Am ganrifoedd, mae theatrau wedi cael eu dathlu fel man i ymgynnull; rhannu a chael profiad ar y cyd.
Yn ein byd Covid presennol, mae theatrau wedi bod yn fannau cyfyngedig, gwaharddedig ac â mynediad cyfyngedig. Mae cau'r mannau hyn yn codi cwestiynau ynghylch ar gyfer pwy y mae'r theatr a sut y mae'n cyrraedd cynulleidfaoedd.
Wrth i ni edrych i'r dyfodol, bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar y rhai sy'n creu Theatr a Pherfformiadau sy'n gweithio y tu allan i leoliadau theatr traddodiadol a sut y maent yn cysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol.
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Cyfres o weminarau: 'Heriau 2030'
Cyfres o weminarau sy'n edrych ar broblemau'r dyfodol o safbwynt amrywiaeth o bynciau fel Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Hanes a Busnes.
Mewn partneriaeth â Channel Talent, nod Prifysgol Aberystwyth yw rhoi cipolwg i chi ar ddulliau addysgu ac ymchwil darlithwyr wrth drafod y problemau y bydd y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod y degawd nesaf.
Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon