2.2 Cyfyngiadau ac adnoddau
Mae ein cyfyngiadau a'n hadnoddau ein hunain yn effeithio ar bob un ohonom. Weithiau, gall yr un peth fod yn gyfyngiad ac yn adnodd. Os ydych yn prynu tŷ ar forgais, mae'n rhwymedigaeth ac yn ased; gall fod angen eich cymorth ar ffrind neu berthynas ond gall y ffrind neu'r berthynas fod yno i roi cymorth i chi hefyd.
Gweithgaredd 4
Beth yw eich cyfyngiadau a'ch adnoddau?
Meddyliwch am eich adnoddau - y pethau, y bobl a'r agweddau a allai eich helpu. Yna meddyliwch am yr hyn sy'n eich cyfyngu - y pethau y mae angen i chi eu hystyried, neu a all fod yn broblem.
Ewch i'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac ysgrifennwch nhw i lawr. Ceir enghraifft yn Nhabl 1.
Tabl 1
Adnoddau | Cyfyngiadau |
---|---|
Arian Adnoddau ariannol | Cyfrifoldebau |
Cyfarpar, adnoddau, eiddo Mae gennyf … | Nid oes gennyf … |
Pobl, teulu, cysylltiadau Pwy all fy helpu? | Pwy sydd angen help neu gymorth gennyf? |
Iechyd Pwyntiau da | Pwyntiau gwael |
Credoau, agweddau Pethau cadarnhaol | Pethau negyddol |
Gadael sylw
Ystyriwch yr atebion a roesoch yn y tabl a lenwyd gennych.
- Sut fyddant yn effeithio ar y math o gyfleoedd sydd ar gael i chi?
- A oes pethau eraill y mae angen i chi eu hystyried? Er enghraifft, oes angen i chi weithio yn agos at eich cartref?
- Allech chi symud i ardal newydd?
- Allech chi weithio o gartref?
- Oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu, neu a oes angen gofal arnoch chi eich hun?