Eich cymorth a'r camau nesaf
- A oeddech yn defnyddio rhai o'r un sgiliau â Claire, Suzanne neu Alana?
- A wnaethoch ddarganfod unrhyw sgiliau eraill, nad oeddech efallai yn ymwybodol ohonynt?
- A ydych nawr yn ymwybodol o rinweddau sydd gennych ond nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen?
- A yw eich rhwydwaith cymorth yn debyg i rai Claire, Alana a Suzanne o gwbl?
Soniwyd am deulu a ffrindiau ond hefyd sefydliadau a allai eu helpu. Yn y gweithgaredd nesaf byddwch yn meddwl am y bobl a'r sefydliadau a allai eich helpu i gyflawni eich nodau yn eich barn chi.
Gweithgaredd 5.1 Fy rhwydweithiau cymorth
Meddyliwch am y bobl sydd wedi eich helpu neu a allai eich helpu yn y dyfodol gydag unrhyw gynlluniau sydd gennych.
Nawr gwnewch ddiagram gwe pry cop fel yr un ar gyfer Claire a Suzanne ar daflen Gweithgaredd 5.1 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a ddarparwyd.
NEU
Ewch i Weithgaredd 5.1 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Rydych bron wedi cyrraedd diwedd y cwrs hwn. Mae a wnelo Gweithgaredd 5.2 â chynllunio'r cam nesaf tuag at eich nodau - mae angen i chi feddwl yn ofalus am ble rydych yn ceisio ei gyrraedd.
Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar gael os hoffech gael rhagor o arweiniad neu gymorth. Gallwch ymweld ag Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored,
Gallwch hefyd ddefnyddio'r adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs am ddolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer rhagor o adnoddau a chymorth.
Gweithgaredd 5.2 Fy nod hirdymor a 'cham nesaf' cyntaf
Gan ddechrau gyda nawr a'ch sefyllfa bresennol, meddyliwch yn ofalus iawn am yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cyflawni eich nod. Ystyriwch y gweithgareddau rydych wedi'u gwneud a'r hyn rydych wedi'i ddysgu ohonynt:
- eich profiadau blaenorol (Gweithgaredd 2.3)
- y sgiliau, y rhinweddau a'r galluoedd sydd gennych (Gweithgaredd 3.2)
- unrhyw beth a wnaiff eich helpu, yn ogystal ag unrhyw anawsterau y gallai fod angen i chi eu goresgyn (Gweithgareddau 4.3 a 4.4)
- unrhyw bobl a fydd yno i'ch helpu (Gweithgaredd 5.1).
Rydym wedi clywed gan Suzanne drwy gydol y cwrs - a dyma'r nodau hirdymor a'r camau nesaf cyntaf a nododd.
Fy nod hirdymor |
|
Beth rwy'n mynd i'w wneud? |
|
O ble y caf help a chyngor? |
|
Pryd y gwnaf hyn? |
|
Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 5.2 i fyfyrio ar eich nod hirdymor a'r camau y byddwch yn eu cymryd i'w gyflawni. Defnyddiwch y wybodaeth hon i ysgrifennu brawddeg sy'n dechrau: 'Y cam cyntaf rwyf am ei gymryd ...'
NEU
Ewch i Weithgaredd 5.2 yn eich Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.