Mynd i'r prif gynnwys
  • Gweithgaredd
  • 5 munud

Ydych chi’n entrepreneur cudd?

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 19 Mai 2026

Mae entrepreneuriaeth o’ch cwmpas chi bob dydd a gall fod ar sawl ffurf wahanol. Efallai fod gennych CHI sgiliau entrepreneuraidd yn cuddio yn rhywle. 

Pan mae pobl yn clywed y gair ‘entrepreneur’, maen nhw’n aml yn meddwl am fusnesau newydd neu bobl enwog ym myd busnes. Ond gall fod yn llawer mwy syml na hynny. Os ydych chi’n mwynhau meddwl am syniadau newydd, datrys problemau, neu’n hoffi arwain er mwyn gwneud pethau’n well, efallai fod gennych chi feddylfryd entrepreneuraidd yn barod.

Drwy ddeall hyn, gallwch agor y drws i opsiynau newydd ar gyfer eich dyfodol. Gallai siapio eich dysg, rhoi hwb i'ch hyder, neu agor llwybrau gyrfa newydd. Cewch ragor o wybodaeth drwy gymryd sbec ar ein canllaw a chanfod a ydych chi’n entrepreneur – a beth ddylech chi ei wneud nesaf.

Agor y canllaw:
Ydych chi’n entrepreneur cudd?

Canllaw: Ydych chi’n entrepreneur cudd?


Logos Busnes Cymru / Y Brifysgol Agored


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?