Yn 2005, bu newidiadau allweddol yn y dulliau a ddefnyddiwyd i ddeall datblygiad Damcaniaeth Darogan Meddwl, yn enwedig o ran gweld pethau o wahanol bersbectif, sy'n hanfodol mewn cyd-destunau cyfathrebu bob dydd ar gyfer oedolion a phlant. Cyn 2005, roeddem yn anghywir am hyn! Roeddem o'r farn bod Damcaniaeth Darogan Meddwl yn datblygu pan fydd plant tua 4-5 oed. Mae gwerslyfrau wedi cael eu hailysgrifennu ers hynny.
Dyma un o'r pynciau mwyaf diddorol a gafaelgar i'n myfyrwyr Seicoleg Israddedig, ac mae gwaith ymchwil yn mynd rhagddo o hyd ymhlith niwrowyddonwyr i ddeall y cysylltiadau niwronau sy'n sail i hyn.
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau
Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.
Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.
Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon