Dysgwch fwy am gyrsiau a chymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Y Brifysgol Agored.
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at hunanladdiad ac yn trafod colli babi. Os oes angen cymorth arnoch, gellir cysylltu â’r Samariaid ar 116 123.
6 Piler Diwrnod Rhyngwladol Dynion yw:
Hyrwyddo esiamplau gwrywaidd cadarnhaol: nid yw hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar yr esiamplau a allai fod yn gyfarwydd i ni fel sêr y byd ffilmiau, athletwyr Olympaidd a mabolgampwyr yn unig, ond dynion dosbarth gweithiol bob dydd sy'n byw bob dydd ac yn ymdopi.
Dathlu cyfraniadau cadarnhaol dynion i gymdeithas: mae hyn yn cynnwys eu cyfraniad i'r gymuned, i deuluoedd, priodas, gofal plant, ac i'r amgylchedd. Gallai hyn fod yn ymwneud ag annog dynion i addysgu'r bechgyn yn eu bywydau am werthoedd, cymeriad a chyfrifoldebau bod yn unigolyn ystyriol a chyflawn.
Canolbwyntio ar iechyd a lles dynion: hynny yw'r agweddau cymdeithasol, emosiynol, corfforol ac ysbrydol sy'n cyfrannu at ymdeimlad o’ch hunain.
Amlygu gwahaniaethu yn erbyn dynion: ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol, agweddau a disgwyliadau cymdeithasol, a'r gyfraith.
Gwella cysylltiadau rhwng y rhywiau a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol: mae hyn yn cynnwys dynion a menywod yn arwain trwy esiampl i greu cymdeithas deg a diogel sy'n rhoi cyfle i bawb ffynnu.
Creu byd gwell a mwy diogel: lle gall pobl fod yn ddiogel a thyfu i gyrraedd eu llawn botensial.
Pam canolbwyntio ar ddynion?
- Mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol na menywod o farw trwy hunanladdiad.
- Dynion 40 i 49 oed sydd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf yn y DU.
- Mae dynion yn llai tebygol o geisio cymorth megis therapïau seicolegol o gymharu â menywod.
- Mae dynion yn llawer mwy tebygol o fynd ar goll, cysgu ar y stryd, a dod yn ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.
Er bod y ffeithiau hyn yn cynrychioli rhagolygon digalon, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Mae hwn i'w weld ar waelod yr erthygl hon (Sefydliad Iechyd Meddwl, 2022).
Pam nad yw rhai dynion yn siarad am sut maent yn teimlo?
Syniadau am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddyn a disgwyliadau cymdeithas ohonynt yw rhai o’r rhesymau pam mae dynion yn llai tebygol o siarad am geisio cymorth gydag unrhyw broblemau y gallent fod yn eu profi, gan gynnwys iechyd meddwl. Yn aml disgwylir i ddynion fod y prif enillwyr cyflog y cartref a bod yn gryf, yn gadarn ac yn rheoli. Er bod y rhain yn nodweddion cadarnhaol, gallant ei gwneud yn fwy heriol i ddynion geisio cymorth, boed hynny gyda'u ffrindiau, eu teulu, neu wasanaethau cymorth ffurfiol.
Uno cymuned o ddynion: siediau
Mae llawer o ddynion gan gynnwys aelodau o'r teulu wedi cyfrannu at un neu fwy o bileri Diwrnod Rhyngwladol Dynion ac mae rhai wedi gwneud hynny oherwydd cyfnod heriol yn eu bywydau. Mae mudiad Men's Shed, menter a ddatblygwyd yn Awstralia gan Maxine Chaseling a oedd yn poeni am iechyd ei thad, yn un mudiad o'r fath sydd ers dros dri degawd wedi parhau i gysylltu dynion a grymuso cymunedau i leihau unigedd ymhlith dynion. Mae'r mudiad wedi dod yn amlwg yn y DU, Seland Newydd, Iwerddon a mannau eraill yn Ewrop. Yn ogystal ag argaeledd ymyriadau iechyd uniongyrchol fel gwiriadau iechyd, a dosbarthu taflenni ar sgyrsiau iechyd, mae’r buddion anuniongyrchol yn cynnwys cadw llygad ar ein gilydd a chyd-gymorth (Cordier a Wilson, 2013).
Dod at ein gilydd trwy bêl-droed yn dilyn colled
Yn y DU, mae llawer o ddynion hefyd wedi cael eu huno gan gymuned o gymorth emosiynol a gweithgaredd corfforol trwy bêl-droed fel Sands Utd. Trefnodd sylfaenydd Sands Utd, Rob Allen, gêm bêl-droed elusennol ar ôl i ferch fach ef a'i wraig Charlotte, farw ar 9 Hydref 2017. Cafodd y pâr eu cefnogi gan Sands, elusen sy'n cefnogi rhieni mewn profedigaeth yn dilyn colli beichiogrwydd a marwolaeth cyn geni. Fodd bynnag, mewn un cyfarfod cymorth, sylwodd Rob fod 24 o fenywod a dim ond 3 dyn yn bresennol (Sands, 2021). Wedi’u hysbrydoli gan Rob, bellach gellir dod o hyd i fwy na 30 o dimau ledled y DU i helpu tadau, teidiau, ewythr a brodyr mewn profedigaeth i ymdopi â’u galar.
Yn ddiweddar, bu Dr Kerry Jones, Dr Martin Robb a Dr Sam Murphy yn archwilio profiadau dynion o berthyn i dîm pêl-droed Sands United trwy gyfweld ag aelodau o rai o'r timau. Mae’r rhain wedi’u cyhoeddi yn y llyfr Men and Loss: Perspectives on Bereavement, Grief and Masculinity (golygwyd gan Kerry a Martin).
Ar y cyd â Stephen Doran a Nick Lang fe wnaethant hefyd gynhyrchu dau bodlediad, am brofiadau o alar a cholled yn dilyn marwolaeth babi a beth mae’n ei olygu i berthyn i dîm pêl-droed Sands Utd a ddatblygwyd gan ac ar gyfer tadau.
Wrth ddisgrifio eu profiad o alar yn dilyn colli mab Stephen, Jude ac Evalyn, merch Nick, mae Sands Utd wedi golygu eu bod wedi gallu codi ymwybyddiaeth o golli babi a galar nad yw bob amser yn cael ei gydnabod. Nid yw chwarae mewn gêm yn golygu gorfod bod yn dda mewn pêl-droed, ond mae'n golygu gallu cofio babi gwerthfawr. Mae gwisg pob tîm wedi'i frodio ag enwau'r babi sydd wedi marw sydd wedi galluogi dynion i fod yn agored am eu colled ac i gefnogi ei gilydd.
Beth os ydych chi'n poeni am ddyn yn eich bywyd?
- Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi yno i wrando a pheidio â barnu.
- Cadwch mewn cysylltiad: gall neges destun neu alwad ffôn wneud byd o wahaniaeth.
- Dysgwch am wasanaethau cymunedol neu leol sy'n cefnogi dynion.
- Rhowch sicrwydd iddynt ei bod yn iawn iddynt gael cymorth.
- Gofalwch amdanoch chi'ch hun hefyd: gall cefnogi rhywun arall fod yn anodd.
Beth nawr, beth nesaf?
Efallai eich bod yn cael trafferth neu'n gwybod am rywun sy’n ei chael yn anodd. Gall sawl sefydliad helpu. Efallai eich bod hefyd yn ystyried cymryd rhan mewn menter gymunedol sy'n cefnogi dynion. Mae'r rhain i'w gweld isod. Os ydych chi'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o rai o'r heriau y mae dynion yn eu hwynebu ac am godi proffil esiamplau gwrywaidd cadarnhaol fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion yna gallwch chi ddarganfod mwy yma.
Sefydliadau a all helpu
Mae gan CALM dudalen we os ydych yn pryderu am rywun a allai fod yn meddwl am hunanladdiad a beth i'w ddweud a'i wneud.
Mae gan Fforwm Iechyd Dynion dudalen we gydag erthyglau a blogiau am gymorth i ddynion ac iechyd meddwl. Gellir cysylltu â nhw hefyd dros y ffôn neu drwy e-bost.
Mae Men’s Sheds yn cysylltu â rhwydwaith o ‘siediau i ddynion’ eraill a sut i gychwyn ‘siediau i ddynion’ yn y gymuned i gefnogi iechyd a lles dynion.
Mae gan y Samariaid dudalen we os yw rhywun yn cael trafferth ymdopi neu'n poeni am rywun. Mae modd cysylltu â’r Samariaid hefyd drwy ysgrifennu llythyr atynt drwy lawr lwytho llythyr Rhadbost, ffonio neu anfon e-bost atynt.
Mae gan Sands dudalen we gyda dolenni i grwpiau cymorth, fforymau i rieni a llinell gymorth i rieni mewn profedigaeth yn dilyn marwolaeth babi.
Mae yna hefyd adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon