Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Dinasyddiaeth Weithgar yng Nghymru

Diweddarwyd Dydd Llun, 24 Ionawr 2022
Adnoddau ar-lein am ddim i'ch helpu i feddwl yn feirniadol am gymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac i'ch helpu i ddefnyddio'ch llais fel dinesydd.

AC Collection Body Header

Mae dinasyddiaeth weithgar yn golygu'r arfer o bobl yn cymryd rhan a chael gwybod am yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau ac ar draws y wlad. Mae hefyd yn golygu bod pobl yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu lleisiau i geisio sicrhau newid ac i lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Yng Nghymru, mae hynny'n cynnwys penderfyniadau a wneir yn y Senedd. Ers creu'r Senedd, mae mwy a mwy o bwerau wedi'u trosglwyddo o Lywodraeth y DU, wedi'i lleoli yn San Steffan, i'r Senedd, ac i Lywodraeth Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd. Yr enw ar y broses hon yw datganoli.

Wrth i'r Senedd dyfu mewn oedran a chyfrifoldeb, ac wrth i Lywodraeth Cymru gymryd mwy o bŵer, felly hefyd mae bywyd dinesig Cymru wedi datblygu. Mae hyn yn golygu bod mwy o gyfleoedd bellach i bobl gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, ac i'w llunio, ac, yn eu tro, dod yn ddinasyddion gweithgar.

Mae gan wleidyddion, cyrff y llywodraeth, a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda nhw rôl i'w chwarae o ran galluogi newid. Mae gan y cyfryngau rôl bwysig o ran dylanwadu arno a rhoi gwybod i bobl am wleidyddiaeth a materion cyfoes. Mae addysg hefyd yn hanfodol er mwyn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar bobl i'w wneud yn dda.

Dyna pam mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi dod â'r casgliad hwn o adnoddau ar-lein am ddim ynghyd i'ch helpu i feddwl yn feirniadol am gymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac i'ch helpu i ddefnyddio'ch llais fel dinesydd.

Mae'r casgliad yma hefyd ar gael yn Saesneg. | This collection is also available in English.

Adnoddau dysgu ar-lein am ddim


Cyrsiau, erthyglau a fideos ar gael ar OpenLearn.

Pori drwy ragor o adnoddau​

 

Ymchwil


Lleisiau'r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau'n Gweithio dros Gymru

Adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru 

Comisiynwyd yr ymchwil hon gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru a'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA), sy'n cydweithio â dinasyddion Cymru i ystyried sut y gellir gwella mynediad at y cyfryngau, newyddion a gwybodaeth yng Nghymru, a dealltwriaeth ohonynt, yn enwedig yn oes y 'newyddion ffug'.

Mae cyfryngau Cymru yn wynebu argyfwng: mae toriadau mewn cyllid, cau gwasanaethau newyddion, bygythiadau i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a llai o gyfleoedd i newyddiadurwyr weithio yng Nghymru ers rhai blynyddoedd wedi bod yn arwyddion o ddemocratiaeth gyda sgwâr cyhoeddus sy’n lleihau.

Er mwyn creu atebion i'r argyfwng hwn, yn ystod haf 2022 comisiynodd yr IWA a'r Brifysgol Agored yng Nghymru Banel Dinasyddion o bymtheg o bobl o bob cefndir yng Nghymru i drafod y materion hyn yn fanwl ac i lunio argymhellion ar gyfer atebion. Canfu’r grŵp y dylid gweithredu mesurau a fyddai’n caniatáu i Gymru gefnogi ei chyfryngau’n fwy effeithiol, a rhoi buddiannau dinasyddion a chymunedau yn ganolog iddynt.



Dolenni defnyddiol


Adnoddau a gwybodaeth gan sefydliadau eraill.

 

Pori drwy ragor o ddolenni



Senedd Nawr
Dysgwch beth sy'n digwydd yn y Senedd a ffyrdd y gallwch gymryd rhan gan gynnwys ymgynghoriadau agored a deisebau.

Llywodraeth Cymru – Ymgynghoriadau
Dewch o hyd i ymgynghoriadau agored ar wefan Llywodraeth Cymru y gallwch ymateb iddynt. 

Llywodraeth Cymru​ – Penodiadau cyhoeddus
Mae Penodiadau cyhoeddus ar gyfer aelodau pwyllgorau sy'n arwain ac yn gwneud penderfyniadau ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall unrhyw un wneud cais am benodiad cyhoeddus.

Sefydliad Bevan
Melin drafod annibynnol a ffurfiwyd i gryfhau polisi cyhoeddus ar ôl datganoli. Gallwch ddod o hyd i ddadansoddiadau ac adroddiadau manwl ar y materion mawr sy'n wynebu Cymru.

TheyWorkForYou
Gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n cymryd data agored gan Senedd y DU ac yn ei gyflwyno mewn ffordd hawdd ei ddeall, hawdd ei ddilyn fel system rybuddio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am weithgarwch eich AS.

Full Fact
Sefydliad gwirio ffeithiau annibynnol a all helpu i gadarnhau dilysrwydd darllediadau newyddion a straeon cyfryngau cymdeithasol.

Snopes.com
Ffynhonnell gyfeirio ddefnyddiol ar gyfer ymchwilio i chwedlau trefol byd-eang, gwerin, mythau, sibrydion, a chamwybodaeth.

 

 


Rhagor o gasgliadau OpenLearn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?