6.1 Archwilio cyfleoedd
Pa mor glir y mae angen i chi fod am y math o waith rydych am ei wneud cyn i chi fynd ati i archwilio cyfleoedd? Un ffordd o feddwl am hyn yw defnyddio graddfa o 1 i 10, lle mae 1 yw 'Nid oes gennych unrhyw syniad am yr hyn rwyf am ei wneud' a 10 yw 'Rwy'n gwybod yn union beth rwyf am ei wneud'. Cewch gyfle i roi cynnig ar hyn ond, weithiau, gall meddwl am sefyllfa rhywun arall fod yn ffordd dda o ddechrau meddwl am eich sefyllfa eich hun. Mae'r astudiaeth achos isod yn cynnig enghraifft fer, a allai eich ysbrydoli.
Astudiaeth achos: Christopher
Mae Christopher yn 35 oed ac wedi bod yn ddi-waith am 12 mis; ei swydd ddiwethaf oedd gyrrwr dosbarthu pizzas ar gyfer cwmni lleol bach sydd wedi'i ddirwyn i ben. Ers hynny mae wedi colli ei drwydded yrru oherwydd cyfres o ddirwyon am oryrru.
Rhoddodd Christopher '3' iddo ef ei hun ar y raddfa 'yn glir am waith'. Mae ei nodiadau yn egluro hyn fel a ganlyn:
Rwy'n dweud '3' oherwydd hoffwn fynd yn ôl i yrru mewn gwirionedd, ond dwi ddim yn credu y galla' i wneud hynny yn y byrdymor. Efallai y buaswn i wedi bod eisiau gwneud gwaith tacsi. Dwi'n gwybod beth nad wyf am ei wneud – gwaith yn y diwydiant adeiladu neu weithio mewn siop – ac mae'n ymddangos mai dyna'r cyfan sy'n cael ei gynnig yn fy nghanolfan gwaith leol. Dwi wedi ystyried gweithio fel mecanig, gan fy mod i'n eithaf handi yn gwneud y math hwnnw o waith, ond dwi ddim yn gwybod a oes angen i chi gael cymwysterau. Efallai bod angen i mi holi a darganfod yr hyn sydd ei angen arna' i i fod yn fecanig. Dwi ddim yn berson sefyll arholiadau felly efallai y byddai hynny yn fy atal rhag bwrw ati os bydd angen gwneud hynny.
Gweithgaredd 7
Beth rydych yn ei sylwi am achos Christopher? A yw Christopher yn glir ynghylch yr hyn y mae eisiau ei wneud? Nodwch un neu ddau bwynt.
Sylwadau
Efallai mai'r peth cyntaf y gwnaethoch sylwi arno oedd bod gyrfa Christopher wedi bwrw wal pan wnaeth y cwmni roedd yn gweithio iddo gau lawr. Roedd hynny'n rhywbeth nad oedd ganddo unrhyw reolaeth drosto. Fodd bynnag, efallai eich bod yn teimlo bod gan Christopher reolaeth dros y dirwyon a gafodd am oryrru, a arweiniodd at golli ei drwydded yrru. Er efallai y byddech yn teimlo'n wahanol ar ôl darganfod ei fod wedi cael y rhan fwyaf o'r dirwyon hynny wrth wneud y swydd ddosbarthu lle roedd dan bwysau i ddosbarthu'r nwyddau ar amser.
Efallai y sylwch hefyd fod Christopher yn ystyried, ond yn diystyru, mathau eraill o waith gyrru – am y tro o leiaf. Yn hytrach, mae'n nodi rhywbeth gwahanol, ond cysylltiedig. Mae'n credu y gallai fod diddordeb ganddo mewn gweithio fel mecanig ac y gallai'r swydd honno fod yn addas iddo. Fodd bynnag, mae ganddo fylchau yn ei wybodaeth ac mae'n nodi cwestiwn allweddol y mae angen iddo geisio ei ateb cyn y gall fynd ati i asesu a yw'n gyfle hyfyw iddo.
Nawr meddyliwch mewn ffordd debyg am eich sefyllfa chi.
Gweithgaredd 8
Mae'r gweithgaredd hwn yn eich helpu i benderfynu pa mor glir ydych chi am yr hyn rydych am ei wneud, gan ddefnyddio graddfa o 1 i 10, a nodi'r cwestiynau y gallai fod angen i chi eu gofyn. Ar y raddfa, mae 1 yn golygu eich bod yn teimlo'n ddryslyd iawn am y math o waith rydych am ddod o hyd iddo a 10 yn golygu eich bod yn gwbl sicr yn ei gylch. Ceisiwch ddewis y rhif sy'n cynrychioli'r ffordd rydych yn teimlo ar hyn o bryd orau.
Nawr eich bod wedi nodi eich barn, atebwch y cwestiynau isod i'ch helpu i ystyried pam y gallech fod wedi dewis y radd honno i ddangos pa mor glir ydych chi:
- Pam y gwnaethoch ddewis y rhif hwnnw?
- Beth rydych chi'n ei wybod am y math o waith rydych am ei wneud?
- Beth hoffech chi ei wybod am gyfleoedd gwaith?
Sylwadau
Gobeithio eich bod wedi canfod bod gennych rai syniadau am y math o waith yr hoffech ei wneud yn seiliedig ar eich gwaith ar y cwrs hyd yma. Os gwnaethoch ganfod eich hun yn dweud nad oes gennych unrhyw syniad o gwbl, byddwch yn wyliadwrus. Ai ddim yn gwybod ydych? Neu a ydych yn diystyru rhai pethau a allai apelio atoch?
P'un a ydych yn hollol glir ynghylch yr hyn rydych am ei wneud, neu'n meddu ar ryw fath o syniad ond llawer o amheuon, mae angen i chi fynd ati i brofi'r cyfleoedd sydd ar gael a'r gofynion posibl arnoch cyn i chi ddechrau dilyn gyrfa o'ch dewis.
Cofiwch, ar y cam hwn, nid ydych yn ymrwymo i unrhyw beth – rydych yn archwilio'r opsiynau a gallwch fforddio teimlo rhywfaint o ansicrwydd. Gallwch hefyd fforddio newid eich meddwl os bydd yr ymchwil a wnewch yn dangos nad eich syniadau cychwynnol yw'r rhai gorau i'w dilyn. Nawr bod gennych rai syniadau i weithio arnynt, eich tasg nesaf yw mireinio'r rhain ymhellach.