Rhybudd ynghylch cynnwys: Ewch yn eich blaen i ddarllen gyda gofal os gall y pwnc hwn beri gofid i chi. Mae rhestr o sefydliadau cymorth ar ddiwedd y dudalen os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o’r profiadau hyn.
Mae erthyliad yn digwydd pan fydd y person beichiog yn dewis dod â'r beichiogrwydd i ben. Gall hyn ddigwydd oherwydd nad ydynt er enghraifft yn teimlo eu bod yn barod i fagu plentyn, neu am resymau meddygol (er enghraifft os oes gan y ffetws gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd neu os yw'r beichiogrwydd yn fygythiad sylweddol i iechyd y rhiant sy’n feichiog). Mae erthyliadau yn gyffredin iawn: mae tua 73 miliwn yn digwydd ledled y byd bob blwyddyn (Bearak et al., 2020) ac, yn 2021, roedd 214,256 o erthyliadau yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Gwella Iechyd ac Anghyfartaledd, 2023). Ac eithrio'r gwaith a wnaed gan Fiona Bloomer a'i chydweithwyr (2017, 2023) yng nghyd-destun Gogledd Iwerddon, ychydig a wyddys am erthyliad yng nghyd-destunau gweithleoedd y DU.
Yn ogystal, mae stigma mawr ynghlwm wrth erthyliad ac yn aml mae'n cael ei ystyried yn fater moesegol yn hytrach na mater gofal iechyd. Gall hyn greu anawsterau sylweddol i'r rhai sy'n dewis dod â'u beichiogrwydd i ben, ac mae hyd yn oed wedi arwain at ddiddymu Roe v Wade a ddaeth â 50 mlynedd o hawliau erthyliad i ben yn yr Unol Daleithiau ar yr un pryd.
Mae ein prosiect Terfyniadau Beichiogrwydd Cynnar a'r Gweithle yn un o'r ychydig astudiaethau sy'n archwilio profiadau pobl mewn cyflogaeth â thâl yn y DU sydd wedi cael erthyliad yn ystod chwe mis cyntaf beichiogrwydd, yn ogystal â'r rhai sydd wedi cael mathau eraill o derfyniadau beichiogrwydd fel camesgoriad neu feichiogrwydd molar (lle nad yw'r wy a gafodd ei ffrwythloni yn datblygu'n iawn). Cynhaliwyd arolwg gennym yn ystod 2022, a ddenodd 226 o ymatebwyr ac o’r rheiny, roedd 39 ohonynt wedi cael erthyliadau.
Yr hyn a oedd yn sefyll allan o ddata ein harolwg oedd bod erthyliadau yn arbennig o heriol i ddelio â nhw ochr yn ochr â gwaith cyflogedig. Er enghraifft, dim ond 55% o'n hymatebwyr yn y grŵp hwn oedd wedi dweud wrth unrhyw un yn y gwaith am eu herthyliad, tra bod 72.5% o'r rhai a brofodd gamesgoriad wedi datgelu hyn i gydweithwyr.
O’r rhai a soniodd eu bod wedi cael erthyliad, dim ond 44.1% ohonynt oedd yn dweud fod y person y bu iddynt rannu hynny gyda nhw yn gefnogol ac eisiau helpu, o'i gymharu â 61.8% o'r rhai a oedd wedi cael camesgoriad. Hyd yn oed yn fwy amlwg, chafodd 44.1% o'r rhai a soniodd am eu herthyliad ddim ymateb o gwbl, o gymharu â 27.7% o'r ymatebwyr a oedd wedi camesgor. Yn yr un modd, pan gymerodd ymatebwyr a gafodd erthyliadau amser i ffwrdd o'r gwaith o ganlyniad, roedd hyn fel arfer am gyfnod llawer byrrach.
Ein dehongliad o'r canfyddiadau hyn yw bod terfynu beichiogrwydd yn cael ei stigmateiddio, neu mae teimlad ei fod yn cael ei stigmateiddio, a bod y stigma sydd yn gysylltiedig ag erthyliadau’n fwy amlwg byth mewn gweithleoedd yn y DU, yn union fel y mae yn y gymdeithas ehangach. Fel y dywedodd un o'n hymatebwyr wrthym:
Fe blymiodd y terfyniad diweddaraf fi i ryw fath o iselder. Roeddwn yn cymryd arnaf fy mod yn iawn ond roedd bywyd yn galed ac yn drwm. Doedd neb yn y gwaith yn gwybod. Mi wnes i ddal ati. Cymerodd bedair blynedd i mi deimlo'n iawn eto. Pe bawn i wedi dweud wrth rywun yn y gwaith neu wedi cael cynnig cefnogaeth yno, yn hytrach na phrofi rhaniad cryf rhwng fy mywyd personol a bywyd gwaith, gallai fod wedi gwneud gwahaniaeth i mi. Nid oes digon o lefydd i siarad am derfyniad a chael cefnogaeth ddiamod.Ar sail canfyddiadau ein harolwg, rydym yn gwneud nifer o argymhellion i weithleoedd ar gyfer cynnig gwell cefnogaeth i'r rhai sy'n profi unrhyw fath o feichiogrwydd sy'n dod i ben (gan gynnwys erthyliad a chamesgor). Mae'r rhain yn cynnwys:
- Mae angen hyfforddiant ac addysg i godi ymwybyddiaeth ar gyfer gweithwyr, rheolwyr llinell a gweithwyr proffesiynol AD fel ei gilydd mewn perthynas â phob math o derfyniadau beichiogrwydd fel nad yw'r profiadau hyn yn cael eu tawelu mwyach. Lle mae gwybodaeth o'r fath ar gael yn rhwydd, mae hyn yn arwydd o ddiwylliant sefydliadol cynhwysol ac yn helpu i wneud i ffwrdd â’r stigma sydd ynghlwm wrth erthyliad/terfynu beichiogrwydd.
- Dylai unrhyw bolisi neu fecanwaith cymorth yn y maes hwn gynnwys lles seicolegol yn ogystal ag iechyd corfforol.
- Dylai polisïau fod yn seiliedig ar dystiolaeth, eu datblygu mewn ymgynghoriad â gweithwyr, eu rhannu'n eang a’u diweddaru’n rheolaidd. Bydd angen addasiadau rhesymol ar rai staff ar ôl i feichiogrwydd ddod i ben, gan gynnwys patrymau gwaith hyblyg, yn ogystal â, neu yn lle, amser i ffwrdd.
- Nid oes unrhyw brofiad o derfynu beichiogrwydd yr un fath, ni waeth pa mor hir y mae'r beichiogrwydd wedi para neu a oedd y diwedd yn ddigymell (fel camesgoriad) neu’n un a ddewiswyd (fel yn achos erthyliad / terfynu). Ni ddylid rhagdybio sut mae'r rhiant a oedd yn feichiog - nac yn wir partner y rhiant hwnnw - yn teimlo.
- Dylai sefydliadau hefyd sicrhau bod y cymorth y maent yn ei gynnig yn y maes hwn ar gael i bob aelod o staff ar draws unrhyw fath o derfyniad beichiogrwydd, waeth beth fo'u rhyw, rhywioldeb, hil, ethnigrwydd, oedran neu grefydd. Fodd bynnag, dylai datgelu terfyniad o'r fath yn y gweithle bob amser fod yn ddewis i’r unigolion yr effeithir arnynt.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon