Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Hanes anthem genedlaethol Cymru

Diweddarwyd Dydd Mercher, 14 Medi 2022

Sut daeth ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn anthem genedlaethol Cymru?

Dysgwch fwy am gyrsiau cerddoriaeth Y Brifysgol Agored. 

Pryd mae cân yn troi yn anthem genedlaethol? Ysgrifennwyd rhai i’r diben hwnnw (Ffrainc), tra bod eraill wedi eu mabwysiadu (Yr Alban). Mae nifer ar ffurf gweddi neu ddeisyfiad (Lloegr), tra bod eraill yn alwad i ryfel (Iwerddon), ond y faled wledig ‘Glan Rhondda’ a esblygodd i fod yn gân genedlaethol Cymru.

Ffoto o’r copi hysbys cyntaf o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn llaw’r cyfansoddwr.Y copi hysbys cyntaf o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn llaw’r cyfansoddwr. ‘Glan Rhondda’ yw’r teitl ac fe’i cyflwynir fel alaw sengl (heb harmoni na chyfeiliant) gyda geiriau. Ysgrifennwyd yr ail a’r trydydd pennill nad ydynt yn cael eu perfformio’n aml ar waelod y dudalen. (Llun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru)


Cynyddodd y momentwm i gyrraedd y statws hwnnw yn sgil cyfres o ddigwyddiadau rhyfeddol a ddatblygodd yn ystod Mawrth 1884. Ar ddiwedd cinio Dydd Gŵyl Dewi yng ngholeg newydd Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, safodd myfyrwyr ac aelodau staff ar eu traed i ganu cân y daethpwyd i’w hadnabod wrth ei geiriau agoriadol: ‘Hen wlad fy nhadau’. Cafodd ei hysgrifennu yn 1856 gan y tad a’r mab Evan a James James o Bontypridd fel gwrogaeth ramantus i etifeddiaeth Cymru: ei beirdd, cerddorion a’i hiaith. Nodwedd hynod yw’r saib yn y canol ar gyfer y gytgan deimladwy ‘Gwlad! Gwlad!’

Digon cyffredin oedd yr adroddiad am y cinio Dydd Gŵyl Dewi gan wasg Caerdydd, ond ysgogodd lythyr yn y South Wales Daily Post oddi wrth Frederick Atkins, organydd o Gaerdydd, a anwyd yn Lloegr ac a addysgwyd yn Rhydychen, a fabwysiadodd y teitl ‘Professor of Music’. Honnodd nad oedd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn Gymreig o gwbl, ond yn fersiwn llên-ladrad o gân werin a ddyrchafwyd  gan y cyfansoddwr Thomas Dibdin: ffugiad ‘nodyn am nodyn’ ydoedd a geiriau terfysglyd, cenedlaetholgar Cymraeg wedi eu hychwanegu. Cynyddu’n sydyn wnaeth yr ohebiaeth a ddilynodd. Tyngodd James James i’w gwreiddioldeb, ymgynghorwyd ag arbenigwyr a thaniwyd tymer. Roedd gan Atkins hanes ac agwedd – gwyntyllai ei deimladau gwrth-Gymreig yn aml; ond cyffyrddodd yr ymyrraeth yma â’r nerf boblogaidd.

Roedd yn stori wych ac roedd golygyddion papurau newydd wrth eu boddau’n gweld cynnydd yn eu ffigyrau cylchrediad, ond mae gan bob stori oes silff a daeth pen ar hon yn y Western Mail gyda’r cyhoeddiad fod ymgynghori i fod â’r awdurdod pennaf; ymhellach, roedd hynny i ddigwydd ‘drwy delegram!’. Griffith Rhys Jones (1834-97) a adnabuwyd gan bawb fel Caradog oedd yr ‘awdurdod’. Yn gyn ôf o Drecynon ac yn gerddor gwych, daeth yn arwr cenedlaethol fel arweinydd y Côr Mawr oedd yn cynnwys 450 o leisiau o bob rhan o dde Cymru yn ystod hafau 1872 a 1873 er mwyn cystadlu yn y Palas Crisial. Daeth y côr i’r brig ddwywaith yn olynol, gan greu argraff gref ar gynulleidfaoedd Llundain. Dyma’r tro cyntaf i Gymru gael ei chynrychioli’n boblogaidd mewn unrhyw ddigwyddiad cystadleuol, felly roedd y ddwy fuddugoliaeth o bwysigrydd cenedlaethol. Roedd llawer yn ystyried hynny fel dilysiad o’r honiad chwedlonol mai Cymru oed ‘gwlad y gân’. 



