Sut y gallaf gael fy mathodyn?
O fewn y cwrs:
- Ewch i Fy Mhroffil a chliciwch ar Fy Mathodyn.
- Ar y dudalen Fy Mathodyn, i weld manylion y bathodyn neu i'w lawrlwytho, cliciwch ar y bathodyn a cewch eich tywys i'r dudalen Gwybodaeth am y Bathodyn.
Bydd angen i chi lawrlwytho eich bathodyn digidol i'ch cyfrifiadur os hoffech ei rannu gyda'ch cyflogwr neu eu hychwanegu at eich CV a'r cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd ychwanegu'r bathodyn at eich Mozilla Backpack, adnodd meddalwedd sy'n eich galluogi i gasglu unrhyw fathodynnau ynghyd mewn un lle.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau yn gweld eich bathodynnau, cysylltwch â openlearncreate@open.ac.uk.