1 Pwy ydw i?
Bydd gweithgareddau 1 a 2 yn eich helpu i lunio trosolwg o'ch bywyd hyd yma, ac i ystyried sut y gwnaeth eich hanes cynnar gyfrannu ato.
Gweithgaredd 1
Rhan 1
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn defnyddio'r templed ar gyfer y gweithgaredd hwn yn y pecyn adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i lunio 'llinell bywyd'. Gall y llinell bywyd hon eich helpu i wneud y canlynol:
- ystyriwch batrwm eich bywyd
- casglu gwybodaeth a all ddylanwadu ar eich dewisiadau yn y dyfodol
- darganfod agweddau ar eich hun y gallech fod am eu datblygu neu eu newid.
Gan ddefnyddio Ffigur 1 fel canllaw, nodwch ddigwyddiadau allweddol yn eich bywyd a all gynnwys addysg, gwaith, diddordebau, priodas, plant ac ati, er mwyn dangos yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau ar wahanol adegau o'ch bywyd.
Gall yr ymarfer llinell bywyd ddeffro llawer o emosiynau mewn rhai pobl wrth iddynt fynd ati i adolygu eu profiadau. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad am unrhyw deimladau anodd gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo.
Rhan 2
Pan fyddwch wedi llunio llinell bywyd sy'n adlewyrchu eich prif brofiadau, meddyliwch am y teimladau a ddeffröwyd gan bob profiad ac yna atebwch y cwestiynau hyn, gan nodi unrhyw feddyliau neu syniadau sydd gennych:
- Beth mae'r llinell bywyd yn ei ddweud amdanoch chi a'r ffordd rydych wedi byw eich bywyd?
- A oes themâu amlwg sy'n rhedeg drwy eich bywyd?
- Yn gyffredinol, a yw'r patrwm ar i fyny neu ar i lawr? A yw'n sefydlog neu'n newidiol? Pa fathau o ddigwyddiadau oedd yn gysylltiedig â'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau?
- Yn gyffredinol, a yw'r uchafbwyntiau yn gysylltiedig â'ch dewisiadau eich hun a'r isafbwyntiau yn gysylltiedig â'r annisgwyl? A oes rhai profiadau rydych yn ymdopi â nhw'n rhwydd a rhai eraill rydych yn eich cael hi'n anodd ymdopi â nhw?
- A oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu?
Er enghraifft, datgelodd y gweithgaredd hwn i un person fod pob un o'i huchafbwyntiau yn gysylltiedig â chael canmoliaeth gan eraill a bod ei hisafbwyntiau'n gysylltiedig â symudiadau daearyddol. Sylweddolodd rhywun arall fod pob un o'r newidiadau cadarnhaol o ran ei waith yn dilyn siomedigaethau yn ei fywyd preifat, a bod pob siomedigaeth wedi'i ysgogi i newid ac wedi cynnig cyfleoedd iddo. Cydnabu trydydd person fod rhywun arall wastad yn gweithredu fel mentor.
A fyddai rhywun sy'n eich adnabod yn dda wedi llunio eich llinell bywyd yn wahanol? Efallai y byddai'n ddiddorol gofyn i o leiaf un person arall lunio eich llinell bywyd er mwyn cymharu ei linell ef a'ch un chi.
Gweithgaredd 2
Rhan 1
Nod y gweithgaredd hwn yw tanio atgofion manylach o'ch plentyndod a'ch arddegau. Gwnewch nodiadau mewn ymateb i'r awgrymiadau isod. Efallai y bydd y gweithgaredd yn gwneud i chi fod eisiau diwygio eich llinell bywyd neu ychwanegu ato, wrth i chi ystyried eich profiadau yn fanylach.
- Dylanwadau teuluol: os yw'n gymwys, dywedwch rywbeth am y dylanwadau a gawsant arnoch o ran eich galwedigaeth. Er enghraifft, a oedd un o'ch rhieni yn fecanig neu un arall yn athro?
- Plentyndod cynnar: beth rydych yn ei gofio am eich plentyndod cynnar? Er enghraifft, yr ardal a'r tŷ roeddech yn byw ynddynt, ffordd o fyw'r teulu, y gweithgareddau y gwnaethoch gymryd rhan ynddynt, y profiadau a gawsoch, yr hyn roedd eich teulu yn ei ddisgwyl ohonoch, eich rôl yn y teulu.
- Blynyddoedd ysgol: rhestrwch yr ysgolion yr aethoch iddynt ynghyd â dyddiadau, y pynciau roeddech yn rhagori ynddynt ac yn eu mwynhau, sut gwnaethoch gyd-dynnu â phlant eraill, sut roedd eich athrawon yn eich gweld chi, sut roeddech chi'n gweld eich athrawon, ac unrhyw chwaraeon neu weithgareddau y gwnaethoch gymryd rhan ynddynt yn yr ysgol.
- Arddegau: pa weithgareddau roeddech yn rhagori ynddynt neu'n eu mwynhau? Sut roedd eich ffrindiau yn eich gweld chi? Sut berson oeddech yn eich arddegau? Beth roeddech am fod?
- Unrhyw addysg neu hyfforddiant pellach: beth wnaethoch chi? Sut gwnaethoch ei ddewis? Sut hwyl gawsoch chi?
Rhan 2
Nawr treuliwch rywfaint o amser yn ystyried yr hyn y mae eich nodiadau yn ei ddweud amdanoch – pa fath o berson ydych, a pham, a sut gwnaethoch gyrraedd lle rydych heddiw. Efallai y gwelwch fod themâu yn ymddangos, fel agweddau cryf ar eich personoliaeth neu dalentau a diddordebau penodol. Efallai bod gennych amryw o alluoedd ond y gwnaethoch benderfynu datblygu un yn hytrach na'r llall – gallu ym maes chwaraeon yn hytrach na thalent artistig, efallai. O edrych yn ôl, allech chi fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol? Gwnewch nodyn o unrhyw wybodaeth rydych wedi'i chanfod.
Rydych nawr wedi cwblhau Adran 1– da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.