Sut mae eich gweithlu yn teimlo? Pa effaith gafodd y 'newid i weithio ar-lein' ar ôl COVID-19, a'r ymarfer a phrosesau sydd wedi dilyn,
ar lesiant staff? Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r hyn a olygir gan lesiant yn y
gweithle mewn byd gweithio hybrid - pwy sydd â'r cyfrifoldeb ohono, yr heriau a
wynebir wrth ei greu a'i gynnal, a'r buddiannau i'ch sefydliad.
Ydy eich
sefydliad yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal? Caiff
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ei wawdio yn aml fel 'cywirdeb
gwleidyddol wedi mynd i'r pen' neu fod blwch gofynion cyfreithiol yn cael ei
lenwi gyda thic, ond mae'r cwrs hwn yn pwysleisio'r rôl allweddol sydd ganddo i
gyrraedd diwylliant o lesiant, ac yn eich gwahodd chi i'w ystyried fel
buddsoddiad yn ased pwysicaf eich sefydliad: y bobl sy'n gweithio yno.
myfyrio ar arferion gweithio hybrid/digidol a'u heffaith ar eich llesiant eich hun, a llesiant eich cydweithwyr
trafod agweddau gwahanol o lesiant, cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yng nghyd-destun gweithio hybrid ac yn ddigidol
mynegi buddiannau a/neu risgiau posibl i lesiant personol sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â gweithgareddau ar-lein
gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu a chynnal amgylchedd gweithio amrywiol a chynhwysol
cydnabod y rôl o arweinyddiaeth a chyfrifoldeb personol wrth werthfawrogi cydraddoldeb, cynhwysiant a gwahaniaeth ar lefel unigol, yn ogystal ag i dimau a'r sefydliad ehangach.