Sesiwn 5: Nodi fy nghamau nesaf a ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth a chymorth
Cyflwyniad

Rydych wedi bod yn ystyried sut i weithio tuag at eich nodau a sut y gallwch helpu eich hun. Nawr mae gennych syniad o'r man rydych am ei gyrraedd a pha anawsterau y gallech eu hwynebu. Rydych hefyd yn ymwybodol pa agweddau ar eich bywyd a allai eich helpu. Mae angen help ar bob un ohonom i gyflawni ein nod mewn bywyd. A ydych yn adnabod unrhyw un a allai eich helpu a'ch cefnogi hefyd - aelodau o'r teulu, ffrindiau, cydweithwyr, staff canolfan gofalwyr neu eraill?
Gwrandewch ar Alana yn disgrifio'r cymorth a gaiff gan gynllun Gofalwyr Oedolion Ifanc yn NEWCIS, ei chanolfan gofalwyr leol.

Transcript
Edrychwch ar y diagram gwe pry cop yn Ffigur 5.2, sy'n dangos rhwydwaith cymorth Claire.
Nawr edrychwch ar rwydwaith cymorth Suzanne.