2 Dysgu cyfunol
Yn flaenorol, gwnaethom gyflwyno’r gwahaniaethau rhwng addysgu anghydamserol a chydamserol. Cysyniad arall a allai fod yn ddefnyddiol iawn i’ch helpu i ddeall sut i addysgu ar-lein yw dysgu cyfunol. Mae dysgu cyfunol fel arfer yn cyfeirio at gwrs sy’n cynnwys elfennau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Fel arfer, bydd dull cyfunol yn dwyn ynghyd tair elfen graidd: gweithgareddau ystafell ddosbarth lle mae’r athro/athrawes yn bresennol; deunyddiau dysgu ar-lein (y gellir eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd – fel y gwelwch yn yr adran ar ‘ddysgu gwrthdro’); astudio annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau a ddarparwyd gan yr athro/athrawes, naill ai ar-lein neu ar ffurf copi caled, i atgyfnerthu cysyniadau neu ddatblygu sgiliau. Mae’r cyfuniad hwn o weithgareddau’n golygu bod gan yr athro/athrawes gyfuniad o rolau hefyd, gan ychwanegu elfen ‘hwylusydd’ at ei rôl wrth iddo/iddi drefnu a chyfarwyddo gweithgareddau grŵp, ar-lein ac all-lein.
Gall dysgu cyfunol helpu i ddwyn ynghyd prif fanteision dysgu cydamserol:
- presenoldeb yr athro/athrawes
- adborth uniongyrchol
- rhyngweithio â chymheiriaid.
Gall gyfuno’r rhain â phrif fanteision dysgu anghydamserol:
- annibyniaeth
- hyblygrwydd
- pennu’ch cyflymder eich hun.
Gall helpu i osgoi meini tramgwydd dysgu anghydamserol:
- ynysu dysgwyr
- diffyg cymhelliad.