Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Cymorth i chi a’ch lles meddyliol

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Bydd un ym mhob pedwar ohonom yn cael problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywyd, felly mae’n bwysig i ni wybod ble i droi i gael cymorth a gofyn am help pan fydd angen.

 

Cymorth brys

Ydych chi’n ofidus, yn teimlo fod pethau wedi mynd i’r pen arnoch chi, ac eisiau siarad â rhywun rŵan hyn? Yna ffoniwch y Samaritans yng Nghymru ar 116 123, unrhyw adeg o’r dydd, yn rhad ac am ddim, am ba bynnag reswm. 

Cymorth meddygol

Os ydych chi wedi brifo a bod angen cymorth neu sylw meddygol ar unwaith arnoch chi, ffoniwch 999 neu ewch i’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys. 

Os oes angen cyngor meddygol arnoch, gallwch drefnu apwyntiad brys gyda meddyg teulu drwy gysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol neu ffonio GIG 111 yn Lloegr, yr Alban ac mewn rhai rhannau o Gymru (gwiriwch a yw 111 ar gael yn eich ardal ac am rifau llinellau cymorth eraill).

Gallwch hefyd ddefnyddio Gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain GIG 111 os ydych chi’n fyddar ac eisiau defnyddio gwasanaeth ffôn. 

 

Weithiau, gall sefyllfa neilltuol achosi iechyd meddwl gwael, ond gall hefyd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm neu am ddim rheswm o gwbl. 

Bydd y cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl yn wahanol i bawb ac i’w gael mewn amryw o lefydd, ond weithiau mae’n anodd gwybod ble i droi am gymorth.

Wrth i chi fynd yn eich blaen i ddarllen, byddwn yn nodi rhai llwybrau tuag at gael mwy o gyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl, ac yn eich cyfeirio at wasanaethau cymorth. Mae llawer o’r rhain yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o anghenion iechyd meddwl a lles, ond bydd rhai yn ymateb yn benodol i amgylchiadau penodol all fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl.  

Siarad am eich iechyd meddwl

Gall siarad am eich iechyd meddwl fod yn bwysig, ond mae llawer yn cael trafferth bod yn agored. Y stigma neu’r ofn ynghylch iechyd meddwl sydd tu cefn i hyn weithiau.

Mae Amser i Newid Cymru yn mynd i’r afael â’r stigma hwn ac yn cydnabod bod trafod salwch meddwl yn dal yn bwnc na chewch chi ddim sôn amdano, a hynny er bod problemau iechyd meddwl yn debygol o effeithio ar lawer ohonom ni. Mae Pencampwyr Amser i Newid yn arwain yr ymgyrch a gallai fod yn fuddiol i chi ddarllen eu hanesion a sut mae siarad am eu hiechyd meddwl wedi’u helpu nhw. 

Os ydych chi’n cael trafferth siarad am eich iechyd meddwl chi, neu ddeall iechyd meddwl rhywun arall, mae Amser i Newid Cymru yn rhoi llawer o gyngor ac adnoddau defnyddiol ar:

Mae llawer o enwogion wedi siarad am eu profiad efo iechyd meddwl. Gwyliwch fideo ble bu’r ysgrifennwr a’r darlunydd Matthew Johnstone, yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i siarad am drechu "iselder – y ci du".

Yn y rhaglen ddogfen ar y cyd rhwng y BBC a’r Brifysgol Agored yn ddiweddar, Psychosis and Me, bu’r actor David Harewood  yn siarad am ei brofiad o gael diagnosis o Seicosis a thriniaeth ar ei gyfer. Mae Trisha Goddard, Jim Brown a Stephen Fry yn edrych ar yr ofn a’r tristwch sydd yn effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd, ac yn trafod sut maent yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. 

Cofiwch, mae profiad pawb o iechyd meddwl yn wahanol. Ni ddylech fyth deimlo dan bwysau i siarad am eich iechyd meddwl, ond efallai y gwelwch fod siarad yn helpu. Dyma ambell bwt arall o gyngor os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad am eich iechyd meddwl:

  • Ysgrifennwch lythyr os oes ofn arnoch chi siarad wyneb yn wyneb.
  • Siaradwch â rhywun sydd ddim yn eich ‘nabod chi fel y cyfryw, fel meddyg teulu, gwasanaeth cymorth neu therapydd os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad efo rhywun sydd yn agos atoch chi. 
  • Dechreuwch drwy ysgrifennu ac yna siarad.
  • Ceisiwch ymarfer siarad yn y drych cyn siarad â rhywun os ydych chi’n cael trafferth gwneud hynny.
  • Cofiwch y byddwch chi’n teimlo cryn ryddhad mae’n debyg ar ôl i chi siarad â rhywun.
  • Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun proffesiynol, neu eisiau rhagor o gymorth, mae llawer o sefydliadau y gallwch chi gysylltu â nhw. Mae rhestr o wahanol wasanaethau cymorth ar ddiwedd yr erthygl hon.

Astudio ac iechyd meddwl

Graphic of a person with their head on their desk next to a cup, a plant and some folders, and a low battery symbol above them. Gall ein hiechyd meddwl a’n lles newid o ddydd i ddydd. Gall astudio mewn unrhyw Brifysgol, mewn unrhyw fodd, lyncu eich amser, a’i gwneud hi’n anoddach i chi gymryd amser i ofalu am eich iechyd meddwl. 

Mae’n beth cyffredin iawn i chi gael anawsterau yn ystod eich amser yn fyfyriwr. Efallai y gwelwch fod astudio yn codi lefel straen a gorbryder, yn ogystal â gwaethygu problemau iechyd meddwl sydd gennych eisoes. 

Daw’r anawsterau hyn ym mhob lliw a llun, a gallant effeithio ar eich astudiaethau mewn gwahanol ffyrdd. Boed chi wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl, neu ddim, mae’n bwysig deall sut mae sylwi bod eich iechyd meddwl a’ch lles yn dioddef  er mwyn i chi wneud rhywbeth. Yn gyntaf oll, er mwyn i chi allu teimlo’n ddiogel, yn iach a gwybod bod cymorth ar gael i chi, ond gall hefyd helpu i chi astudio yn effeithiol a llwyddo yn y brifysgol.

Cofiwch, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol Agored yn cefnogi mwy na 10,000 o fyfyrwyr sydd wedi dweud wrthym fod ganddynt broblem iechyd meddwl. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael trafferth ymdopi efo’ch astudiaethau, bydd gan ddarparwr eich addysg lwybrau i helpu.

Os ydych chi’n astudio efo’r Brifysgol Agored, siaradwch efo’ch Tîm Cymorth i Fyfyrwyr neu diwtor. Os ydych chi’n astudio mewn sefydliad arall, chwiliwch am enw eich sefydliad a ‘chymorth i fyfyrwyr’ i gael gwybod efo pwy i siarad. Fel arall, siaradwch â chynrychiolydd undeb y myfyrwyr neu eich darlithwyr a’ch tiwtoriaid. 

 

Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr – ledled y DU

Efallai y byddwch chi’n teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad efo rhywun tu allan i’ch sefydliad. Gallwch gysylltu â’r gwasanaethau canlynol yn rhad ac am ddim, os ydych chi’n fyfyriwr. 

Nightlife

Gwasanaeth gwrando a gwybodaeth cyfrinachol gan fyfyrwyr sydd yn gweithio drwy’r nos. Mae’r oriau agor yn bennaf yn dilyn amseroedd tymor campws prifysgolion.

Llinell gymorth nos: 020 7631 0101
E-bost: listening@nightline.org.uk

Student Minds

Mae Student Minds yn elusen sydd yn cynnal grwpiau cymorth i fyfyrwyr sydd yn cael trafferth efo’u hiechyd meddwl. Maent yn cynnig rhaglenni cymorth a gweithdai i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ofalu am eich iechyd meddwl. Mae cyngor hefyd ar sut allwch chi gefnogi ffrind allai fod yn cael amser anodd.

studentminds.org.uk 

Students Against Depression

Mae Students Against Depression yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau i helpu chi sylwi ar hwyliau gwael neu iselder ac yna chwilio am ffordd ymlaen.

studentsagainstdepression.org 
Togetherall

Gall myfyrwyr presennol gael cymorth efo iechyd meddwl a lles yn rhad ac am ddim drwy ein partneriaeth efo Togetherall.

Maent yn rhoi lle diogel, cwbl ddienw ar-lein i leisio pryderon, edrych ar eich teimladau a dysgu sut i hunan reoli eich iechyd meddwl a’ch lles. Mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

 

Galar a phrofedigaeth

Gall colli rhywun agos atoch chi fod yn frawychus, boed yn gymar, yn aelod o’r teulu, yn ffrind neu’n gydweithiwr. Mae galar yn effeithio ar bawb yn wahanol. Rydych chi’n debygol o fynd drwy amryw o emosiynau wrth i chi ddechrau dod i delerau â’ch colled. Mae’n eithaf cyffredin i bobl deimlo: 

  • Sioc a diffyg teimlad.

  • Euogrwydd am rywbeth ddaru chi ddweud neu ddim ei ddweud, eu am fethu ag atal marwolaeth eich anwylyd.

  • Blinder neu ludded.

  • Yn flin efo’u hunain, neu’r sawl maent wedi’i golli neu aelodau o’r teulu, gweithwyr proffesiynol neu’r rheswm am y golled.

  • Tristwch llethol efo llawr o grio.

Gall y teimladau pwerus hyn godi yn annisgwyl, ond efallai na fyddant yno drwy’r adeg. Nid oes ffordd gywir nac anghywir i deimlo, ond sut bynnag rydych chi’n teimlo gallwch chwilio am gyngor a chymorth gan y gwasanaethau isod.

Signs image in Welsh Os ydych chi’n bod yn gefn i rywun sydd wedi cael profedigaeth, gall pethau bychain sy’n dangos caredigrwydd neu bryder wneud gwahaniaeth mawr i helpu pobl sy’n galaru. Er hynny, gall fod yn anodd siarad am farwolaeth ac mae llawer yn ei gweld hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud pan fyddant yn ceisio bod yn gefn i rywun. Os ydych chi’n gofalu am rywun sydd wedi colli rhywun, mae gan Mind gyfoeth o gyngor ar sut i helpu y gorau gallwch chi.

Mae cyflwyniad i farwolaeth, marw a galar yn eich gwahodd i feddwl yn ddyfnach am wahanol safbwyntiau ar farwolaeth; yn ogystal â sut mae galar yn cael ei fynegi, i’ch helpu chi ddeall yn well y prosesau emosiynol y gallech chi, neu rywun arall, fod yn mynd drwyddynt.

Mae’n bwysig hefyd gofalu am eich lles eich hun tra byddwch chi’n gefn i eraill. Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei gefnogi yn cael trafferth, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau isod am fwy o gymorth a chyngor. 

 

Gwasanaethau Cefnogi Galar a Phrofedigaeth – Cymru a’r DU

Cymru

Gofal mewn Galar CRUSE

Mae Llinell Gymorth Radffôn Genedlaethol Gofal mewn Galar Cruse wedi’i staffio efo gwirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant ar brofedigaeth, ac yn cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Ffoniwch: 0808 808 1677​

Mae Gofal mewn Galar Cruse hefyd yn darparu cwnsela yn yr ardaloedd hyn: Caerdydd a’r Fro, Gwent, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, Cangen Morgannwg, Powys, Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru.

Darllenwch fwy ar eu gwefan:
https://www.cruse.org.uk/get-help/local-services/wales/wales/gofal-mewn-galar-cruse

2 Wish Upon a Star

Cymorth i’r rheiny sydd wedi cael profedigaeth o golli plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed yn sydyn neu’n drawmatig ledled Cymru.  

www.2wishuponastar.org
E-bost: support@2wishuponastar.org

SANDS
(Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion)

Prif elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion yn y DU. Mae Sands yn darparu gwasanaethau cymorth mewn profedigaeth yn genedlaethol ac yn lleol.

Linell gymorth radffôn - 0808 164 3332
E-bost: helpline@sands.org.uk

Ap ffôn symudol
Cymuned ar-lein

Mae saith grŵp cymorth lleol yng Nghymru. Ewch ar:
www.sands.org.uk/support-you/how-we-offer-support/sands-groups
a chwilio ‘Cymru’ neu eich cod post o dan y map lleoliadau. 

 

Ledled y DU

Gofal mewn Galar Cruse

Mae Llinell Gymorth Radffôn Genedlaethol Gofal mewn Galar Cruse yn rhoi gwasanaeth ar draws y DU os ydych chi tu allan i Gymru:

Lloegr a Gogledd Iwerddon: 0808 808 1677​
Llinell Gymorth Cruse yr Alban: 0845 600 2227.

Mind Cymru

Mae Mind yn rhoi gwybodaeth am brofedigaeth ar draws y DU, gan gynnwys ble i fynd i gael cymorth ar gyfer gwahanol fathau o brofedigaeth a sut i gefnogi ffrindiau neu deulu yn eu profedigaeth.

Llinell wybodaeth Mind: 0300 123 3393
E-bost: info@mind.org.uk

At a Loss 

Gall gwefan gyfeirio y DU ar gyfer galarwyr eich helpu chi chwilio am wasanaethau profedigaeth a chwnsela ar gyfer mathau penodol o golled.

Mae ganddynt hefyd adnoddau ar brofedigaeth yn ystod pandemig y coronafirws.

Sudden

Helpu pobl sydd wedi cael profedigaeth sydyn i gael gwybodaeth a chyngor arbenigol ar draws y DU.

Llinell Gymorth Profedigaeth: 0800 2600 400.

 

Rhagor o gyngor a chymorth ar iechyd meddwl

Rydych chi wedi darllen rhywfaint o gyngor ac arweiniad ar reoli eich iechyd meddwl a’ch lles, ond isod mae gwybodaeth a fydd yn eich arwain chi at wasanaethau cymorth allai eich helpu chi fwy. 

Efallai y gwelwch fod angen cymorth arnoch chi efo rhywbeth penodol sydd wedi digwydd yn eich bywyd, neu sydd yn digwydd i chi ar hyn o bryd. Gall fod yn bwysig cael cymorth penodol yn gyntaf oll oherwydd gallai roi sylw i unrhyw faterion sydd yn gysylltiedig â’ch iechyd meddwl ac yn effeithio arno. Mae gan Mind restr gyfansawdd o wasanaethau ar draws y DU all helpu fel gwasanaethau argyfwng, cymorth ar gyfer bod yn gaeth ac yn ddibynnol, cyngor ar gam-drin yn y cartref a mwy. 

Cofiwch mai dim ond mewn rhai rhannau o’r DU y mae rhai o’r gwasanaethau hyn ar gael. 

Os oes angen cymorth brys arnoch chi, ffoniwch neu ewch i’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys i gael cymorth ar unwaith. 

 

Rhagor o wasanaethau cyngor a chymorth iechyd meddwl – Cymru a ledled y DU

Cymru

C.A.L.L. (Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol)

Mae C.A.L.L. yn llinell gymorth sydd yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth ar iechyd meddwl yng Nghymru. Mae’r llinell gymorth i unrhyw un sydd yn poeni am ei iechyd meddwl ei hun, neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind. 

Ffôn: 0800 132 737 (ar agor 24/7).
Testun: 'Help' ac yna cwestiwn i 81066.

www.callhelpline.org.uk 
Hafal

Hafal yw’r prif sefydliad yng Nghymru sydd yn gweithio gydag unigolion sydd yn dod dros afiechyd meddwl difrifol, a’u teuluoedd.

Maent yn helpu pobl y mae salwch meddwl difrifol yn effeithio arnynt: mae hyn yn cynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol (bipolar) ac unrhyw ddiagnosis arall sydd yn golygu seicosis fel arfer neu lefelau uchel o ofal, a ble gallai fod angen triniaeth yn yr ysbyty.

Ffôn: 01792 816 600/832 400
E-bost: hafal@hafal.org 

Iechyd Meddwl Cymru

Mae’r safle hwn yn cynnig set o ddolenni defnyddiol ynghyd â llyfrgell o wybodaeth am weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, clinigwyr, unigolion sy’n byw â salwch meddwl, teuluoedd a gofalwyr.

Mind Cymru

Mind Cymru Mae ugain o elusennau cymorth lleol Mind yng Nghymru, gallwch chwilio am eich un chi yma.

Fel arall, gallwch gysylltu neu ddarllen mwy ar:
www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru/

Ffôn: 0300 123 3393
E-bost: info@mind.org.uk
Testun: 86463.

NHS

Rhif ffôn y GIG: 111 (Cymru).

Os nad yw GIG 111 Cymru ar gael yn eich ardal chi, ffoniwch 0845 46 47. Mwy o wybodaeth.

Gall fod yn help siarad efo eich meddyg teulu lleol hefyd. Os nad ydych chi’n fodlon gyda’ch meddyg, gallwch ofyn am gael gweld meddyg arall yn yr un feddygfa neu wneud apwyntiad efo meddygfa arall yn eich ardal chi. 

Samariaid Cymru 

Mae’r Samariaid yn wasanaeth llinell gymorth sydd ar gael 24/7 ac yn lle diogel i bobl siarad am yr hyn maent yn mynd drwyddo. Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn gweithio ar draws Cymru mewn naw o ganghennau. Gallwch siarad â nhw:

Ffôn: 116 123
Llinell Ffôn Gymraeg: 0808 164 0123

E-bost: jo@samaritans.org
Canghennau lleol: www.samaritans.org/wales/branches/ 

Ledled y DU

Black Minds Matter UK

Mae Black Minds Matter UK yn cysylltu unigolion a theuluoedd Du â gwasanaethau iechyd meddwl rhad ac am ddim  - gan therapyddion Du proffesiynol, yn benodol ar gyfer trawma Du.

Gallwch gysylltu â Black Minds Matter UK gan ddefnyddio’r ffurflen electronig yma.
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)

Corff proffesiynol ar gyfer therapi siarad a chwnsela. Gallwch gael gwybodaeth a rhestr o therapyddion achrededig, gan gynnwys y rheiny yn eich ardal chi.

Sylwch nad yw’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau hyn am ddim. 

Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) 

Mae’r Cyfeiriadur Seicolegwyr Siartredig yn wasanaeth a ddarperir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae’n hwylus i chwilio am seicolegydd yn eich ardal chi.

Sylwch nad yw’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau hyn am ddim.

Mind Cymru

Mae Mind yn darparu gwybodaeth a chyfeirio ar gyfer llu o anghenion iechyd meddwl ar draws gweddill y DU.

Llinell wybodaeth: 0300 123 3393
E-bost: info@mind.org.uk
Testun: 86463

Mind Infoline, PO Box 75225, London. E15 9FS.

NHS

Rhif ffôn y GIG: 111 (Lloegr)
Rhif ffôn NHS 24: 08454 242424 (Yr Alban)
Rhif ffôn NI Direct: 0808 808 8000 (Gogledd Iwerddon)

Gall fod yn help siarad efo eich meddyg teulu lleol hefyd. Os nad ydych chi’n fodlon gyda’ch meddyg, gallwch ofyn am gael gweld meddyg arall yn yr un feddygfa neu wneud apwyntiad efo meddygfa arall yn eich ardal chi.

Rethink Mental Illness 

Cenhadaeth Rethink yw gwella bywydau pobl y mae salwch meddwl yn effeithio’n ddifrifol arnynt drwy ein rhwydwaith o grwpiau a gwasanaethau lleol a gwybodaeth arbenigol.

Llinell ffôn am wybodaeth: 0300 5000 927
Ar agor Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am - 2pm, codir pris galwad leol. 

Samariaid Cymru

Ffôn: 116 123

Llinell ffôn 24/7, ar gael unrhyw amser ac unrhyw ddiwrnod i siarad am anghenion iechyd meddwl. 

SANEline

Mae SANEline yn llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol tu allan i oriau sy’n cynnig cymorth, arweiniad gwybodaeth emosiynol arbenigol i unrhyw un y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a gofalwyr.

Ffôn: 0300 304 7000 (Ar agor pob diwrnod o’r flwyddyn o 4.30pm tan 10.30pm).
E-bost: support@sane.org.uk

Shout

Gwasanaeth testun 24/7 y DU, am ddim ar y rhwydweithiau ffôn mwyaf, i unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw le, unrhyw bryd, os ydych chi’n cael trafferth ymdopi ac eisiau help ar unwaith. 

Testun: 85258 

Switchboard

Mae Switchboard yn darparu gwasanaethau gwrando a chyfeirio i’r gymuned LBGTQ+. Mae Switchboard yn rhoi lle diogel i unrhyw un drafod unrhyw beth, gan gynnwys rhywioldeb, hunaniaeth rywiol, iechyd rhywiol lles emosiynol ac iechyd.  

Ffôn: 0300 330 0630
E-bost: chris@switchboard.lgbt
Gwefan a sgwrs fyw: switchboard.lgbt 

 

Cydnabyddiaethau

Ysgrifennwyd yr erthygl gan y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Addysg Oedolion Cymru, a Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored. Cafodd lawer o’r cynnwys yn yr erthygl hon ei gorffori gan ddefnyddio sylwadau o arolwg a wnaed ymysg myfyrwyr rhan amser ac Addysg Uwch Cymru yn 2020. Mae cysylltiadau wedi’u gosod yn uniongyrchol drwy gydol yr erthygl hon i fynd â chi at adnoddau defnyddiol eraill ond mewn rhai achosion mae gwybodaeth a chyngor wedi deillio a’u hail-bwrpasu o’r sefydliadau hyn: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG),  Canolfan Gymorth y Brifysgol Agored, Mind Cymru ac Amser i Newid Cymru.

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?