Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2 Beth i'w gynnwys yn eich CV (a beth i'w hepgor)

Mae eich CV yn unigryw i chi o ran ei arddull, cynnwys a chynllun – ond efallai y bydd y pwyntiau canlynol sy'n nodi'r hyn y dylid ac na ddylid ei wneud yn ddefnyddiol. Fel arfer, mae CVau yn cynnwys:

  • data personol
  • profiad o gyflogaeth
  • addysg
  • hyfforddiant
  • diddordebau a gweithgareddau
  • sgiliau ychwanegol
  • nodau gyrfa a phroffil personol (dewisol)
  • geirdaon.

Data personol

Rhowch yr enw rydych am gael eich galw os cewch eich galw am gyfweliad neu eich penodi. Fodd bynnag, nid oes angen i chi roi llythrennau cyntaf neu enwau canol; nid oes angen eu rhoi ar y cam hwn a gallant gymhlethu pethau. Rhowch eich enw yn y canol mewn ffont trwm mwy o faint yn hytrach na roi'r teitl 'Curriculum vitae' – dylai fod yn amlwg beth ydyw.

Sicrhewch eich bod yn rhoi cyfeiriad post llawn gyda chôd post, gan fod gwahoddiadau i gyfweliadau yn aml yn cael eu hanfon ar fyr rybudd a byddai'n fuddiol i chi pe bai'r gwahoddiad yn cael ei anfon atoch yn gyflym. Dylech gynnwys cyfeiriad e-bost, ond sicrhewch ei fod yn adlewyrchu'r ddelwedd rydych am ei chyfleu. Ni fydd cynnwys y cyfeiriad 'pinkfluffybunny@hotmail.com' yn rhoi argraff o berson proffesiynol i'r sawl sy'n recriwtio. Os byddwch yn cynnwys dolen i'ch proffil cyfryngau cymdeithasol, fel eich cyfrif Twitter, unwaith eto, gwnewch yn siŵr ei bod yn broffesiynol.

Mae'n bwysig rhoi rhif ffôn ar gyfer cysylltu â chi neu adael neges. Dylech gynnwys rhif ffôn symudol os oes un gennych. Os ydych yn gweithio a bod darpar gyflogwyr yn gallu cysylltu â chi yn ystod oriau swyddfa, rhowch eich rhif a nodwch mai eich rhif gwaith ydyw fel bod y sawl sy'n galw yn gallu gwneud hynny'n dawel bach. Dylech roi'r côd ardal llawn, y rhif a'r estyniad bob amser er mwyn sicrhau ei fod mor hawdd â phosibl i gysylltu â chi.

Nid oes angen cynnwys manylion fel eich dyddiad geni, cenedligrwydd, rhyw, statws priodasol neu nifer y plant sydd gennych. Nid yw'r rhain yn berthnasol ar CV. Y nod yw sicrhau eich bod yn cael ei gwahodd am gyfweliad. Gallwch drafod y manylion hyn yn y cyfweliad os yw'n briodol pan fydd gennych fwy o gyfle i fynd i'r afael ag unrhyw anawsterau.

Profiad o gyflogaeth

Eich nod yma yw tynnu sylw at yr hyn rydych wedi'i gyflawni yn y gwaith. Dylech gynnwys natur a lleoliad busnes eich cyflogwr os nad ydynt yn amlwg o'r enw, ond peidiwch â rhoi'r cyfeiriad nac enw eich rheolwr ar y cam hwn. Ar gyfer swyddi mwy diweddar – yn ystod y deng mlynedd diwethaf, dyweder – dylech roi mwy o fanylion am gyfrifoldebau penodol, prosiectau, aseiniadau a'r canlyniadau a gyflawnwyd. Dylech osgoi defnyddio jargon, oni bai eich bod yn siŵr y bydd y darllenydd yn ei ddeall.

Mae opsiynau gwahanol ar gyfer nodi eich profiad; gallwch wneud hynny yn nhrefn dyddiadau o'r dyddiad cyntaf neu o'r dyddiad diweddaraf. Mae cymaint yn dibynnu ar natur a pherthnasedd eich cyflogaeth flaenorol i'r swydd rydych yn gwneud cais amdani. Ond mae pawb yn cytuno mai'r swydd fwyaf perthnasol ddylai ymddangos ar frig y rhestr, fel bod y darllenydd yn cael ei annog i ddarllen ymlaen.

Mae rhai dilyniannau posibl fel a ganlyn:

  • Rhowch eich swydd bresennol neu'ch swydd ddiweddaraf ar frig y rhestr, gyda'r manylion priodol; yna, rhestrwch weddill eich hanes cyflogaeth yn nhrefn dyddiadau, o'r dyddiad cynharaf neu'r dyddiad diweddaraf.
  • Dechreuwch gyda'r profiad gwaith mwyaf perthnasol, hyd yn oed os nad hwnnw yw'r un diweddaraf, ac yna gweithiwch yn ôl neu ymlaen mewn amser.
  • Rhannwch eich profiad o dan yr is-benawdau 'Cysylltiedig' ac 'Eraill'. Mae hyn yn eich galluogi i dynnu sylw at y profiad y bydd gan y cyflogwr y diddordeb mwyaf ynddo fwy na thebyg a rhoi llai o sylw i swyddi eraill, llai pwysig.
  • Os buoch yn gweithio mewn nifer o swyddi am gyfnod byr a'ch bod am gwtogi ar y rhestr, gallech ddweud rhywbeth fel 'Rhwng 2010 a 2015, gweithiais mewn amrywiaeth o swyddi dros dro yn y diwydiant arlwyo'.

Ni waeth sut y byddwch yn cyflwyno eich profiad o gyflogaeth, sicrhewch ei fod yn glir a bod y modd y cyflwynir dyddiadau dechrau a gorffen yn gyson. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau na ellir eu hesbonio. Er enghraifft, os ydych wedi cymryd seibiant o waith â thâl i fagu teulu, nodwch hyn.

Addysg

Pa mor bell yn ôl y dylech fynd? Dylai'r sawl sydd wedi gadael yr ysgol neu'r coleg yn ddiweddar sicrhau eu bod yn nodi'r addysg y maent wedi'i chael ers yn 11 oed yn glir, ond mae'n fwy priodol i ymgeiswyr mwy aeddfed gynnwys crynodeb o'u haddysg, gan gynnwys yr arholiadau a basiwyd. Nid oes angen cynnwys cyfeiriad llawn pob ysgol neu goleg – dylid cyfyngu'r wybodaeth a roddir i ddyddiadau, enwau a threfi. Cyflwynwch eich cymwysterau yn y ffordd sy'n gwneud y mwyaf ohonynt:

  • Os oes angen gradd neu ddiploma i wneud y swydd, mae'n well dechrau gyda'r rheini, gan alluogi'r cyflogwr i weld ar unwaith eich bod yn bodloni'r gofyniad.
  • Os nad oes gennych unrhyw gymwysterau addysgol lefel uwch, gallech restru eich hanes addysgol yn yr ysgol uwchradd yn nhrefn dyddiadau – gall fod yn haws gwneud hyn na dechrau gyda'r mwyaf diweddar a gweithio tuag yn ôl. Defnyddiwch yr un drefn ag a ddefnyddiwyd gennych ar gyfer eich profiad o gyflogaeth. Os ydych wedi gweithio eich ffordd i fyny o'r gwaelod ac nad oes gennych fawr ddim cymwysterau ffurfiol, gallech ehangu ar yr hyn rydych wedi'i gyflawni yn y gwaith a chwtogi ar yr adran addysg.
  • Os ydych yn cynnig cymwysterau proffesiynol, efallai y byddai nid yn unig yn werth nodi'r cymhwyster (gyda'r lefel S/NVQ, os yw'n briodol) a'r sefydliad dyfarnu, ond sut y cawsoch y cymhwyster, e.e. cwrs llawn amser neu ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith. Ar gyfer swydd dechnegol neu swydd sy'n gofyn am wybodaeth arbennig, dylech ystyried rhoi gwybodaeth ychwanegol i ddangos bod gennych y profiad gwaith, y wybodaeth neu'r hyfforddiant perthnasol.
  • Byddwch yn benodol am yr hyn y gwnaethoch ei astudio, gan dynnu sylw at y rhinweddau personol a'r sgiliau roedd eu hangen i gwblhau eich astudiaethau mewn llythyr eglurhaol neu adran sgiliau. Efallai y bydd disgrifiadau o'r cyrsiau rydych wedi'u hastudio yn ddefnyddiol iawn: nodwch y sgiliau a ddatblygwyd ar y cwrs – fe'u rhestrir yn aml fel deilliannau dysgu. Gall deilliannau dysgu eich helpu i fapio'r sgiliau a ddysgwyd a'r hyn a gyflawnwyd yn ystod eich cyfnod astudio. Gallant hefyd eich helpu i nodi'r wybodaeth pwnc benodol a'r sgiliau trosglwyddadwy a gaffaelwyd gennych yn ystod pob cwrs. Wrth gwrs, mae rhai swyddi yn gofyn am wybodaeth pwnc benodol (e.e. bod yn athro), tra bod eraill yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae rhai yn chwilio am gymysgedd o'r ddau. Drwy astudio, ni waeth beth fo'r pynciau, byddwch yn canfod eich bod wedi datblygu amrywiaeth o wybodaeth pwnc benodol a sgiliau trosglwyddadwy y bydd llawer o gyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mater i chi yw nodi'r wybodaeth a'r sgiliau hyn o'ch profiad eich hun er mwyn eu cyflwyno ar CV.
  • Os cafodd eich cymwysterau eu dyfarnu dramor, nodwch y cymhwyster cyfatebol yn y DU fel bod y cyflogwr yn gwybod pa lefel rydych wedi'i chyrraedd.

Hyfforddiant

Peidiwch â rhoi rhestr gynhwysfawr o'r holl gyrsiau hyfforddi a'r seminarau rydych wedi mynd iddynt. Dylech gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gyrsiau hyfforddi a datblygu sydd wedi para am wythnos neu fwy, neu hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol perthnasol.

Diddordebau a gweithgareddau

Mae sawl diben i'r adran hon. Gall ddangos fod gennych fywyd cytbwys ac nad ydych yn byw i weithio yn unig; eich bod yn berson cymdeithasol sy'n tynnu ymlaen ag eraill; neu eich bod yn cadw eich hun yn heini. Efallai bod eich hobïau wedi rhoi cyfleoedd i chi fynd i'r afael â rolau a datblygu sgiliau nad ydynt yn cael eu cwmpasu yn y gwaith – efallai eich bod wedi helpu mewn ysgol, wedi cynnal clwb cyfrifiaduron neu wedi gwneud gwaith gwirfoddol sy'n dangos sgiliau trefnu a rheoli. Gall fod yn werth sôn am hobi anarferol fel awyrblymio neu ymchwilio i hanes y teulu, er ei fod yn amlwg nad yw'n berthnasol i'r swydd. Mae'n nodwedd ddiddorol i'w chynnwys yn eich CV ac yn sicrhau ei fod yn gofiadwy.

Sgiliau ychwanegol

Weithiau, mae amrywiaeth o yrfaoedd unigol yn golygu bod adrannau ychwanegol yn ddymunol: gallwch greu eich is-benawdau eich hun. Dylech gynnwys manylion y dylai darpar gyflogwr ei wybod yn eich barn chi: os oes gennych drwydded yrru, neu sgiliau ychwanegol fel ieithoedd tramor (os yw'n bosibl, nodwch eich cymhwysedd), hyfforddiant cymorth cyntaf, ac ati. Mae hefyd yn bwysig amlinellu lefel eich sgiliau TG a bysellfwrdd, gan gynnwys unrhyw feddalwedd rydych yn gyfarwydd â hi, e.e. Word ac Excel.

Nodau gyrfa a phroffil personol

Gall cynnwys nodau gyrfa a phroffil sgiliau fod yn effeithiol iawn os ydych yn chwilio am yrfa newydd, os oes gennych gofnod gwaith anghonfensiynol neu os ydych yn gwneud cais am swydd lle mae llawer o gystadleuaeth.

Geirdaon

Fel arfer, bydd angen dau ganolwr arnoch. Dylai eich cyflogwr presennol neu ddiwethaf fod yn un ohonynt. Rhowch eu henwau, eu cyfeiriadau a'u rhifau ffôn, a'u statws neu eu cydberthynas â chi (e.e. rheolwr llinell, tiwtor cwrs). Os nad ydych am i unrhyw un gysylltu â'ch cyflogwr ar y cam hwn, dywedwch hynny yn eich CV neu lythyr eglurhaol. Efallai y byddai'n well gennych hepgor canolwyr o'r CV a rhoi 'ar gael ar gais'.