4.2 Paru swyddi gwag
Rydych wedi gweld swydd wag yr hoffech wneud cais amdani yn cael ei hysbysebu. Nawr rydych am wneud yn siŵr mai dyma'r swydd gywir i chi. Felly, cyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am y swydd, ewch ati i ddadansoddi'r wybodaeth sydd gennych eisoes. Gall hyd yn oed hysbyseb fer ddatgelu llawer o wybodaeth ddefnyddiol os byddwch yn darllen rhwng y llinellau. Edrychwch ar yr hysbyseb a'i dadansoddi o dan y penawdau hyn:
- Arddull ac iaith: beth yw arddull gyffredinol yr hysbyseb? A yw'n ffurfiol, yn defnyddio cywair isel, yn flodeuog neu'n chwilio am sylw? Beth mae hyn yn ei ddweud wrthych am y sefydliad?
Pa eirfa a ddefnyddir i ddisgrifio'r sefydliad? Sut mae'r sefydliad yn gweld ei hun a pha ddelwedd y mae am ei chyfleu? Ydych chi'n teimlo'n gyfforddus gyda'r geiriau a ddefnyddir? A fydd eich personoliaeth yn gweddu i'r sefydliad? A oes gennych werthoedd tebyg?
- Disgrifiad swydd cryno: a yw'r gwaith o ddiddordeb i chi go iawn? A yw'n cyfateb i'ch anghenion? Beth yw'r tasgau allweddol? Pa sgiliau sydd eu hangen? Allwch chi ddarparu tystiolaeth o'ch gallu i ddelio'n llwyddiannus â phob tasg? Sut byddwch yn dangos eich potensial i ymdopi â thasgau nad ydych wedi delio â nhw o'r blaen? A oes unrhyw beth sy'n aneglur?
- Cymwysterau: a yw cymwysterau yn ddymunol neu'n hanfodol? Er enghraifft, oes angen trwydded yrru neu gymhwyster penodol arall?
- Profiad: a yw profiad yn ddymunol neu'n hanfodol? A fyddwch yn cael eich diystyru? Pa brofiad y gallwch ei gynnig o unrhyw agwedd ar eich bywyd sy'n dangos sgiliau agos neu drosglwyddadwy?
- Rhinweddau: nodwch yr iaith a ddefnyddir i ddisgrifio'r ymgeisydd delfrydol. Ewch ati i ddadansoddi pob enw ac ansoddair a'r hyn y mae'n ei olygu. Er enghraifft, gallai 'hunanddechreuwr ymroddedig' olygu mai ychydig iawn o oruchwylio a roddir, ond gallai hefyd olygu na chaiff unrhyw hyfforddiant ei roi. Efallai y bydd angen i chi fynd ati i gymell eich hun heb fawr ddim cymorth nac anogaeth, neu gallech hyd yn oed wynebu gwrthwynebiad. Dysgwch beth fydd hyn yn ei olygu yn ymarferol, a byddwch yn onest ynghylch a yw eich personoliaeth a'ch anghenion yn cyfateb i'r hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano.
- Lleoliad a symudedd daearyddol: pa mor bell fyddech chi'n teithio bob dydd? Fyddech chi'n ystyried symud tŷ? Os oes angen teithio o gwmpas, faint o broblem fyddai hyn i chi?
- Rhagolygon: pa gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu yn y swydd hon? Efallai y bydd y cyflogwr yn chwilio am dystiolaeth o'ch parodrwydd a'ch gallu i wneud cynnydd. Os yw'r cyfleoedd yn ymddangos yn gyfyngedig, mae'n bwysig gweld sut y gallwch ei defnyddio i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad.
- Cyflog: fel arfer, mae'n ganllaw da o ran lefel y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen, ond mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol o'r cyflog a delir fel arfer ar gyfer yr alwedigaeth honno. Beth rydych yn chwilio amdano, yn enwedig os nad oes cyflog wedi'i nodi?
- Enw cyswllt: a oes enw cyswllt wedi'i roi ar gyfer cael rhagor o wybodaeth? Mae'n syniad da manteisio ar gynigion o'r fath, ond byddwch yn barod pan fyddwch yn gwneud hynny, gan y bydd y cyswllt yn creu argraff ohonoch o'r cychwyn cyntaf. Ewch ati i ymarfer eich cyflwyniad a byddwch yn barod ar gyfer y cwestiwn, 'Beth hoffech chi ei wybod amdanom ni?'. Byddwch yn barod i nodi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.