Adolygu eich tabl
Er mwyn eich helpu i grynhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch myfyrdodau, hoffem i chi ddychwelyd i'r tabl y gwnaethoch ei lunio yn Sesiwn 1.
Gweithgaredd 5.3 Adolygu fy nhabl

Yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn gwnaethom ddweud bod myfyrio yn ffordd o weithio ar yr hyn rydym yn ei wybod eisoes a'i fod yn cynhyrchu gwybodaeth newydd. Drwy ailedrych ar y tabl a gwblhawyd gennych yn Sesiwn 1 gallwch asesu'r broses fyfyrio hon. Os gwnaethoch arbed copi o'r tabl, cadwch ef wrth law oherwydd bydd ei angen arnoch ar ddiwedd y gweithgaredd hwn.
Edrychwch ar dabl Alana eto er mwyn eich atgoffa.
Sut wyf yn gweld fy hun nawr? | Beth sy'n fy ngwneud yn hapus? |
|
|
Beth ydw i'n fwyaf balch ohono? | Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol? |
|
|
Fel gyda Sesiwn 1, llenwch y blychau eich yng Ngweithgaredd 5.3 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
NEU
Ewch i Weithgaredd 5.3 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Os ydych yn gweithio mewn grŵp a'ch bod am rannu eich atebion, pan fyddwch wedi cwblhau eich tabl, dylech ei gymharu â'r un a gwblhawyd gennych yn Sesiwn 1.
- A yw'r un peth?
- Oes unrhyw newidiadau?
Gall fod yn debyg iawn neu'n wahanol iawn. Mae myfyrio yn broses barhaus na fydd, o reidrwydd, yn esgor ar newidiadau yn syth, ond gall arwain at wahaniaethau bach yn y ffordd rydym yn meddwl amdanom ni'n hunain, ein cynlluniau a'n nodau a ddaw i'r amlwg dros amser.