2.1 Nodau

Beth yw nod?
- Nodau yw'r hyn rydych ei eisiau allan o fywyd.
- Gallech ddefnyddio geiriau eraill i ddisgrifio eich nodau, fel 'canlyniadau', 'deilliannau', 'amcanion' neu 'uchelgeisiau'.
- Pa un a ydynt yn rhai byrdymor neu hirdymor, dylai nodau fod yn realistig ond heriol.
- Cofiwch y gall eich nodau newid dros amser.
Gweithgaredd 3
Beth yw eich nodau? Efallai nad ydych wedi'u nodi'n llawn eto, ond nodwch nhw yn y gofod isod gan roi cymaint o fanylion â phosibl - gallwch ychwanegu atynt yn ddiweddarach wrth i chi fynd ati i'w diffinio'n fwy clir.