Mae’r Esboniadur yn adnodd ar-lein i fyfyrwyr addysg uwch a disgyblion ysgolion uwchradd sy’n cyflwyno gwybodaeth ar ffurf wicipedia mewn meysydd amrywiol.
Mae’r cofnodion yn gronfeydd o wybodaeth safonol, wedi’u llunio gan ddarlithwyr neu ôl-raddedigion y Coleg er mwyn hwyluso gwaith ymchwil gan fyfyrwyr.
Casgliadau
Beirniadaeth a Theori
Cofnodion ar y prif feirniaid a’r prif theorïwyr yng Nghymru a thu hwnt, symudiadau hen a newydd a dyfeisiau llenyddol.
Cerddoriaeth
Cofnodion yn ymwneud â cherddoriaeth Gymraeg a Chymreig.
Daearyddiaeth
Diffiniadau ac esboniadau o dermau daearyddol, gan gynnwys prosesau, tirffurfiau, damcaniaethau a thechnegau.
Ffilm a Theledu Cymru
Manylion ar ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg, a bywgraffiadau a chlipiau fideo o rai o ffigyrau allweddol y maes.
Ieithyddiaeth ac iaith
Diffiniadau, esboniadau ac enghreifftiau o astudiaethau ieithyddol.
Newyddiaduraeth
Diffiniadau ac esboniadau o dermau newyddiadurol.
Theatr Cymru Gynnar
Cofnodion ar ddramodwyr Cymreig a fu’n weithgar yn ystod yr hanner canrif rhwng 1880 a 1940, pob un â llyfryddiaeth lawn.
Drama Radio
Gwybodaeth drylwyr am dair drama allweddol – Siwan, Tŷ ar y Tywod a Tair – a’u dramodwyr.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon