Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Seiciatreg faethol fydd y driniaeth ar gyfer iechyd meddwl yn y dyfodol

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Mae Dr Joyce Cavaye, Uwch Ddarlithydd Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol Agored yn dadlau ei bod hi’n amser i addysg feddygol gymryd maeth o ddifrif.

Mae’n ffaith bod diffyg maeth hanfodol yn cyfrannu at iechyd meddwl gwael ymhlith pobl sy’n dioddef o orbryder ac iselder, anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwyd ADHD. Mae seiciatreg faethol yn ddisgyblaeth sy’n tyfu ac mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio bwyd ac atchwanygiadau i ddarparu’r maethau hanfodol fel rhan o driniaeth integredig neu driniaeth arall ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl.

Er hyn, nid yw’r dulliau maethol ar gyfer delio â’r cyflyrau gwanychol hyn yn cael eu derbyn yn helaeth gan feddygaeth brif ffrwd. Mae’r dewisiadau triniaeth yn tueddu i fod yn gyfyngedig i ganllawiau swyddogol Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal (NICE) sy’n argymell therapïau siarad a meddyginiaeth gwrth-iselder.

Fruit and vegetables Mae deiet cytbwys ac iach yn cyfrannu at lesiant meddyliol cadarnhaol.

Defnyddio gwrth-iselyddion

Mae nifer y bobl sy’n defnyddio gwrth-iselyddion wedi mwy na dyblu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn Lloegr, cafodd 64.7m o bresgripsiynau ar gyfer gwrth-iselyddion eu dosbarthu yn 2016, a oedd yn costio £266.6m. Mae hyn yn gynnydd o 3.7m o’i gymharu â nifer yr eitemau a gafodd eu rhoi ar bresgripsiwn yn 2015, ac yn fwy na dwbl y gwrth-iselyddion a gafodd eu dosbarthu yn 2006 (sef 31m).

Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen, mae gwrth-iselyddion yn fwy effeithiol na phlasebo wrth drin iselder. Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan Dr Andrea Cipriani, sy’n honni nad yw iselder yn cael ei drin yn ddigonol. Mae Cipriani yn credu bod gwrth-iselyddion yn effeithiol ac y dylid dosbarthu 1m arall o bresgripsiynau i bobl yn y DU.

Mae’r dull hwn yn awgrymu bod iechyd meddwl gwael sy’n cael ei achosi gan amodau cymdeithasol yn cael ei ystyried yn hawdd ei drin drwy roi meddyginiaeth. Ond, mae’r bobl y gallai gwrth-iselyddion eu helpu yn ceisio eu hosgoi oherwydd y stigma cymdeithasol sy’n gysylltiedig â salwch meddwl, ac mae’r stigma hwnnw’n arwain at wahaniaethu ac allgáu.

Yn yr Alban, cafodd 5,572 o blant dan 18 oed wrth-iselyddion ar gyfer gorbryder ac iselder yn 2016. Mae’r ffigur hwn wedi mwy na dyblu ers 2009/2010.

Ond yn ôl yr Athro David Healy, y seico-ffarmacolegydd Prydeinig, ni wnaeth 29 o dreialon clinigol am y defnydd o wrth-iselyddion ymhlith pobl ifanc ganfod unrhyw fuddion o gwbl. Dangosodd y treialon hyn, yn hytrach na lleddfu symptomau gorbryder ac iselder, roedd gwrth-iselyddion yn achosi i blant a phobl ifanc deimlo eu bod eisiau lladd eu hunain.

Mae Healy hefyd yn herio pa mor ddiogel ac effeithiol yw gwrth-iselyddion i oedolion. Mae’n credu bod gormod o wrth-iselyddion yn cael eu rhagnodi ac nid oes llawer o dystiolaeth fod eu defnyddio yn y tymor hir yn ddiogel. Yn ôl yr hyn a ddywedwyd, mae gwrth-iselyddion yn creu dibyniaeth, mae ganddynt sgil effeithiau annymunol ac ni ellir dibynnu arnynt i leddfu symptomau bob amser.

Maeth ac iechyd meddwl gwael

Mewn gwledydd datblygedig fel y DU, rydym yn bwyta mwy o amrywiaeth o fwydydd nag erioed o’r blaen – ond nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n iach. Y gwirionedd yw, nid oes llawer o bobl yn bwyta digon o’r maetholion sy’n hanfodol ar gyfer iechyd ymennydd da, maent yn dewis deiet o fwydydd sydd wedi’u prosesu ac sy’n cynnwys ychwanegion artiffisial a siwgr.

Mae’r cysylltiad rhwng iechyd meddwl gwael a diffyg maeth wedi’i gydnabod ers llawer o flynyddoedd gan faethegwyr sy’n gweithio yn y sector meddygaeth gyflenwol. Fodd bynnag, dim ond nawr mae seiciatryddion yn dod yn fwy ymwybodol o fanteision defnyddio dulliau dietegol i ddelio ag iechyd meddwl, gan alw ar eu cyfoedion i gefnogi a gwneud gwaith ymchwil i’r driniaeth newydd hon.

Blueberries

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o gyflyrau iechyd meddwl yn cael eu hachosi gan lid yn yr ymennydd, ac mae hynny’n achosi i gelloedd ein hymennydd farw yn y pen draw. Mae’r llid yn dechrau yn ein perfedd ac mae’n gysylltiedig â diffyg maeth o’n bwyd, fel magnesiwm, asidau brasterog omega-3, profiotigau, fitaminau a mwynau. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol er mwyn i’n cyrff allu gweithio yn y ffordd orau bosibl.

Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod atchwanegiadau bwyd fel sinc, magnesiwm, omega 3 a fitamin B a D3 yn gallu helpu i wella hwyliau pobl, lleddfu gorbryder ac iselder a gwella gallu meddyliol pobl sydd ag Alzheimer's.

Alzheimer's disease Mae ymchwil wedi dangos bod atchwenagiadau fel sinc, magnesiwm, a fitamin B a D yn gallu gwella gallu meddyliol pobl sydd ag Alzheimer's.

Mae magnesiwm yn un o’r mwynau pwysicaf i sicrhau’r iechyd gorau posibl, ond mae gan lawer o bobl ddiffyg magnesiwm. Gwnaeth un astudiaeth ganfod bod un atchwanegiad magnesiwm sitrad bob dydd yn arwain at lai o iselder a gorbryder, ni waeth beth yw eich oedran na’ch rhyw, na pha mor ddifrifol yw eich iselder. Nid oeddent yn parhau i wella ar ôl rhoi’r gorau i gymryd yr atchwanegiad.

Mae asidau brasterog omega-3 yn faethyn arall sy’n allweddol er mwyn i’r system nerfol ganolog allu datblygu a gweithredu - ac mae diffyg asidau brasterog omega-3 yn gysylltiedig â hwyliau isel, dirywiad gwybyddol a dealltwriaeth wael. 

Mae rôl profiotigau – y bacteria byw a buddiol yn eich system dreulio – o ran gwella iechyd meddwl wedi’i harchwilio gan seiciatryddion a maethegwyr. Maent wedi canfod bod cymryd profiotigau bob dydd yn gysylltiedig â lleihau iselder a gorbryder. Mae Fitamin B a sinc yn atchwanegiadau eraill sydd wedi’u canfod i leihau symptomau gorbryder ac iselder.

Gobaith ar gyfer y dyfodol?

Mae’r atchwanegiadau hyn ar gael dros y cownter mewn archfarchnadoedd, fferyllfeydd a siopau bwyd iach ar-lein. Mae’r prisiau a’r ansawdd yn gallu amrywio. Ar gyfer y bobl sydd heb ymateb i gyffuriau ar bresgripsiwn neu’r rheini sy’n methu dioddef y sgil effeithiau, gall ymyriadau maeth gynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.

Smiling girl Cafodd 64.7m o feddyginiaethau gwrth-iselder eu dosbarthu yn Lloegr yn 2016.

Mae tystiolaeth wyddonol newydd yn awgrymu y dylai seiciatreg faethol chwarae rôl bwysicach yn y gwasanaethau iechyd confensiynol wrth ddelio ag iechyd meddwl. Er mwyn lleihau baich salwch meddwl, mae angen i feddygon teulu a seiciatryddion fod yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng bwyd, llid a salwch meddwl.

Yn draddodiadol, mae addysg feddygol wedi anwybyddu gwybodaeth am faeth a’i gysylltiad â chlefydau. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle nad oes gan lawer o feddygon yn y DU ddealltwriaeth iawn o bwysigrwydd maeth. Credir nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi defnyddio ymyriadau maeth i atal neu i gynnal llesiant ac felly dietegwyr sy’n gorfod rhoi cyngor amdanyn nhw, nid meddygon.

Mae defnyddio atchwanegiadau bwyd yn cynnig dull arall sydd â’r potensial i wneud newid sylweddol i iechyd meddwl bob grŵp oedran.

Ond wrth i’r dystiolaeth gynyddu, mae’n bryd i addysg feddygol gymryd maeth o ddifrif er mwyn i feddygon teulu a seiciatryddion y dyfodol wybod cymaint am sut mae’n cyfrannu at iechyd da ag y maent yn gwybod am anatomeg a ffisioleg. Gall cyflwr ein hiechyd meddwl ddibynnu arno.

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

Parhau i ddysgu...

 

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?