1.3 Datblygwch ymdeimlad o gymuned
Mae cysyniad Wenger (1998) o ‘gymunedau ymarfer’ wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ym myd addysg yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Mae Wenger yn awgrymu bod pobl sy’n rhannu nod neu ddiben cyffredin yn gallu ffurfio cymuned ymarfer i rannu gwybodaeth a phrofiadau. Mae aelodau’r gymuned yn ymarferwyr mewn maes penodol. Er enghraifft, gallent fod yn athrawon mewn maes pwnc sy’n trafod eu syniadau a’u profiadau mewn man ar-lein a rennir. Mae cyfranogiad gweithredol mewn cymuned ymarfer yn broses gymdeithasol, ac eto mae’n gwella dysgu unigolion ac mae hefyd yn gallu cynyddu eu cyfalaf cymdeithasol trwy ddatblygu cysylltiadau a chydnabyddiaeth.
Mae datblygu cymuned yn bwysig i ddysgu ar-lein, lle gall dysgwyr ymddieithrio neu deimlo’n ynysig yn rhwydd o ganlyniad i natur ymgysylltu ar-lein. Felly, meddyliwch am ffyrdd o’u cadw gyda’i gilydd ac yn ymgysylltiedig. Gallai hyn gynnwys eu hatgoffa o’r hyn y dylent fod yn gweithio arno ar unrhyw adeg benodol, neu ddatblygu ymdeimlad o gymuned rhwng y dysgwyr trwy wneud eich hun yn rhan allweddol o’r gymuned honno. Gan gyfeirio at gysyniad cymunedau ymarfer, gallech bwysleisio bod cysylltu a rhannu gyda phobl eraill o’r un anian yn gallu bod yn fuddiol iawn.
Fe allech weld eich bod yn treulio llai o amser yn ymgysylltu â myfyrwyr trwy ddarlithiau neu sesiynau traddodiadol oherwydd bod y deunydd hwn yn cael ei gyflwyno ar ffurf y gallant gael ati’n annibynnol unrhyw bryd. Mewn amgylchedd ar-lein, gall rôl yr athro/athrawes ddod yn fwy cefnogol a cholegol, i’r graddau bod y dysgwyr yn deall mai eich prif rôl yw eu helpu i lwyddo ar y cwrs. I’r perwyl hwn, fe all fod yn ddefnyddiol ffurfio perthynas unigol gyda phob dysgwr yn hytrach na dibynnu ar negeseuon e-bost torfol neu awtomataidd bob amser.