Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Creu cysylltiadau mewn sgyrsiau diwedd oes: awgrymiadau hanfodol i weithwyr proffesiynol

Gall dewisiadau cleifion mewn sgyrsiau diwedd oes ddibynnu ar amryfal ffactorau; mae’r erthygl a’r animeiddiad yma’n cynnig arweiniad i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Dysgwch fwy am gyrsiau a chymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Y Brifysgol Agored.

Dogfen PDF Trawsgrifiad 106.5 KB

Derbynnir yn eang gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol mai cyfathrebu clir, penodol ac agored yw’r peth gorau bob amser, yn cynnwys mewn cyd-destunau’n ymwneud â salwch neu anafiadau sy’n peryglu bywyd, neu ar ddiwedd oes. Ond a yw cleifion a’u teuluoedd wastad yn dymuno cael gwybodaeth agored a phenodol gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ar yr adegau hyn? 

Mewn cymdeithas amrywiol, ceir dewisiadau diwylliannol a phersonol mewn perthynas â disgwyliadau cyfathrebu, ac mae’n well gan rai cleifion a rhai teuluoedd i bethau gael eu datgelu’n rhannol, neu beidio â chael eu datgelu o gwbl – hynny yw, efallai nad ydynt yn dymuno cael gwybodaeth fanwl, neu’r holl wybodaeth. Mae’r animeiddiad hwn yn awgrymu ffyrdd y gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol reoli’r sgyrsiau hyn.

Mae cyfathrebu agored yn ategu ‘cydsyniad ar sail gwybodaeth’ mewn perthynas ag ymyriadau, a hefyd mae’n cynnig cyfle i gynllunio gofal a materion personol ymlaen llaw, oherwydd bydd y claf yn cael gwybodaeth a all lywio penderfyniadau a chamau o’r fath. Ond yn achos pobl nad ydynt yn dymuno cael yr wybodaeth hon, neu bobl a chanddynt deimladau cymysg ynglŷn â chyfathrebu agored, gall rhannu gwybodaeth na ofynnwyd amdani achosi gofid seicolegol a dirfodol iddynt. Yn achos cleifion nad ydynt yn dymuno cyfathrebu’n agored, gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy’n mynnu cyfathrebu yn y fath fodd achosi niwed (Westendorp et al., 2023).

Mae prosiect cydweithredol rhyngwladol dan arweiniad academyddion o’r Iseldiroedd a’r DU wedi defnyddio canfyddiadau ymchwil amlddisgyblaethol i ystyried y modd y gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ymdrin â dewisiadau cyfathrebu cleifion.

Ceir tair strategaeth hollbwysig a all gynorthwyo yn hyn o beth:

  1. Dylid pennu dewis y claf ar hyd y sbectrwm – hynny yw, a yw’n dymuno i bethau gael eu datgelu’n llawn, a yw’n dymuno iddynt gael eu datgelu’n rhannol, ynteu a yw’n dymuno iddynt beidio â chael eu datgelu o gwbl. Er enghraifft, canlyniadau meddygol, prognosis neu opsiynau ar gyfer triniaeth. Wrth bennu dewis y claf, efallai y bydd yn rhaid ymateb i ansicrwydd, deuoliaeth teimlad ac awydd cyfnewidiol i gyfathrebu’n agored.
  2. Dylid buddsoddi amser i greu cysylltiad gyda chleifion a’u teuluoedd. Mae angen amser i greu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth, a hefyd efallai y bydd dewis y claf yn newid dros amser. Trwy gynnal y cysylltiad gyda’r claf, gellir sicrhau y bydd modd i’r gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ymateb yn unol â newidiadau o’r fath.
  3. Dylid coleddu agwedd a meddwl agored. Rhaid i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol dderbyn amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol cleifion a bod yn ymwybodol o’r modd y gall gwybodaeth effeithio ar y claf a’r ddynameg rhwng y claf a’i deulu.

Mae cyfathrebu effeithiol yn golygu mwy na geiriau. Bydd modd i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol feithrin cysylltiadau cryfach a mwy cefnogol trwy gydnabod dewisiadau unigolion ynglŷn â’r wybodaeth y dymunant ei chael mewn sgyrsiau diwedd oes, a thrwy ymateb yn sensitif ac yn hyblyg i’r dewisiadau hynny.


Cyfeiriadau

Westendorp J, Geerse OP, van der Lee ML, et al. Harmful communication behaviors in cancer care: a systematic review of patients and family caregivers perspectives. Psychooncology. 2023; 32(12): 1827-1838. https://doi.org/10.1002/pon.6247



 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?