‘Gwnaeth rhannu profiadau fy helpu i ddeall beth oeddwn i’n mynd drwyddo a sut i wneud synnwyr ohono’.
(Dyfyniad gan ddefnyddiwr gwasanaeth yn Leach, 2015).
Er bod perthnasoedd da gyda phobl eraill yn gallu cynnal hiechyd meddwl da a bod yn gymorth pan mae ein iechyd meddwl yn cael ei herio, nid oes gan bawb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae’n bosib bod hyn oherwydd eu bod, am ryw reswm, wedi dechrau teimlo’n ynysig, neu oherwydd nad yw’r bobl maen nhw’n eu hadnabod yn gyfforddus yn siarad am broblemau emosiynol ac iechyd meddwl.
Gallwch ddarllen fideo hwn yn Saesneg.
yn Gymraeg, lle mae Dr Jonathan Leach yn egluro beth allwch chi ei wneud os oes gennych broblemau iechyd meddwl. Neu fel arall, gallwch wylio'rFelly, beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n poeni am eich iechyd meddwl ond nid oes gennych y cymorth cymdeithasol sydd ei angen arnoch?
1: Cael sgwrs gyda’ch Meddyg Teulu (GP)
Mae meddygon teulu wedi arfer siarad â chleifion am amrywiaeth eang o heriau bywyd, gan gynnwys problemau iechyd meddwl. Gall rhannu eich problem gyda rhywun arall fod yn ddefnyddiol iawn a dylai meddygon teulu wybod pa fathau eraill o gymorth sydd ar gael yn lleol. Os nad ydych yn credu mai’r meddyg teulu rydych wedi’i weld o’r blaen yw’r person gorau i siarad gydag ef, gofynnwch i’r derbynnydd neu i reolwr y practis am feddygon teulu eraill sydd â diddordeb penodol mewn helpu cleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2: Defnyddio gwasanaethau cymorth ar-lein neu dros y ffôn
Ystyriwch ddefnyddio llinellau gymorth ar-lein neu dros y ffôn er mwyn i chi allu dweud wrth rywun am eich pryderon neu eich problemau. Mae MIND Cymru, Samaritans Cymru, y Cynghrair Iselder a mudiadau eraill yn cynnig cymorth ac nid oes rhaid i chi fod mewn argyfwng i gysylltu â nhw. Mae grwpiau cymorth ar-lein ar gael ledled y wlad ar gyfer cyflyrau fel iselder, goroesi camdriniaeth, gorbryder, a chlywed lleisiau. Gellir dod o hyd i’r grwpiau hyn drwy chwilio ar y rhyngrwyd neu drwy ddilyn y dolenni a ddarperir gan fudiadau fel MIND Cymru, SANE, Hafal a’r Sefydliad Iechyd Meddwl.
3: Chwilio am gymorth cwnsela neu seicotherapi lleol
Dylai cwnsela a mathau eraill o gymorth seicotherapi fod ar gael yn eich ardal, er bod y gwasanaethau hyn yn gallu costio ac mae’n bosib bod rhestrau aros ar gyfer y rhai sy’n cael eu darparu gan y GIG. Mewn rhai ardaloedd, mae’r sector gwirfoddol yn darparu gwasanaethau cwnsela cost isel neu am ddim. Mae’n werth chwilio am y rhain ar-lein neu ofyn i’ch Meddyg Teulu am fanylion. Mae gan NHS Choices wefan a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i gymorth seicolegol dan y rhaglen Gwella Mynediad i Therapïau Seicolegol.
4: Chwilio am grwpiau hunan-gymorth sy’n cael eu rhedeg gan y defnyddwyr
Mae’n bosib bod grwpiau hunan-gymorth sy’n cael eu rhedeg gan ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd meddwl ar gael yn eich ardal, sy’n amrywio o ddelio â phroblemau iselder a gorbryder a ffyrdd o reoli’r lleisiau rydych yn eu clywed. Bydd gan y rhan fwyaf o’r rhain bresenoldeb ar-lein felly mae’n werth chwilio i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
5: Ymarfer ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar a darllen llyfrau hunan-gymorth
Mae amrywiaeth o lyfrau, taflenni a gwefannau hunan-gymorth ar gyfer y rhan fwyaf o broblemau meddyliol ac emosiynol ac mae rhai sy’n hyrwyddo technegau ymlacio ac ymarferion myfyrdod fel ymwybyddiaeth ofalgar. Gallwch ddefnyddio’r rhain i helpu chi’ch hun. Mae'r wybodaeth a ddarperir gan MIND Cymru yn fan cychwyn da.
6: Rhoi cynnig ar waith gwirfoddol neu weithgareddau chwaraeon a hamdden
Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol trwy wirfoddoli, addysg gymunedol, neu weithgareddau chwaraeon a hamdden fod yn ffordd dda o gysylltu â phobl eraill a gwella eich iechyd corfforol a meddyliol. Bydd eich llyfrgell leol yn fan cychwyn da i ddysgu mwy am weithgareddau o'r fath.
Gellir mynd i’r afael â llawer o broblemau iechyd meddwl trwy gael cymorth. Felly, er ei bod yn gallu bod yn hawdd ymgymryd â’r agwedd ‘aros a gweld’, os oes gennych anawsterau ers sawl wythnos neu fwy, mae’n werth ystyried un neu fwy o’r chwe awgrym a nodir uchod.
Cyfeirnodau
Leach, J (2015) Improving Mental Health through Social Support: Building Positive and Empowering Relationships, London: Jessica Kingsley.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.
Rhowch gynnig ar gwrs AM DDIM
Cymorth ychwanegol
- Tudalennau gwybodaeth a chymorth Mind
- Ffoniwch Samaritans Cymru ar eu llinell ffôn Gymraeg ar 0808 164 0123 am ddim neu edrychwch ar y ffyrdd eraill y gallwch gysylltu â nhw.
- Iechyd Meddwl y GIG - tudalennau byw’n dda
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon