
Rydym yn gofalu am ein hiechyd corfforol. Mae hefyd angen i ni ofalu am ein hiechyd meddwl.
Pan oeddwn i yn f’arddegau a f’ugeiniau cynnar, roedd gen i broblem ag iselder a bu’n rhaid imi gael cymorth. D’oes ddim angen imi gael unrhyw feddyginiaeth erbyn hyn ond mae angen imi wneud yn siŵr nad ydw i’n gadael i bethau effeithio arna’i. Mae’n rhaid imi beidio â phoeni a hel meddyliau negyddol. Dyma rai pethau sy’n fy helpu:
- Dechrau’r diwrnod drwy feddwl am yr holl bethau cadarnhaol a allai ddigwydd.
- Mynd allan o’r tŷ am o leiaf 15 munud y dydd.
- Trefnu amser yn ystod y dydd i wneud pethau rydych chi’n eu mwynhau: darllen, gwylio un o'ch hoff raglenni teledu.
- Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau: holi sut maen nhw’n teimlo, ydyn nhw’n cael profiadau tebyg i chi? Yn aml, mae rhannu teimladau’n tynnu pobl yn nes at ei gilydd.
- Peidiwch â bod ofn cymryd diwrnod i ffwrdd os ydych chi’n teimlo bod angen i chi ofalu amdanoch chi eich hun.
- Gosod targedau bach hawdd eu cyrraedd i'ch helpu chi i deimlo bod gennych chi reolaeth dros bethau/eich bod chi wedi cyflawni rhywbeth.
- Ystyriwch beth rydych chi wedi’i wneud yn dda heddiw a’i gydnabod (gallai hyn fod yn gysylltiedig â'ch targed).
- Rhoi unrhyw feddyliau negyddol o'r neilltu: mae camgymeriadau’n digwydd, a dyna ni, dysgwch ohonyn nhw.
- Cofiwch - dim ond eich ymddygiad eich hun rydych chi’n gallu ei newid, nid ymddygiad pobl eraill. Os ydi pobl yn cymryd pethau o chwith, eu problem nhw ydi honno.
- Cofiwch beth oedd eich bwriad; yna, gallwch bob amser egluro eich teimladau a'ch meddyliau i chi eich hun ac, os oes angen, i bobl eraill.
- Byddwch yn garedig wrthoch chi eich hun.
- Cysylltwch â rhywun os oes angen help arnoch chi e.e. Y Samariaid - mae pobl yn aml yn teimlo nad ydi'r broblem sydd ganddyn nhw’n ddigon “mawr” i boeni pobl eraill amdani. Ond, os ydi rhywbeth yn eich poeni chi, mae’n bwysig.
- Yn fy marn i, cydbwysedd mewn bywyd ydi hanfod iechyd meddwl; mae’n swnio’n hawdd ond dydi hi ddim bob amser mor hawdd ei gael.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.
Byddwch y cyntaf i adael sylw
Rydym yn eich croesawu i drafod y pwnc, ond cofiwch fod hwn yn fforwm cyhoeddus.
Please be polite, and avoid your passions turning into contempt for others. We may delete posts that are rude or aggressive, or edit posts containing contact details or links to other websites.