Wythnos 2: Darganfod y cysylltiadau: egwyddorion a damcaniaethau ar gyfer deall offer digidol
Cyflwyniad
Sut mae dechrau addysgu ar-lein? Yr wythnos hon, byddwn yn edrych ar rai egwyddorion sy’n sail i addysgu ar-lein effeithiol, a sut gall damcaniaethau dysgu lywio dulliau addysgu. Wedyn, fe’ch cyflwynir i gategoreiddiad o’r technolegau a ddefnyddir wrth addysgu ar-lein. Yn olaf, fe’ch cyflwynir i fyd gwrthrychau dysgu. Trwy ddwyn hyn i gyd at ei gilydd, fe ddylech allu dechrau cynllunio’r hyn rydych eisiau ei gyflawni trwy addysgu ar-lein.
Myfyrdodau’r athro/athrawes
Yr wythnos hon, mae gennym ni glip gan Leanne, sy’n dweud wrthym am rai o’r offer a’r cysyniadau mae hi wedi eu gweld yn ddefnyddiol yn ei haddysgu. Gallwch wylio'r fideo [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] hwn yn Saesneg. Neu fel arall, gallwch ddarllen y trawsgrifiad hwn yn Gymraeg.
Erbyn diwedd yr wythnos hon, dylech chi allu:
- deall rhai o egwyddorion hanfodol addysgu ar-lein
- bod yn ymwybodol o rai damcaniaethau dysgu allweddol a dosbarthiadau o dechnolegau addysgu ar-lein
- deall cysyniad gwrthrychau dysgu a rhai o’u gwahanol ddosbarthiadau.