Roedd ymateb Caradog i Atkins yn ddiamod: doedd dim sail o gwbl i’r honiadau am lên-ladrad. Daeth y stori i ben, codwyd cywilydd ar Atkins, a pharhaodd y gân ar hyd ei llwybr tuag at anfarwoldeb. Cyfansoddwyd yr alaw gan James, y mab, a’r geiriau gan Evan, y tad. Awgryma’r ffynonellau llawysgrifen a’r cyd-destun hanesyddol i’r gân gael ei pherfformio’n delynegol a myfyriol i gyfeiliant byrfyfyr telyn – nid yn annhebyg i strymio meddal gitâr. Fe’i cyhoeddwyd yn Rhuthun tua 1860 gyda chyfeiliant piano mewn casgliad o’r enw Gems of Welsh Melody. Ond symbylodd y digwyddiadau yn y Palas Crisial ddiddordeb gwyllt mewn cerddoriaeth Gymreig y tu allan i Gymru: casgliadau o ganeuon yn ymddangos ar y farchnad yn Llundain a chynhaliwyd Gwyliau Cymreig yn Covent Garden.

Roedd yn amlygiad Fictoraidd o ‘Cŵl Cymru’.

Roedd yn amlygiad Fictoraidd o ‘Cŵl Cymru’. Roedd ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn ffefryn. Fe’i gosodwyd yn aml ar ddiwedd llyfrau canu, o bosibl i efelychu arferiad cynyddol lle’r oedd cynulliadau Cymreig o unrhyw bwys yn gorffen gyda datganiad cymunedol ohoni. Difyr dychmygu beth oedd barn Atkins am hynny. Cafodd ei ymyrraeth yn 1884 effaith i’r gwrthwyneb hollol i’r hyn a fwriadwyd ganddo, ac roedd cyhoeddiad Caradog wedi cadarnhau nid yn unig dilysrwydd y gân, ond mewn ystyr ddyfnach, rhywbeth roedd llawer o Gymry eisiau credu amdanynt eu hunain.

Ni chafwyd datganiad swyddogol yn cyhoeddi mai ‘Hen Wlad fy Nhadau’ oedd anthem genedlaethol Cymru. Ond cafwyd digwyddiad y cred rhai (yn optimistaidd o bosibl) oedd yn gyfystyr â hynny. Cynhaliwyd eisteddfod yn Neuadd Albert yn 1887 ac yn ôl y disgwyl daeth y digwyddiad i ben drwy ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Roedd Tywysog Cymru, mab hynaf y Frenhines Fictoria ac etifedd y goron, yn y bocs brenhinol. Wrth i’r cord cyntaf seinio, gwelwyd ei fod wedi codi ar ei draed fel arwydd o barch. Heb os roedd hyn yn arwydd: roedd gan Gymru, gwlad heb ymreolaeth weinyddol ond a oedd yn meddu ar hunaniaeth ddiwylliannol ddigamsyniol, bellach ei hanthem genedlaethol ei hun.

Illustration of the Prince of Wales attending the 1887 Welsh Eisteddfod at the Royal Albert Hall.Llun o’r sylw a roddwyd yn The Illustrated London News i’r Eisteddfod Gymraeg yn Neuadd Albert ym mis Awst 1887. Yn ystod y digwyddiad hwn yr honnir i Dywysog Cymru sefyll ar ei draed i ganu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. (© Illustrated London News Ltd. Cedwir pob hawl.)


Dysgwch fwy ar OpenLearn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?