I ble rwyf am fynd?
Cyflwyniad
Dylai'r dadansoddiad SWOT y gwnaethoch ei gwblhau ar ddiwedd Bloc 1 fod wedi'ch helpu i ystyried eich sefyllfa bresennol. Fodd bynnag, mae'n bwysig i chi ddeall bod y dadansoddiad SWOT yn 'ddogfen fyw'. Dylech fynd yn ôl ato'n rheolaidd i weld beth sydd wedi newid, os o gwbl.
Y cam nesaf yw canolbwyntio mwy ar y dyfodol, gan nodi'r hyn sy'n bwysig i chi a'r hyn rydych ei eisiau o fywyd yn gyffredinol. Yn y bloc hwn, byddwch yn ystyried eich gwerthoedd, yn nodi'r math o waith a allai fod o ddiddordeb i chi ac yn dysgu sut i fynd ati i ystyried eich opsiynau, mireinio eich syniadau a gwneud dewisiadau. Nid yw hyn yn golygu y gallwch fynd ymlaen i gyflawni popeth rydych yn dymuno ei gyflawni, gan y bydd cyfyngiadau o un math neu'i gilydd yn cyfyngu ar y dewis sydd ar gael i bawb. Fodd bynnag, ar y cam hwn, mae'n bwysig peidio â chanolbwyntio gormod ar gyfyngiadau a all lesteirio ar eich uchelgeisiau. Cewch rywfaint o gyngor ar wneud penderfyniadau a phennu nodau realistig ym Mloc 3.
Dyma fideo i gyflwyno'r bloc hwn:
Transcript
Croeso i Bloc 2. Yn y bloc diwethaf, gwnaethom ystyried eich profiadau bywyd, eich llwyddiannau a'r cyfyngiadau sydd arnoch, sy'n effeithio ar eich gallu i gynllunio dyfodol gwell. Ym Mloc 2, byddwch yn ystyried yr hyn sy'n bwysig i chi sy'n eich helpu i benderfynu beth rydych ei eisiau o ran gwaith. Byddwch yn ailystyried y dadansoddiad SWOT a wnaethoch ym Mloc 1 ac yn archwilio'r opsiynau sydd ar gael i chi a ble y gallwch ddod o hyd i wybodaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol.
Byddwch yn dysgu sut i bennu targedau a nodau realistig sy'n ystyried eich amgylchiadau personol. Byddwch hefyd yn ystyried pwysigrwydd y broses rwydweithio a'r mathau gwahanol o rwydweithiau y gallwch eu defnyddio i'ch helpu i lywio a chyflawni eich nodau gyrfa. Cofiwch, mae bob amser yn ddefnyddiol trafod eich syniadau neu gynlluniau gyda chydweithiwr, cyflogwr presennol, neu eich teulu. Gall gwrando ar farn pobl eraill fod yn bwysig wrth fynd ati i wneud penderfyniadau.
Dechrau'r Gweithgaredd 1
Mae un neu ddau reswm pam y gallech fod am ailedrych ar eich canlyniadau SWOT. Efallai bod cryn amser wedi mynd heibio ers i chi gwblhau'r dadansoddiad SWOT ar ddiwedd Bloc 1, ac efallai bod llawer o bethau wedi newid. Er enghraifft, efallai eich bod wedi mynd i'r afael â rhai o'ch gwendidau, neu efallai bod rhai o'r bygythiadau wedi diflannu. Os oes unrhyw beth wedi newid, diwygiwch eich canlyniadau SWOT er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.
Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych wedi cwblhau eich dadansoddiad SWOT yn ddiweddar a'i fod yn dal yn ffres yn y cof, cymerwch ychydig funudau i fwrw golwg drosto cyn i chi ddechrau Bloc 2. Gofynnwch gwestiynau fel:
- A oes unrhyw beth yn y canlyniadau yr hoffwn ei newid?
- Beth yw fy mlaenoriaethau o ran mynd i'r afael â gwendidau a bygythiadau?
- Beth yw fy mlaenoriaethau o ran adeiladu ar fy nghryfderau ac achub ar gyfleoedd?
Unwaith rydych yn hapus gyda chanlyniadau eich dadansoddiad SWOT a'ch bod wedi nodi unrhyw flaenoriaethau, bydd gennych sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen.