Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Pum awgrym ar gyfer gwneud ffrindiau yn y brifysgol

Diweddarwyd Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2022

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn gyfnod pryderus, gydag wynebau ac amgylchiadau anghyfarwydd. Ond mae'n gysur gwybod bod pawb yn yr un cwch.

Myfyrwyr yn eistedd wrth y bwrdd yn siarad


Dyma Rachel Byron, uwch ddarlithydd Iechyd Meddwl a Llesiant ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, i rannu pum awgrym am sut allwch chi fynd ati i feithrin cyfeillgarwch wrth i chi ddechrau ar eich taith yn y brifysgol.

Dogfen PDF Trawsgrifiad 78.0 KB

Rhowch gynnig ar bethau newydd

Gwnewch restr o bethau yr hoffech chi roi cynnig arnynt, a rhowch gynnig ar bob un ohonynt! Gall fod yn grŵp cerdded, grŵp canu, grŵp dawnsio, grŵp darllen... Gall dilyn eich diddordebau eich hun fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un anian â chi, sy'n sylfaen hyfryd i unrhyw gyfeillgarwch.

Ewch amdani

Pan fyddwn yn teimlo dan straen neu'n bryderus, neu ar ôl cyfnod hir o ynysu, gall aros gartref gyda bocs set fod yn opsiwn llawer mwy cyfforddus na mentro i weithgaredd cymdeithasol. Ceisiwch ddweud 'ie' i bethau, oherwydd gall hyn fod yn ffordd wych o greu cyfleoedd newydd a chwrdd â phobl newydd.

Gofynnwch gwestiynau

Gwybod beth i siarad amdano yw'r peth anoddaf wrth gwrdd â phobl newydd. Cofiwch, gallai'r person rydych chi'n siarad ag ef fod yn teimlo'n nerfus hefyd, a gall dod i wybod mwy amdano dawelu nerfau'r ddau ohonoch. Gofynnwch gwestiynau amdanynt – a chyn pen dim, byddant hwythau'n gofyn amdanoch chithau hefyd.

Gwenwch

Yn aml iawn, mae ein mynegiant wyneb yn dangos a ydym yn teimlo'n bryderus mewn sefyllfa gymdeithasol, a gallwn ymddangos yn flin neu'n oeraidd, heb sylweddoli. Ceisiwch wenu, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo fel gwneud. Yn ogystal â gwneud ichi edrych yn fwy cyfeillgar, gallai hefyd wneud ichi deimlo'n fwy hyderus.

Cymerwch yr awenau

Siaradwch â'r bobl yr hoffech chi siarad â nhw – peidiwch â disgwyl iddyn nhw ddod atoch chi. Ffordd dda o ddechrau sgwrs yw gofyn cwestiwn, neu gyflwyno eich hun. Os ydych chi'n teimlo'n nerfus, mae'n syniad da ymarfer cyflwyno eich hun. Po fwyaf rydych chi'n mynd ati i gyflwyno eich hun, y mwyaf hyderus fyddwch chi'n dod!

Darllenwch fwy ar blog Prifysgol Wrecsam.

 


Logo Prifysgol Wrecsam

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Wrecsam ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?