Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried gwreiddiau Celtaidd y Gymraeg, yn darganfod sut y deilliodd o'r teulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn olrhain teithiau’r bobloedd a ddylanwadodd ar ei hesblygiad. Ar hyd y ffordd, byddwn yn datgelu cysylltiadau annisgwyl rhwng ymfudiadau hynafol, cyfnewid diwylliannol a’r geiriau a ddefnyddiwn heddiw.
Mae’r map hwn yn dangos ble mae ieithoedd Celtaidd yn cael eu siarad yn Ewrop.

Gwreiddiau Indo-Ewropeaidd
Mae’r mwyafrif o'r ieithoedd yn Ewrop yn perthyn i deulu o ieithoedd o'r enw Indo-Ewropeg. Mae mwy na 400 o ieithoedd cysylltiedig ac amrywiadau yn perthyn i’r teulu Indo-Ewropeaidd, ac mae’r rhain wedi’u rhannu’n chwe changen, gyda phob un yn cynnwys nifer o ieithoedd. Er enghraifft, mae Saesneg, Iseldireg ac Almaeneg yn perthyn i’r gangen Germaneg; yna, mae Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg yn perthyn i'r gangen Italeg. Mae hyn yn golygu bod pob un o’r ieithoedd Germanaidd wedi esblygu o iaith gyffredin a bod yr ieithoedd Italaidd wedi esblygu o un arall. Er hynny, roedd y ddwy iaith hon wedi esblygu’n gynharach o iaith gyffredin lawer hŷn a elwir erbyn hyn yn proto-Indo-Ewropeg. Yn yr un modd, datblygodd bob un o'r ieithoedd Celtaidd o’r iaith hŷn hon.

Model o goeden iaith yn dangos y cysylltiadau rhwng (prif) ieithoedd y teulu Indo-Ewropeaidd.
Dyfodiad y Celtiaid
Tybir bod y Celtiaid wedi dod o ganolbarth Ewrop, gan gyrraedd Ynysoedd Prydain rywbryd yn ystod y bumed ganrif CC. Roedd y don gyntaf o Geltiaid a gyrhaeddodd yn siarad iaith rydym yn ei galw’n ‘Goedeleg’, ac o'r iaith honno y datblygodd Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaweg (a siaredir ar Ynys Manaw). Daeth ton arall o Geltiaid yn fuan wedi hynny, a’r rheiny’n siarad iaith rydym yn ei galw’n ‘Brythoneg, y datblygodd Cymraeg, Llydaweg (a siaredir yng ngogledd Ffrainc) a Chernyweg ohoni.
Mae’r tabl canlynol yn dangos geiriau Gaeleg, Gwyddeleg, Cymraeg a Chernyweg sy’n awgrymu eu bod wedi datblygu o un iaith Geltaidd gyffredin.
| Gaeleg yr Alban | Gwyddeleg | Cymraeg | Cernyweg | Saesneg |
|---|---|---|---|---|
| aimsir | aimsir | amser | - | time, weather |
| anail | anáil | anadl | anall | breath |
| cath | cath | cad | kas | battle |
| caol | caol | cul | cul | slender |
| cnò | cnó | cneuen | know | nut |
| creamh | creamh | craf | - | wild garlic |
| cù | cú | ci | ki | dog, hound |
| làn | lán | llawn | leun | full |
| roth | roth | rhod | ros | wheel |
| taigh | teach | tŷ | ti | house |
| troigh | troigh | troed | troes | foot |
Dylanwad Rhufeinig
Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid ym Mhrydain ym 43 OC, roeddynt yn ei galw’n ‘Britannia’, a’u gair nhw am iaith y bobl a oedd yn byw yno oedd tarddiad y term ‘Brythonaidd’ (Brittonic). Bryd hynny, siaradwyd Brythoneg ym mhob rhan o Brydain heblaw ardaloedd yn yr Alban i’r gogledd o Aber Gweryd (Firth of Forth). Mae bron yn sicr fod llawer o'r Brythoniaid wedi dod yn ddwyieithog, ac fe fabwysiadodd yr iaith Frythoneg nifer o eiriau Lladin. Nid oes tystiolaeth fod y Rhufeiniaid wedi ceisio annog yn erbyn na chael gwared ar yr iaith, ond Lladin oedd iaith y bobl mewn grym. Parhaodd y bobl gyffredin i siarad Brythoneg ac, wedi i reolaeth y Rhufeiniaid ddod i ben ym Mhrydain, daeth y Frythoneg i’r amlwg unwaith eto.
Effaith mudo
Er bod rhai ymsefydlwyr o Iwerddon yng ngorllewin Prydain bryd hynny, sef y lle rydym bellach yn ei adnabod fel Cymru, y rhai a oedd yn teithio ar draws Môr y Gogledd ac yn ymsefydlu yn y rhannau dwyreiniol a newidiodd dirlun ieithyddol Prydain. O'r tiroedd sydd bellach yn cael eu hadnabod fel yr Iseldiroedd, Denmarc a’r Almaen daeth yr Eingl, y Sacsoniaid a’r Jiwtiaid. Mae’n debygol fod rhai wedi dod cyn i’r Rhufeiniaid adael, ond yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig fe ddaethant yn fwy ebrwydd i wneud yn fawr o diroedd cyfoethog dwyrain Prydain. Erbyn 500 OC roeddynt wedi creu teyrnasoedd lle’r oedd eu hiaith nhw, sef Eingl-Sacsoneg, a esblygodd yn y pen draw i fod yn Saesneg, yn cael ei defnyddio fel y prif gyfrwng cyfathrebu. Dros amser, fe wnaethant ymwthio i’r de, y gorllewin a’r gogledd, gan ehangu eu teyrnasoedd a chreu holltau rhwng siaradwyr y Frythoneg.

Dyma fap o ogledd-orllewin Ewrop, gyda saethau’n dangos symudiad o ogledd yr Almaen a Denmarc heddiw i Northymbria a Mersia (yr Eingl), Dwyrain Anglia (y Sacsoniaid) a Wessex (y Jiwtiaid).
Dros yr ychydig ganrifoedd a ddilynodd, tyfodd ieithoedd y gwahanol grwpiau o siaradwyr Brythoneg ar wahân, gan ddatblygu i fod yn ‘Cymbrieg’ (iaith a siaredid ar un adeg yng ngogledd Lloegr ac iseldir de’r Alban, a ddiflannodd ar ddechrau’r unfed ganrif ar ddeg), Cernyweg a Chymraeg. Gadawodd rhai siaradwyr Brythoneg Ynysoedd Prydain a chroesi’r môr i Lydaw, lle’r esblygodd eu hiaith i fod yn Llydaweg, a siaredir hyd heddiw. Y Gymraeg yw’r gryfaf o'r tair iaith Frythonaidd sydd wedi goroesi, ond byddai’r Gymraeg a siaredid bryd hynny yn hollol ddieithr i’r mwyafrif helaeth sy’n siarad Cymraeg heddiw.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon