
Mae Myf.cymru yn fenter genedlaethol sy’n ymroddedig i wella’r gefnogaeth iechyd meddwl a llesiant sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ledled Cymru ac ymhellach. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma, ac annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gwefan myf.cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau, gan gynnwys canllaw Iechyd Meddwl A–Z, adran Hwb Myf sydd hefo cynnwys llesiant a grëwyd gan fyfyrwyr, a Hwb Fideo sy’n cynnwys sesiynau ffitrwydd, podlediadau a straeon personol.
Ewch at myf.cymru
Podlediad 'Sgwrs?'
Mae’r podlediad yn dod ag arbenigwyr iechyd meddwl, myfyrwyr a lleisiau adnabyddus Cymreig ynghyd i drafod pynciau perthnasol megis costau byw, niwroamrywiaeth a phrofiadau’r gymuned LGBTQ+, gyda phedair cyfres ar gael ar YouTube ac ar brif lwyfannau podlediadau.
Gwrandewch ar y podlediad: Apple Podcasts | Spotify
Apiau lles
Mae Myf.cymru hefyd yn cydweithio ar offer digidol fel yr ap Moving On In My Recovery sydd bellach ar gael yn Gymraeg. Mae'r teclyn deniadol hwn yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich taith adferiad a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd.
Maer’s ap Sorted yn hyrwyddo lles a gwrthiant trwy dechnegau seicoleg chwaraeon. Mae'r ddau ap ar gael i'w lawrlwytho ar siopau ap Apple a Google Play.
Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi ei greu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon