Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Rhyddhau amrywiaeth y gorffennol

Yr hanesydd Norena Shopland sydd yn yn egluro pam bod gennym ddiffyg gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol wrth adrodd straeon am amrywiaeth, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i newid hyn.

Dysgwch fwy am gyrsiau hanesY Brifysgol Agored.

Merched LlangollenGwnaeth Eleanor Charlotte Butler a Sarah Ponsonby ffoi o Iwerddon i ddianc rhag pwysau cymdeithasol priodas gonfensiynol. Fe gyrhaeddon nhw Langollen ym 1778 ac ymgartrefu yno fel cwpl, gan ddod yn enwog drwy Ewrop fel 'Merched Llangollen'. Paentiad gan J.H. Lynch c. 1880 drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Mae rhai pobl yn meddwl am hanes fel rhywbeth a ddylai fod yn gyfyngedig i lyfrau a gwersi ysgol, rhywbeth bron yn estron. Galwodd yr awdur L. P. Hartley ef yn ‘wlad dramor: maent yn gwneud pethau'n wahanol yno.’

Ond mewn gwirionedd, mae hanes o'n cwmpas ni i gyd. Mae heddiw yn hanes, oherwydd heb gofnodi gweithredoedd pobl nawr, ni fyddai unrhyw beth i'w astudio yn y dyfodol.

Mae'r ffordd rydym yn cofnodi'r gweithredoedd hyn - nid y penderfyniadau mawr yn unig, ond y rhai mwy cyffredin hefyd - yn ddibynnol ar gymaint o bethau. Hyd heddiw, rydym yn dal i fod yn fwy tebygol o gofnodi gweithredoedd pobl sy’n fwy cyfoethog, sy’n fwy llythrennog,ac sydd ganddynt fwy o gyfalaf cymdeithasol a chyfleoedd oherwydd pwy ydynt.

Canlyniad hynny yw bod llawer iawn o bobl yn cael eu gadael allan o hanes. Er enghraifft, mae hanes menywod ymhell y tu ôl i hanes dynion oherwydd y cyfleoedd na chafon nhw i weithio, teithio, ysgrifennu a chael eu cyfraniadau wedi eu cydnabod.

Caiff y lle gwag hwn ei gydnabod yn eang, ac mae llawer o bobl yn ceisio ei lenwi, ond mae hanesion eraill, yn enwedig hanes grwpiau sydd wedi eu lleiafrifo, yn fwy cuddiedig fyth - neu hyd yn oed yn waharddedig. Mae diffyg o ran hanes anabledd, hil, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rywedd i enwi dim ond rhai, naill ai oherwydd gwahaniaethu agored neu wahaniaethu ar sail diffyg diddordeb.

Gall ceisio mynd i'r afael â'r hepgorion hyn fod yn dasg anodd. Os nad yw'r bobl wedi cael eu hysgrifennu amdanynt, sut gallwn ni ddod o hyd iddynt?

Y man cychwyn yw dechrau cydnabod nad oedd rhywfaint o'r iaith rydym yn ei defnyddio heddiw i ddisgrifio hunaniaethau yn bodoli cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae angen defnyddio'r hyn rydw i'n ei alw'n ddull clytwaith (patchwork approach) i ddod o hyd i'r hanesion cudd hyn.

Y man cychwyn yw dechrau cydnabod nad oedd rhywfaint o'r iaith rydym yn ei defnyddio heddiw i ddisgrifio hunaniaethau yn bodoli cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, os na allwn chwilio am eiriau ac ymadroddion allweddol, bydd angen i ni feddwl beth mae pobl yn ei wneud – nid pwy ydynt.

Er enghraifft, roedd llawer o unigolion sydd o bosib heddiw yn ymadnabod yn naill ai lesbiaidd neu'n drawswryweddol yn arfer byw fel dynion. Roedd menywod – ac yn wir, fel menywod y byddent wedi cael eu  cydnabod ar yr adeg honno – yn gwisgo dillad dynion, ac yn mabwysiadu dullweddau dynion ac roeddent yn troi'n ddynion yn ymarferol o fewn cymdeithas, yn cymryd 'swyddi dynion' megis labrwyr, morwyr, milwyr a nifer o feysydd cyflogaeth a oedd fel arfer yn cael eu cadw i ddynion.

Yn ei llyfr, 'Penal Discipline', yn hyrwyddo diwygiadau i'r system garchardai, mae Mary Louisa Gordon (1861-1941), meddyg o Brydain ac arolygydd carchardai yn dwyn i gof:


I came across another young woman who was continually in prison for stealing men’s clothes. She had several long sentences. I asked her what would keep her out of prison, and she replied, “If I could go to sea.” On investigation I found that she felt it impossible to live as a woman, but could live as a man, and enjoyed men’s work. 

I told her that there was no law against her wearing men’s clothing decently, if she did not steal it. After she had two more convictions, I fitted her out with the clothes she wanted, and paid her fare to South Wales. she got work in a night shift, and lay on her back in a coal-pit hewing coal.


Ymdriniwyd â'r math hwn o chwilio yn y canllaw ymchwil, Morgannwg Hoyw, sydd er gwaethaf y teitl yn cynnwys methodoleg y gellir ei ddefnyddio unrhyw le. Mae'r llyfr, A Practical Guide to Searching LGBQIA Historic Records, hefyd yn ddefnyddiol fel adnodd cymorth mewn technegau ymchwil.

Wrth ddefnyddio'r fethodoleg hon, rydych yn dechrau gweld straeon bach yn ymddangos. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymddangos yn nhudalennau papurau newydd fel llenwadau, y darnau ‘ac i gloi’ hynny sydd wedi eu hanelu at ddifyrru neu syfrdanu'r darllenydd. Ar eu pen eu hunain, nid ydynt yn cynnig fawr ddim i ni yn nhermau dadansoddi a sylwadau, ond wrth eu rhoi gyda'i gilydd, mae patrymau'n dechrau ymddangos.



Mae pob un o'r straeon lleol hyn yn dod at ei gilydd i adlewyrchu sbectrwm eang cymdeithas. Mae'r hyn sy'n wir am hanesion LHDTC+ yn wir am hunaniaethau eraill, megis hanesion pobl anabl. Wrth ymchwilio rhai rasys cerdded ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, fe wnes i ddod o hyd i ras 'peg-leg' am ddynion â phrostheteg bren yn cymryd rhan mewn ras. Adroddiad cadarnhaol ydoedd - ac mae angen naratifau cadarnhaol arnom o'r gorffennol i ychwanegu at ein hanesion amrywiol. 

Mae symud oddi wrth naratifau prif ffrwd yn bwysig, oherwydd heb gynrychiolaeth go iawn, allwn ni fyth ffurfio darlun cywir o gymdeithas.

Ar gyfer llawer o hyn mae'n rhaid i ni droi at hanesion lleol, ac er mwyn hwyluso hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu hyfforddiant helaeth mewn Iaith a Hanes LHDTC+ ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol yng Nghymru.

Y nodau oedd helpu sefydliadau treftadaeth i chwilio eu casgliadau eu hunain ac i estyn allan i gymunedau lleol am hanes cyfoes. Canlyniad hyn oedd cyfres o linellau amser a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023 â'r bwriad o gael llinellau amser LHDTC+ ar gyfer pob un o'r 22 o siroedd yng Nghymru erbyn 2024 - caiff y rhain eu postio ar wefannau siroedd amrywiol ond bydd y map ar gyfer y llinellau amser ar LGBTQ Cymru, gwefan yn ymwneud â phob agwedd ar hanes LHDTC+ Cymru. Mae'r llinellau amser hyn yn dilyn  llinell amser Cymru-gyfan sydd wedi'i chyhoeddi eisoes ac sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar wefan Pride RCT, o'r enw, Welsh Pride.

