Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2 Pa rolau sydd gennyf mewn bywyd?

Ffordd arall o nodi eich galluoedd yw ystyried y rolau rydych wedi'u chwarae yn ystod eich bywyd. Dychmygwch eich hun fel actor yn eich bywyd eich hun, fel cymeriad mewn ffilm. Rydych fwy na thebyg yn chwarae llawer o rolau gwahanol. Efallai bod gennych rolau fel rhiant, cyflogai, ffrind neu fyfyriwr, ac mae pob rôl sydd gennych yn gofyn am wahanol bethau gennych.

Er enghraifft, os ydych wedi bod yn fyfyriwr yn flaenorol, byddai wedi bod angen sgiliau dysgu, rheoli amser a chyfathrebu ysgrifenedig arnoch. Efallai eich bod yn mwynhau DIY? Os felly, rydych wedi dysgu sut i fynd ati i gynllunio a threfnu, yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol. Os ydych yn rhiant, mae'n debygol eich bod wedi datblygu amrywiaeth eang o sgiliau gan gynnwys cyllidebu, rheoli amser, trefnu, coginio, negodi, delio â gwaith gweinyddol ac ati. Os ydych yn cadeirio cyfarfodydd clwb, byddwch wedi meithrin y gallu i ddelio ag amrywiaeth o bobl, arwain a chyfathrebu'n effeithiol.

Astudiaeth achos: Rolau Tom mewn bywyd

Edrychwch ar restr Tom isod. Mae'n dangos rhai o'r rolau y mae'n eu chwarae a'r gofynion sy'n gysylltiedig â nhw.

  1. Cynrychiolydd myfyrwyr: mynd i gyfarfodydd i gyfleu barn fy nosbarth i athrawon a darlithwyr, cyfathrebu â phobl sy'n dilyn yr un cwrs â fi.
  2. Gwirfoddolwr gyda llinell gymorth y Samariaid: gwrando ar bobl yn siarad am eu pryderon, cynllunio fy shifftiau i gyd-fynd ag aelodau eraill o'r tîm a'm teulu.
  3. Prif arddwr: addysgu hanfodion garddio i fyfyrwyr haf, gweithredu peiriannau, cynllunio swyddi tymhorol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhannu ar draws y tîm.
  4. Mab: gyrru fy mam oedrannus i weld ei ffrindiau, defnyddio'r rhyngrwyd i wneud siopa ar-lein gyda hi.
  5. Trysorydd tîm dartiau tafarn: cymryd ffioedd aelodaeth a'u rhoi yn y banc, talu treuliau a chyflwyno adroddiadau.

Yn amlwg, mae llawer mwy o alluoedd a allai fod wedi'u cynnwys yma, ond gobeithio y bydd y rhain yn rhoi syniadau i chi am eich rolau eich hun mewn bywyd yn y gweithgaredd nesaf hwn.

Gweithgaredd 3

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Rhan 1

Bydd y gweithgaredd hwn yn eich helpu i nodi'r rolau rydych wedi'u chwarae yn eich bywyd hyd yma ac yn rhoi syniad i chi o'r galluoedd rydych wedi'u datblygu. Yn gyntaf, nodwch y rolau rydych wedi'u chwarae yn fwyaf diweddar ac un neu ddau weithgaredd allweddol sy'n gysylltiedig â nhw.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwadau

Efallai y bydd eich rhestr yn cynnwys cyfuniad o rolau - rhai sy'n ymwneud â theulu neu ffrindiau, eraill sy'n ymwneud â'r gwaith rydych wedi'i wneud, neu hobïau neu ddiddordeb. Yn yr un modd, efallai y bydd eich rhestr hefyd yn cynnwys rolau y teimlwch eu bod wedi'u 'rhoi' i chi gan eraill ac y byddai'n well gennych beidio â'u cyflawni. Er enghraifft, a yw eich grŵp o ffrindiau yn disgwyl i chi wneud y gwaith trefnu, hyd yn oed pan nad ydych yn teimlo fel gwneud hynny? Er hyn, dylid nodi, os cewch eich enwebu gan bobl eraill i gyflawni rôl, efallai mai'r rheswm am hyn yw eich bod yn cyflawni'r rôl honno'n dda yn eu barn nhw.

Rhan 2

Nawr eich bod wedi nodi eich rolau gwahanol ac wedi meddwl am y mathau o weithgareddau y mae angen i chi eu cyflawni, ystyriwch pa rolau yw'r rhai mwyaf boddhaol a'r rhai rydych yn teimlo eich bod yn eu cyflawni'n dda. Defnyddiwch y cwestiynau canlynol i feddwl am hyn a chofnodwch unrhyw atebion.

  • Ydych chi wedi'ch synnu gan yr amrywiaeth o bethau rydych yn ei wneud ac yn eu cymryd yn ganiataol?
  • Oeddech chi'n gallu nodi'r mathau o weithgareddau rydych yn eu cyflawni ym mhob un o'r rolau hyn?
  • A oeddent yn dechrau awgrymu unrhyw wybodaeth, sgiliau a nodweddion a allai fod yn gysylltiedig â chyflawni mathau gwahanol o rolau?
  • A oeddech wedi'ch synnu gan y rolau roeddech yn eu mwynhau a'r rhai nad oeddech yn eu mwynhau, a'r rhai roeddech yn teimlo eich bod yn eu cyflawni'n dda, neu ddim yn eu cyflawni cystal?
  • Pa rolau y gallech fod am barhau i'w cyflawni a pha rai, os o gwbl, y gallech fod am roi'r gorau iddynt?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydych nawr wedi cwblhau Adran 2 - da iawn! Gobeithio bod y deunydd astudio wedi bod o fudd i chi a'ch bod yn awyddus i barhau â'r cwrs. Cofiwch, os byddwch yn llwyddo yn y cwis ar ddiwedd pob bloc, gallwch lawrlwytho bathodyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu a datganiad cyfranogi i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan.