Gweithgaredd olaf
Eich gweithgaredd olaf yw crynhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu o'r cwrs hwn.
Gweithgaredd 5.4 Beth rwyf wedi'i ddysgu?

Dyma'r deilliannau dysgu a restrwyd gennym yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn:
- gwell dealltwriaeth o'ch profiadau fel gofalwr a hefyd yn eich rolau ehangach
- dealltwriaeth o'r sgiliau amrywiol rydych wedi'u datblygu fel gofalwr ac yn eich rolau ehangach a sut y gellir eu trosglwyddo i sefyllfaoedd eraill
- gwerthfawrogiad o rinweddau personol a ddatblygwyd drwy eich rôl ofalu
- cyfle i feddwl am eich nodau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol
- syniad o sut y gallech weithio tuag at y nodau hynny a ble y gallech gael help a chefnogaeth
- y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) er mwyn cyflawni gweithgareddau myfyriol o ran ysgrifennu a chyfathrebu
- y gallu i ddefnyddio'r we er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol
- y gallu i archwilio a defnyddio ffyrdd newydd o fynegi syniadau.
Nodwch y deilliannau dysgu rydych yn meddwl eich bod wedi'u cyflawni, naill ai'n llawn neu'n rhannol. Hefyd nodwch unrhyw beth arall a gyflawnwyd gennych yn eich barn chi nad oedd ynddynt, fel gwneud ffrindiau newydd, dysgu bod pawb yn wynebu anawsterau o ryw fath ac ati.
Gallwch ddefnyddio taflen Gweithgaredd 5.4 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gwblhau'r gweithgaredd hwn
NEU
Ewch i Weithgaredd 5.4 yn eich Cofnod Myfyrio Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau astudio'r cwrs. Gobeithio eich bod wedi dysgu rhywfaint amdanoch eich hun: faint y gallwch ei wneud a beth yr hoffech ei wneud yn y dyfodol. Mae gan bawb gryfderau, rhinweddau a galluoedd ac weithiau mae angen help arnom i'w hadnabod a'u defnyddio. Gobeithio y byddwch yn mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych gyda'ch doniau!
Os nad ydych wedi gwneud yn barod, efallai y byddwch am edrych ar yr adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs. Mae'n cynnwys dolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer adnoddau a chymorth pellach gan gynnwys gwasanaethau cymorth i ofalwyr, gyrfaoedd, addysg a hyfforddiant.