Mae'r gwaith ar y llinellau amser lleol hyn yn profi'n llwyddiannus yn barod gyda straeon newydd yn dod i'r amlwg. Un esiampl nodedig oedd rhywun a ymatebodd ar y cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw bod cefnder iddynt, Brett Burnell, wedi cael ei ryddhau o'r Llynges ym 1993 am fod yn hoyw. Nid oedd yn anghyfreithlon bod yn hoyw yn y lluoedd arfog yr adeg honno, ond barnwyd ei fod yn 'anghydnaws' â pholisi'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Nid oedd Brett yn fodlon cael ei drin fel hyn, felly safodd ei dir a heriodd y Llynges. Rhaid cofio bod hyn ar adeg pan allai cyfaddef eich bod yn hoyw wneud eich bywyd yn anodd iawn. Daeth yn nodwedd o raglen ddogfen Cutting Edge: Navy Blues ar Sianel 4, a drafododd disgyblaeth y llynges. Gofynnwyd cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin hyd yn oed.


Cynnig cynnar-yn-y-dydd 'Homosexuality in the armed forces'Cynnig cynnar-yn-y-dydd wedi'i gyflwyno ar 25 Tachwedd 1993 yn Nhŷ'r Cyffredin Senedd y DU. Defnyddir cynigion cynnar-yn-y-dydd er mwyn cofnodi safbwyntiau'r ASau neu i dynnu sylw at ddigwyddiadau neu ymgyrchoedd penodol.

Cymerodd saith mlynedd arall cyn cael gwared ar y gwaharddiad ond mae stori Brett yn stori bwysig, nid yn unig yn hanes cyfeiriadedd rhywiol ond hefyd mewn hanes milwrol a hanes cymdeithasol. 

Eto i gyd, i lawer ohonom sy'n astudio hanes LHDTC+ Cymru, ni wnaethom sylwi ar y cysylltiad hwn. Ni all y rheini ohonom sydd â bywydau'n canolbwyntio ar ymchwil ymdrin â phopeth ac mae angen pobl leol arnom i dynnu ein sylw at y mathau hyn o ddigwyddiadau pwysig. Gyda llaw, cefnder i mi sy'n byw yng Nghymru adroddodd y stori i mi, tra bod Brett bellach yn byw yn Llundain.

Yn aml byddwn yn siarad am 'amrywiaethau', fel petaent rywsut yn bodoli ar wahân i'r 'gweddill ohonom'. Cyfeirir at lawer fel 'lleiafrifoedd'. Ond onid y gwirionedd yw bod amrywiaeth yn bodoli ym mhob un ohonom? Wrth uno amrywiaeth leiafrifol pawb at ei gilydd mae'n gwneud cymdeithas gyfan. 

Yr hyn sy'n wahanol yw'r ffordd rydym yn trin yr hunaniaethau hyn. Cymdeithas sy'n eu gwneud yn lleiafrifol, ond drwy ddod â'r straeon hyn i'r amlwg, gallwn ddathlu'r hyn sydd mor gyfoethog a hardd am ein cymdeithas, a'r llu o hunaniaethau a phrofiadau sy'n ei gwneud yr hyn ydyw.

Yn wir, mae angen cydnabod cymdeithas gyfan - a'i chynnwys yn orielau cyhoeddus ein hamgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lle mae cymaint o ddiffyg amrywiaeth yn dal i fodoli.

Felly, pan fyddwch chi'n ymchwilio ac yn ysgrifennu eich traethodau, nofelau a llyfrau, cofiwch am hyn ac edrychwch am y bobl sydd yng nghysgodion hanes.

Maen nhw yno bob amser. 


Yr awdur

Mae Norena Shopland yn Gymraes o hanesydd ac awdures sy'n arbenigo mewn ymchwilio, cofnodi a hyrwyddo hanes LHDT+, menywod a hanesion Cymreig. Wrth weithio'n agos gyda sefydliadau treftadaeth, mae'n curadu arddangosfeydd ar y pynciau hyn a hi yw un o sylfaenwyr  Hanes LHDT+ Cymru / LGBTQ+ Research Group Wales, sy'n uno ac yn cefnogi ymchwilwyr a phobl frwdfrydig dros hanes LHDTC+ Cymru.

Mae llyfrau gan Norena Shopland yn cynnwys A History of Women in Men's Clothes: From Cross-Dressing to Empowerment, Forbidden Lives: LGBT Stories from WalesA Practical Guide to Searching LGBTQIA Historical Records (LGBTQ Histories.


Dysgwch fwy ar OpenLearn




AC Collection

Mae’r adnodd hwn yn rhan o gasgliad Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan y casgliad.

 

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?