Gallwn bellach awtomeiddio arbrofion labordy, dadgodio a dehongli genomau, storio symiau mawr o ddata a modelu amrywiaeth eang o systemau cymhleth o epidemigau i gysylltiadau'r ymennydd. Mae meysydd pwnc bioleg, cyfrifiadureg a mathemateg yn dod at ei gilydd ynghyd er budd ein dyfodol.
Rydym yn gofyn cwestiynau ar hyd y ffordd i ddarganfod pa mor gyfforddus ydym ni gyda'r newidaidau cyflym rydym wedi'u gweld yn yr hyn sy'n bosibl, a'r hyn y gallem ddisgwyl ei weld erbyn 2030. Meddygaeth bersonol? Darllen gwybodaeth enetig o'ch ffôn symudol? Yna rydym yn gofyn: beth fyddwn yn ei wneud â'r holl ddata biolegol rydym yn eu casglu, a sut y byddwn yn eu rhannu? Rydym hefyd yn ymwybodol iawn nad yw data yr un peth â gwybodaeth: sut rydym yn mynd i wneud synnwyr o bopeth?
Y pynciau allweddol a gyflwynir ac a drafodir yw:
- Hanes bioleg ddigidol
- Technolegau newydd
- Biowybodeg a genomeg
- Gwyddor data
Nod y sesiwn hon yw:
- cyflwyno ychydig o botensial y pwnc cyffrous hwn
- dangos un o'r meysydd sydd ar gael i'r rhai sy'n mynd ymlaen i astudio cyfrifiadureg, bioleg neu fathemateg
- codi materion moesegol am fioleg ddigidol y bydd angen i bawb ohonom ymdrin â nhw erbyn 2030
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau
Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.
Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.
Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon