Mae’r cyflwyniadau hyn, a roddir gan siaradwyr o brifysgolion ledled Cymru, yn rhoi cyfle i fynychwyr:
- Dysgu am ymchwil seicolegol ardderchog sy'n digwydd yng Nghymru a thu hwnt
- Deall yr effaith mae ymchwil seicolegol yn ei gael mewn llawer o feysydd bywyd bob dydd
- Clywed am y meysydd eang mewn seicoleg a'r amrywiaeth mae'r maes hwn yn ei gynnig
Ar gyfer unrhyw un sy’n fyfyriwr seicoleg, mae’n bosib gall y cyflwyniadau gynnig cyfle i ddatblygu syniadau ar gyfer eich astudiaeth ymchwil neu brosiect eich hun.
Cynhaliwyd y cyflwyniadau ddydd Iau 27 Ionawr 2022 fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau SgyrsiauAgored a gynhelir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gwnaethpwyd y digwyddiad hefyd yn bosibl gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.
Darllenwch fwy am y siaradwyr a'u cyflwyniadau isod.
Prif ddarlith: Broceriaeth iaith plant fel arfer gofal teuluol: Ail-fframio'r ddadl 'plentyn wedi'i rianta'
Yr Athro Sarah Crafter
Athro Seicoleg Datblygiadol Diwylliannol
Y Brifysgol Agored
Mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio safbwyntiau pobl ifanc sy'n gweithredu fel broceriaid iaith plant. Plant a phobl ifanc yw'r rhain sy'n cyfieithu ac yn dehongli ar gyfer aelodau o'r teulu, y gymuned leol a chyfoedion yn dilyn mudo i wlad newydd. Bu cryn ddadlau ym maes broceriaeth iaith plant ynghylch a yw'r arfer yn peri risg i les plant ac yn effeithio'n negyddol ar berthnasoedd rhieni-plant. Mae broceriaeth iaith plant fel gweithgaredd yn digwydd ar draws amrywiaeth eang o gyd-destunau megis banciau, manwerthu, gofal iechyd, y gyfraith, y cartref, tai a gofal cymdeithasol. Pan fydd sefyllfaoedd broceriaeth iaith yn heriol, mae'r problemau anodd hyn yn aml yn digwydd rhwng ffigurau awdurdod a'u teuluoedd mewn mannau cyhoeddus gwyn yn bennaf.
Mae'r cyfrifoldeb cynyddol a gymerir gan froceriaid iaith plant wedi'i gymharu i’r cysyniad o 'rianta' neu 'wrthdroi rôl', sy'n awgrymu bod awdurdod rhieni'n cael ei atal o fewn deinameg y teulu oherwydd bod broceriaid iaith plant yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd lle maent yn cael rolau a neilltuir fel arfer ar gyfer rhieni. Mae gwrthwynebwyr y syniad hwn yn dadlau yn erbyn y syniad o wrthdroi rôl yn ystod broceriaeth iaith, gan ail-lunio'r gweithgaredd fel arfer gofal teuluol sy'n debyg i fathau eraill o gyfrifoldebau gofalu. Gan ddefnyddio dadleuon am froceriaeth iaith fel arfer gofal teuluol, y 'plentyn wedi'i rianta' a thrafodaethau am blentyndod nad yw'n normadol, bydd y dadansoddiad yn tynnu sylw at sut y gall y rôl a chwaraeir gan yr oedolyn 'arall,' ynghyd â chyd-destun cymdeithasol sy'n elyniaethus weithiau, orliwio tensiynau neu hwyluso rhyngweithio yn y berthynas rhwng rhieni a phlant. Mae barn a phrofiadau'r bobl ifanc yn amlygu sut maen nhw'n llywio'r cymhlethdodau hyn.
Ymyriadau Ar-lein ar gyfer Trin Symptomau Symud mewn Clefyd Parkinson
Dr Joshua Payne
Cadeirydd Cymdeithas Seicolegol Prydain (Cangen Cymru)
Darlithydd mewn Seicoleg Wybyddol, Prifysgol Wrecsam Glyndŵr
Cyfarwyddyd o Bell ar Iaith a Llythrennedd
Dr Manon Jones
Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad
Cyfarwyddwr Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor
Archwilio Nodweddion Rhywedd Ar draws y Byd
Yr Athro Cyswllt Paul B. Hutchings
Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Canolfan Seicoleg a Chwnsela
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Dysgwch fwy gydag OpenLearn
Cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw SgyrsiauAgored. Nod SgyrsiauAgored yw ennyn diddordeb y cyhoedd yn ymchwil Y Brifysgol Agored a gwneud gwaith academyddion yn ysbrydoledig ac yn hygyrch i gymunedau yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi nodau'r sefydliad o wneud addysg yn agored i bawb ac mae'n cefnogi gwaith ehangach Y Brifysgol Agored i greu Cymru wybodus, ymgysylltiol a ffyniannus.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau SgyrsiauAgored sydd ar ddod, gallwch ymuno â'n rhestr bostio neu ein dilyn ar Facebook, Twitter neu LinkedIn.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon