
Arian a Busnes
Academi Arian MSE
Mae'r Brifysgol Agored wedi ymuno â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu'r cwrs rhad ac am ddim newydd hwn i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi feistroli eich arian. Ysgrifennwyd y cwrs gan y Brifysgol Agored, gyda chyngor ac arweiniad MSE.

Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith
Deall datganoli yng Nghymru
Mae'r cwrs am ddim hwn yn dilyn y ffordd y mae setliad datganoli Cymru wedi cael ei drawsnewid yn yr 20 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli yn 1997. Byddwch yn ystyried y ffordd y daeth Cynulliad â chefnogaeth mwyafrif bach iawn o'r cyhoedd a phwerau deddfu cyfyngedig yn Senedd â'r pŵer i osod trethi. Byddwch yn archwilio rhai o'r heriau ...

Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg
Mathemateg bob dydd 1
Bydd y cwrs rhad ac am ddim hwn yn datblygu ac yn gwella eich sgiliau mathemateg hanfodol ar gyfer gwaith, astudio a bywyd bob dydd. Mae gan y cwrs bedair sesiwn, sy'n ymdrin â'r pynciau canlynol: rhifau, mesur, siapiau a gofod, a thrin data. Bydd digonedd o enghreifftiau i’ch helpu i symud ymlaen, ynghyd â chyfleoedd i ymarfer eich dealltwriaeth.

Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith
Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru
Adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i feddwl yn feirniadol am gymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac i'ch helpu i ddefnyddio'ch llais fel dinesydd.

Addysg a Datblygiad
Ewch â’ch addysgu ar-lein
Mae dysgu ar-lein wedi datblygu’n gyflym ac fe’i gwelir bellach ym mhob maes addysg, o ysgolion i hyfforddi sgiliau. Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu trwy gyrsiau ar-lein. Hyd yn oed pan addysgir ‘wyneb yn wyneb’ yn bennaf, mae adnoddau a rhyngweithio ar-lein wedi dod yn rhan allweddol o’r profiad dysgu.

Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Gofalu am oedolion
Mae gofalu am oedolion yn gwrs rhagarweiniol i unrhyw un sydd â rôl ofalgar, naill ai'n daladwy neu'n ddi-dāl. Mae'n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wybod i roi gwell dealltwriaeth i chi o'ch rôl fel gofalwr. Mae hefyd yn cefnogi'ch lles eich hun trwy roi syniadau a gwybodaeth i chi am ofalu amdanoch eich hun a delio â straen.
Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Ystadegau rhyw ar gyfer poblogaeth Prydain
Mae llawer o fythau a chamddealltwriaethau am ryw a gall fod yn anodd canfod y gwirionedd. Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn, sy'n hawdd ei ddefnyddio, yn rhoi mynediad i ddata cadarn a gasglwyd gan Natsal-3, sef arolwg o filoedd o oedolion ledled Prydain.

Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Gŵyl Seicoleg
Pedwar arbenigwr o amrywiaeth o feysydd mewn seicoleg yn siarad am eu hymchwil a'u meysydd gwaith.

Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg
Bywyd y tu hwnt i'r Ddaear: Y Ddadl Fawr
Mae panel o arbenigwyr Y Brifysgol Agored yn mynd benben â'i gilydd i drafod a yw bywyd yn fwy tebygol ar y blaned Mawrth neu ar leuadau rhewllyd y planedau nwy.

Addysg a Datblygiad
Barod ar gyfer prifysgol
Casgliad o adnoddau o bob un o brifysgolion Cymru i'ch helpu i ddechrau gydag addysg uwch. Available in English

Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith
Newyddion ffug yng Nghymru
Mae’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei hadrodd, ei hegluro a’i rhannu yng Nghymru, yn enwedig wrth i’r Senedd ennill rhagor o bŵer, yn tynnu sylw at faterion pwysig ynghylch yr effeithiau all ‘newyddion ffug’ eu cael ar gymdeithas ddemocrataidd.

Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith
6 ffordd o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yng Nghymru
Un o egwyddorion sylfaenol democratiaeth yw y dylai llais dinasyddion cael ei glywed. Mae’r un peth yn wir am ddemocratiaeth Cymru, sydd bellach dros ddau ddegawd oed.