Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Gwersi Galw Heibio – Hanes Celf

Diweddarwyd Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2020
Mae'r sesiwn 30 munud hon gyda Dr Samuel Raybone, darlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn gyfle i edrych o'r newydd ar Argraffiadaeth, sef y mudiad celf mwyaf poblogaidd erioed o bosibl.

Beth sy'n dod i'r meddwl pan fyddwch yn meddwl am Argraffiadaeth? Efallai'r tirweddau disglair a lliwgar? Neu'r golygfeydd beiddgar o Baris fodern? Efallai'r ciwiau hir y tu allan i arddangosfeydd neu nwyddau wedi'u masgynhyrchu: lilïau'r dŵr ar gasys ffonau, dawnswragedd bale ar fagiau cario?

Drwy ymarfer gwahanol 'ffyrdd o weld' celf y gorffennol, byddwch yn dysgu pethau newydd am hen gelf, ac yn cael blas ar sut beth yw astudio "hanes celf" yn y brifysgol.

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

Gwersi Galw Heibio – Pennod 4: Hanes Celf

 

 

Ynglŷn â Gwersi Galw Heibio

Mae Academyddion Prifysgol Aberystwyth yn galw heibio i ysgolion a cholegau amrywiol ledled y DU i addysgu gwersi ar amrywiaeth o bynciau gwahanol. Byddwch yn gweld sut beth yw cael eich addysgu gan ddarlithydd prifysgol, gan gael gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch astudiaethau cyfredol hefyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?