4.3 Paru'r gofynion
Unwaith y byddwch wedi dadansoddi'r hysbyseb, penderfynwch a yw o ddiddordeb i chi ac yna gofynnwch am fanylion pellach, fel y disgrifiad swydd a manyleb y person. Mae angen i chi geisio paru eich hun â gofynion y swydd er mwyn penderfynu a hoffech wneud cais amdani neu beidio.
Fel arfer, nodir y disgrifiad swydd a manyleb y person o dan benawdau fel 'Profiad', 'Cymwysterau' a 'Rhinweddau personol'. Dylent nodi'r hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano, felly bydd angen i chi ystyried sut y gallwch ddangos eich bod yn bodloni'r gofynion.
Edrychwch ar yr enghraifft yn Nhabl 6 sy'n hysbysebu swydd wag ar gyfer swyddog codi arian ar gyfer Cymdeithas Gwarchod Natur yr Alban. Rhestrir y gofynion allweddol o ran profiad ac, yn yr ail golofn, nodir sut y byddai ymgeisydd yn dangos bod ganddo'r profiad angenrheidiol. Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o fynd i'r afael ag unrhyw hysbyseb swydd, gan ei bod yn eich helpu i ganolbwyntio ar yr agweddau pwysig wrth i chi gwblhau eich ffurflen gais neu baratoi CV.
Tabl 6
Gofynion allweddol o ran profiad | Fy nhystiolaeth |
---|---|
Rhifedd | Wedi llunio cynigion neu gynlluniau cyllidebol o fewn canllawiau cytûn a gweithdrefnau i'w cyflwyno i gyrff mewnol ac allanol. Yn gyfrifol am asesu gwariant posibl o ran gwerth am arian a chymryd camau priodol i sicrhau y cyflawnir hyn. |
Sgiliau bysellfwrdd | Wedi dysgu sut i ddefnyddio pecynnau fy hun er mwyn ysgrifennu traethawd hir ar gyfer fy ngradd. Wedi gweithio gyda phecynnau Windows ar gyfer nifer o swyddi gwyliau. |
Gwybodaeth farchnata | Swydd dros dro (gyda chyfnod sefydlu a hyfforddiant llawn) yn ystod dau wyliau haf fel cyfwelydd ymchwil i'r farchnad. Wedi cwblhau modiwl marchnata fel rhan o'm gradd (12 mis), yn ymdrin â nodi, rhagweld a bodloni gofynion cwsmeriaid yn broffidiol. |
Y gallu i weithio ar eich pen eich hun | Fel myfyriwr rhan amser, rwyf wedi gweithio o fewn calendr astudio 32 wythnos ac wedi rheoli llwyth gwaith wythnosol yn cynnwys darllen, aseiniadau, tiwtorialau a gwaith adolygu ochr yn ochr â swydd rhan amser a gwaith gwirfoddol. Rwyf wedi gweithio heb oruchwyliaeth fel trysorydd ar gyfer Cymdeithas Preswylwyr leol am ddwy flynedd ac wedi bodloni terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau bob amser. |
Diddordeb mewn bywyd gwyllt | Rwyf wedi trefnu sawl cyfarfod rhwng yr RSPB a changen leol yr Ymgyrch i Ddiogelu Lloegr Wledig er mwyn edrych ar y dirywiad yn nifer y titw tomos las yn Swydd Gaer a mesurau ataliol. Rwy'n godwr arian rhanbarthol ar gyfer BTCV a'r PDSA. Rwy'n gwirfoddoli bob yn ail ddydd Sul yn yr ysbyty anifeiliaid lleol. Rwy'n ddarllenydd brwd ac yn tanysgrifio i gylchgrawn cenedlaethol The Warbler ac yn cyfrannu ato'n rheolaidd. |
Sgiliau cyflwyno | Rwyf wedi defnyddio PowerPoint i gyflwyno gwybodaeth am y dirywiad mewn poblogaethau adar lleol i grŵp cymunedol a chynghorwyr. |
Gweithgaredd 7
Dechreuwch drwy edrych ar hysbyseb neu ddisgrifiad swydd ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi. (Os nad oes swydd benodol gennych mewn golwg, gallech edrych mewn papur newydd cenedlaethol neu leol, neu ar wefan fel jobs.co.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .)
Beth bynnag a wnewch, gofynnwch y cwestiynau canlynol:
- A yw'r gwaith wir o ddiddordeb i mi?
- A yw'n cyfateb i'm personoliaeth, gwerthoedd, diddordebau ac anghenion?
- Beth yw gofynion allweddol y swydd?
- Pa sgiliau sydd eu hangen i'w cyflawni?
- A allaf gyflwyno tystiolaeth o'r sgiliau hyn?
Gan ddefnyddio Tabl 6 fel canllaw, agorwch y templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau a nodwch brif nodweddion a gofynion y swydd wag a ddewiswyd gennych. Ceisiwch gynhyrchu tystiolaeth sy'n dangos pa mor addas ydych yn erbyn pob pwynt.