Sut mae eich gweithlu yn teimlo? Pa effaith gafodd y 'newid i weithio ar-lein' ar ôl COVID-19, a'r ymarfer a phrosesau sydd wedi dilyn, ar lesiant staff? Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r hyn a olygir gan lesiant yn y gweithle mewn byd gweithio hybrid - pwy sydd â'r cyfrifoldeb ohono, yr heriau a wynebir wrth ei greu a'i gynnal, a'r buddiannau i'ch sefydliad.