Er bod pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad ychydig yn dawelach eleni diolch i’r cyfyngiadau parhaus ynghlwm wrth y pandemig COVID-19, mae Dydd Gŵyl Dewi wastad yn achlysur pan fydd syniadau am gerddoroldeb Cymreig yn cael eu hailadrodd. Torfeydd chwaraeon yw un o’r prif elfennau o ran cefnogi’r syniad mai ‘gwlad y gân’ yw Cymru, ac er gwaetha’r pandemig byd-eang, mae’n dal i fod yn draddodiad bywiog, tra bod dylanwad sefydliadau eraill sy’n arwyddocaol yn hanesyddol, megis capeli anghydffurfwyr a chorau meibion wedi lleihau rhywfaint.
Y dorf yn canu anthem genedlaethol Cymru yn ystod gorymdaith Dewi Sant yng Nghaerdydd yn 2019.
Ar hyn o bryd, mae tri o academyddion Cerddoriaeth OU, Yr Athro Emeritws Trevor Herbert a Dr Helen Barlow a Dr Martin Clarke yn cyd-olygu The Cambridge History of Welsh Music, sef yr astudiaeth academaidd fawr gyntaf ar hanes cerddoriaeth Gymreig. Gan ddwyn ynghyd gwaith deuddeg o ysgolheigion blaengar, bydd yn archwilio cerddoriaeth Gymreig a bywyd cerddorol o’r ffynonellau canoloesol cyntaf hyd at ffenomenon ‘Cool Cymru’ ac enw da Cymru’r unfed ganrif ar hugain fel canolfan gynhyrchu’r cyfryngau creadigol.
Mae Helen Barlow a Martin Clarke yn cyd-ysgrifennu pennod sy’n archwilio rôl y dorf mewn canfyddiadau o hunaniaeth gerddorol Gymreig. Mae’n olrhain gwreiddiau canu anthem genedlaethol Cymru mewn gemau rygbi rhyngwladol, mor bell yn ôl â’r fuddugoliaeth enwog yn 1905 dros y Crysau Duon, yn ogystal ag archwilio arferion mwy diweddar, gan gynnwys meddwl am y ffyrdd y cafodd y cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio i annog cefnogwyr pêl-droed Cymru i ganu ym mhencampwriaeth Ewrop yn 2016. Mae’n amlygu dylanwad etifeddiaeth grefyddol Cymru, a’r ffyrdd y mae sefydliadau Cymru wedi ceisio manteisio ar y traddodiad.
Mae hanes cyfoethog canu cynulleidfaol mewn capeli anghydffurfwyr yng Nghymru yn dyddio nôl i’r 18fed ganrif, ac roedd yn rhan ganolog o lawer o’r achosion o adfywio crefyddol wnaeth ddigwydd yn y wlad, a’r enwocaf o bosib yn 1904-05. Mae’r torfeydd rygbi a phêl-droed yn dal i gynnal yr etifeddiaeth hon drwy ganu emynau fel ‘Cwm Rhondda’ a ‘Calon Lân’.
Er bod llawer o gapeli Cymru wedi cau dros y degawdau diweddar, mae’r stadiwm yn dal i fod y lle perffaith i lawer o dorfeydd Cymru gael cysylltiad â’r dreftadaeth gerddorol honno drwy eu canu angerddol. Yn yr un modd, er mai dim ond tua 30% o boblogaeth y wlad sy’n siarad Cymraeg, mae defnydd o’r Gymraeg yn yr anthem ac emynau poblogaidd fel ‘Calon Lân’ yn hynod bwysig. Ar unwaith, mae’n nodi gwahanolrwydd, a’r gwahanolrwydd amlycaf efallai gyda chymdogion agosaf Cymru, Lloegr. Mae hefyd yn ffordd o uniaethu â hanes a threftadaeth Gymreig - gan sicrhau bod yr ‘heniaith y Cymry’, yn ôl yr anthem, yn parhau.
Dathlu yn ystod her rhagbrofol rhwng Cymru a Hwngari ar gyfer Ewro 2020 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae cerddoroldeb yn dal i fod yn elfen ganolog ar syniadau am hunaniaeth Cymru, y tu fewn i Gymru a thu hwnt. Y dorf yn canu yw un o’r mynegiannau amlycaf o hyn. Mae’n dal i fod yn weithred sy’n dangos sut mae hanes ac etifeddiaeth Cymru wedi cael eu haddasu, ar eu newydd wedd, i fod yn addas i gyd-destunau cyfoes.
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg | Read this article in English
Awydd ymchwilio ymhellach?
Dr Helen Barlow - Progress and tradition: listening to the singing of the Welsh c. 1870 to c. 1920
Dr Helen Barlow - ‘Praise the Lord! We are a musical nation’: the Welsh working classes and religious singing
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon