Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sesiwn Blasu: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff - Technoleg Wisgadwy

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021
Yn y sesiwn hon, mae Dr Marco Arkesteijn, Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Technoleg Wisgadwy ar gyfer Chwaraeon, Ymarfer Corff ac Iechyd.

Cefndir: Mae technoleg yn fwy a mwy ‘gwisgadwy’, sy'n golygu y gall unigolion gasglu data o ddyfeisiau y maent yn eu gwisgo. Mae Fitbits yn enghraifft amlwg, ond mae systemau tracio GPS mewn chwaraeon timau elît yn gyffredin iawn hefyd. 

Amcan: Yn y sesiwn 45 munud hon, byddwn yn edrych ar rai o'r dyfeisiau hyn, ac yn gweld sut y maent y gweithio, ble y cânt eu defnyddio a pha wybodaeth y maent yn ei darparu.

Gweithgareddau: Mewn grwpiau bach neu'n unigol, bydd mynychwyr yn dewis darn o gyfarpar ac yn chwilio'r rhyngrwyd i gael gwybodaeth amdano.

Allbwn: Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu ffeithlun sy'n cynnig crynodeb o'r darnau o gyfarpar.

Manteision: Drwy rannu canfyddiadau'r mynychwyr ar ddiwedd y sesiwn, ceir trosolwg a thrafodaeth am ddarnau gwahanol o dechnoleg wisgadwy.

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?