r afael ag unrhyw waith datblygu mewn ysgol. Os oes amserlen dynn, megis ymateb i argymhellion gan Estyn yn dilyn arolygiad, a bod ymweliad monitro wedi'i drefnu, mae'n bosibl y bydd angen rhoi arweinyddiaeth fwy drafodaethol ar waith.
Os oes mwy o amser ar gael, yna mae'n bosibl y gellir rhoi dull mwy trawsnewidiol ar waith. Fodd bynnag, ni ddylid tybio hyn.
Isod, ceir rhai awgrymiadau sy'n cynnwys rhai o nodweddion Estyn yn ogystal â rhai o'r cyfleoedd creadigol o erthygl Stoll a Temperley. Enghreifftiau yn unig yw'r rhain.
Diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella.
Bydd angen newid er mwyn esblygu a bydd angen i arweinwyr fod yn fodelau rôl yn y broses hon er mwyn dangos ei bod yn dderbyniol arbrofi â syniadau newydd. Gellir hwyluso'r dull hwn drwy ‘gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl a phrofiadau newydd i gydweithwyr.’ Mae angen herio arferion sefydledig a gwthio ffiniau'r meddwl. Heb ddull gweithredu o'r fath, mae'n annhebygol y ceir esblygiad gwirioneddol.
Er mwyn cyflawni hyn, mae'n bwysig bod arweinwyr yn ‘rhoi amser a lle i hwyluso'r broses.’ Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i syniadau creadigol ddod i'r amlwg a fydd yn galluogi'r ysgol i esblygu a gwella, gan sicrhau bod ‘gwerthoedd craidd’ yn parhau i fod yn bwynt cyfeirio pwysig.
Mae gan bob ysgol werthoedd craidd penodol sy'n debygol o fod wedi esblygu dros amser. Mae'n bwysig cadw'r rhain mewn cof a dangos parch tuag at y gorffennol, gan geisio diffinio ffyrdd newydd o weithio ar yr un pryd. Drwy wneud hyn, mae'n debygol y bydd mwy o ‘ymrwymiad’ a ‘pherchenogaeth’ mewn perthynas â'r daith esblygol a ddiffinnir yn y weledigaeth. Nid oes angen i esblygiad fod yn chwyldroadol!
Sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith y staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol.
Ynghyd â ‘rhoi amser a lle i hwyluso'r elfennau ymarferol’, gellir elwa llawer ar ‘hyrwyddo meddwl a dylunio creadigol unigol a chydweithredol’. Mae gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol yn cymryd amser, ac mae hyn yn debygol o fod yn gyfuniad o'r amser y byddwch yn ei dreulio ar eich pen eich hun a'r amser y byddwch yn i dreulio gyda chydweithwyr. Yn aml, gall rhannu ac ystyried syniadau mewn grwpiau arwain at fireinio syniadau neu alluogi syniadau newydd i ddod i'r amlwg, a gall hyn fod yn agwedd bwysig ar sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol.
Mae angen i arweinwyr ‘osod disgwyliadau uchel o ran graddau creadigrwydd’ a modelu'r broses hon lle bynnag y bo'n bosibl. Mae hyn yn meithrin hyder ac yn helpu i feithrin ymdeimlad o ymddiriedaeth a pherchenogaeth.
Nid oes yr un ateb ‘cywir’ i'r gweithgaredd hwn. Y prif nod yw eich helpu i ddatblygu eich gwerthfawrogiad bod arweinyddiaeth yn gymhleth ac yn agored i'w dehongli bob amser. Mae ysgolion yn datblygu, felly hefyd yr unigolion sydd ynddynt; felly mae angen i arweinyddiaeth ddatblygu hefyd. Fel yr oedd Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn cynnwys pedwar categori gwahanol er mwyn dangos sefyllfaoedd amrywiol ysgolion – dechrau'r daith, gwneud cynnydd, adeiladu momentwm a chynnal safonau uchel – bydd gwahaniaethau wrth ddadansoddi a myfyrio ar bob un o'r nodweddion gwahanol ym mhob ysgol hefyd.
Yng ngeiriau Stoll a Temperley (2009), mae angen i arweinydd neu dîm arwain llwyddiannus wneud y canlynol: ‘explore and develop their capacity to create the conditions, culture and structures in which learning-focused innovation and creativity best thrive.’ Mae hyn yn cynnwys datblygiad dysgu proffesiynol perthnasol a chynllun gwella gyda meini prawf llwyddiant y gellir eu gwerthuso gyda thystiolaeth wrthrychol. Nid yw bod yn llywodraethwr ysgol yn hawdd, ond gobeithio nawr eich bod yn teimlo'n fwy hyderus i ymgymryd â rôl fwy gwybodus a gweithredol yn nhaith ddatblygiadol eich ysgol.